Ein lleoliad

Ein lleoliad

Ein lleoliad

Pencadlys 

Mae ein pencadlys yn Llundain ond mae gennym swyddfeydd ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n deall bod eich amgylchedd gwaith yr un mor bwysig â’r lleoliad a’r bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw. Dyna pam ein bod wedi sicrhau bod pob un o’n swyddfeydd yn lleoedd modern a golau i weithio ynddynt.  

Y Gwledydd 

Mae gennym swyddfeydd ym mhob un o wledydd y DU, yn ogystal â’n pencadlys yn Llundain a safleoedd eraill yn Lloegr. Mae swyddfeydd y gwledydd yng Nghaerdydd, Belfast a Chaeredin yn cael eu harwain gan gyfarwyddwr penodol ar gyfer pob gwlad. Mae’r timau yn y lleoliadau hyn yn gweithio i sicrhau bod gan Ofcom gynrychiolaeth dda ym mhob gwlad; a bod materion a nodweddion unigryw pob gwlad yn cael eu cynrychioli yn Ofcom. Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod ein gwaith yn cael ei dargedu, ei fod yn effeithiol a’i fod yn cael ei ddeall yn dda ledled y DU. 

Manceinion 

Dathlodd ein swyddfa ym Manceinion ei phen-blwydd cyntaf ym mis Medi 2022, ac mae’n tyfu o nerth i nerth. Rydyn ni’n dîm o dechnolegwyr, arbenigwyr data, economegwyr, cyfreithwyr, arbenigwyr polisi diogelwch ar-lein, yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ym maes gweithrediadau a phobl.  Ar hyn o bryd mae gennym dros 70 o aelodau, gyda’r bwriad o ddyblu hyn dros y blynyddoedd nesaf. 

Mae ein swyddfa yn adeilad modern o’r radd flaenaf yn Circle Square yng nghanol Oxford Road Corridor ym Manceinion.  

Swyddfeydd Rhanbarthol 

Mae gennym hefyd swyddfeydd rhanbarthol yn Warrington, a Birmingham a Baldock a Birmingham Spectrum.