Penderfyniad – China Global Television Network

04 Chwefror 2021

Heddiw, mae Ofcom wedi diddymu trwydded CGTN i ddarlledu yn y DU, ar ôl i'w ymchwiliad ddod i'r casgliad bod y drwydded yn cael ei dal yn anghywir gan Star China Media Limited.

Mae China Global Television Network (CGTN) yn sianel newyddion lloeren iaith Saesneg ryngwladol.

Yn y DU, mae deddfau darlledu a basiwyd gan Senedd y DU yn nodi bod yn rhaid i drwyddedau darlledu fod â rheolaeth dros y gwasanaeth trwyddedig - gan gynnwys goruchwyliaeth olygyddol dros y rhaglenni y maent yn eu dangos. At hynny, o dan y deddfau hyn, ni all cyrff gwleidyddol reoli deiliaid trwydded.

Daeth ein hymchwiliad i'r casgliad nad oedd gan Star China Media Limited (SCML), deiliad trwydded y gwasanaeth CGTN, gyfrifoldeb golygyddol dros allbwn CGTN. O'r herwydd, nid yw SCML yn bodloni'r gofyniad cyfreithiol o gael rheolaeth dros y gwasanaeth trwyddedig, ac felly nid yw'n drwyddedai darlledu cyfreithlon.

Yn ogystal, ni fu modd i ni ganiatáu cais am drosglwyddo'r drwydded i endid o'r enw China Global Television Network Corporation (CGTNC). Y rheswm am hyn yw bod gwybodaeth hanfodol ar goll o'r cais, ac oherwydd ein bod o'r farn y byddai CGTNC yn cael ei diarddel rhag dal trwydded, gan ei fod yn cael ei reoli gan gorff a reolir yn y pen draw gan Blaid Gomiwnyddol Tsieina.

Rydym wedi rhoi cryn amser i CGTN gydymffurfio â'r rheolau statudol. Mae'r ymdrechion hynny bellach wedi cyrraedd eu terfyn.

Yn sgil ystyriaeth ofalus, gan roi sylw i’r ffeithiau i gyd a hawl y darlledwr a’r gynulleidfa i ryddid mynegiant, rydym wedi penderfynu ei fod yn briodol i ddiddymu trwydded CGTN i ddarlledu yn y DU.

Mae datganiad newyddion ar gael sy’n crynhoi ein penderfyniad.

Hysbysiad Dirymu – China Global Television Network (PDF, 406.9 KB)