Penderfyniad - Loveworld Limited

15 Ionawr 2021

Mae Ofcom wedi nodi i Loveworld Limited dorri rheolau darlledu ar ei wasanaeth crefyddol, Loveworld. Yn ein Penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw, canfu Ofcom fod The Global Day of Prayer, rhaglen 29 awr a ddarlledwyd ar 1 Rhagfyr 2020, yn cynnwys honiadau a allai fod yn niweidiol ac yn anghywir am bandemig y Coronafeirws, yn groes i Reolau 2.1 a 5.1 y Cod Darlledu.

Roedd The Global Day of Prayer yn cynnwys newyddion a phregethau gyda honiadau a allai fod yn niweidiol am y Coronafeirws, gan gynnwys rhai datganiadau bod y pandemig yn ddigwyddiad "wedi'i gynllunio" a grëwyd gan y "wladwriaeth ddofn" at ddibenion anfad, a bod y brechlyn yn ffordd "sinistr" o weinyddu "nanosglodion" i reoli a niweidio pobl. Honnodd rhai datganiadau fod profion "twyllodrus" wedi'u cynnal i dwyllo'r cyhoedd am fodolaeth y feirws a maint y pandemig. Roedd eraill yn cysylltu Covid-19 â chyflwyno technoleg 5G. Ni chefnogwyd yr honiadau a allai fod yn niweidiol a wnaed yn ystod y rhaglen hon gan unrhyw dystiolaeth ffeithiol ac fe'u darlledwyd heb gyd-destun na her. Daeth ymchwiliad Ofcom i'r casgliad bod y darllediad wedi methu â gwarchod cynulleidfaoedd rhag niwed yn ddigonol ac na chyflwynwyd y newyddion hwnnw gywirdeb dyladwy.

Mae Ofcom wedi cyfarwyddo'r Trwyddedai i beidio ag ailadrodd y rhaglen ac i ddarlledu datganiad o ganfyddiadau Ofcom ar ddyddiad ac ar ffurf sydd i'w phennu gan Ofcom. Oherwydd difrifoldeb y tor-rheol hwn ac mai dyma'r ail o'r fath hwn gan Loveworld Limited, mae Ofcom hefyd yn ystyried a ddylid gosod cosb bellach.

Penderfyniad - Loveworld Limited (PDF, 491.6 KB)