Legal

Legal

Cyfreithiol Y grŵp

Mae ein grŵp Cyfreithiol yn cynnwys dau dîm – Cyfreithiol a Gorfodi.  Mae’r grŵp, sydd wedi’u lleoli yn Llundain a Manceinion, yn darparu cyngor a chefnogaeth gyfreithiol i bob grŵp yn Ofcom. Maen nhw’n gweithio gyda’r diwydiant ac yn mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio sy’n effeithio ar ddefnyddwyr a chystadleuaeth. Maen nhw hefyd yn gweithio gyda’n timau polisi i lunio, creu a gweithredu ein gwaith.

Y Tîm Cyfreithiol 

Mae’r tîm Cyfreithiol yn darparu cyngor cyfreithiol rhagweithiol i bob grŵp yn Ofcom er mwyn helpu i lywio ein polisïau. Mae gennym tua 50 o gyfreithwyr cymwys o amryw o gefndiroedd – ac mae pob un ohonynt yn dod ag amrywiaeth eang o brofiadau ac arbenigedd gyda nhw a enillwyd mewn practis preifat, timau cyfreithiol mewnol y diwydiant, a chyrff cyhoeddus. Mae’r tîm yn gweithio ar draws cylch gwaith Ofcom – cyfraith gyhoeddus, y cyfryngau, cyfathrebu, cyfraith cystadleuaeth a defnyddwyr, a diogelwch ar-lein. Fel cyfreithiwr yn Ofcom, byddwch chi’n gweithio ar faterion cymhleth ac uchel eu proffil sy’n aml yn destun trafodaeth a diddordeb gwleidyddol a chyhoeddus, ac fe allent godi pwyntiau cyfreithiol newydd ac arwyddocaol. Rydyn ni hefyd yn ymdrin â’r ymgyfreitha sy’n deillio o’n penderfyniadau rheoleiddio. 

Y tîm Gorfodi

Mae’r tîm Gorfodi yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wneud yn siŵr bod y rheoliadau a’r polisïau rydyn ni’n eu rhoi ar waith i amddiffyn pobl yn effeithiol. Mae’n gweithio’n agos gyda thimau polisi ar draws Ofcom ac yn ymgymryd â gwaith eiriolaeth i wella cydymffurfedd yn y diwydiant. Lle’i fod yn dod ar draws problemau, mae’n gorfodi’r gofynion mae Ofcom yn eu gosod ar ddarparwyr rheoleiddiedig, yn ogystal â gorfodi cyfraith defnyddwyr gyffredinol a chyfraith cystadleuaeth. Mae hefyd yn gwneud yn siŵr bod llwyfannau rhannu fideos yn cydymffurfio â’u rhwymedigaethau i ddiogelu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol ac anghyfreithlon, a bydd yn gyfrifol am orfodi’r drefn diogelwch ar-lein newydd.