Digwyddiadau
Mae Ofcom yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau gan gynnwys cynadleddau, seminarau a gweminarau, i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac ymwybyddiaeth o'n gwaith.
Ein nod wrth wneud hyn yw adeiladu cysylltiadau cryf a chydweithiol a fydd yn para'n hir gyda phawb sydd â diddordeb yng ngwaith Ofcom.
Digwyddiadau sydd ar y gweill
Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau: digwyddiadau mewn person yn y gwledydd a'r rhanbarthau
14-17 Mehefin 2022
Fel rhan o'n hymagwedd leol, seiliedig ar gymunedau at ran o'n gwaith ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, mae Ofcom yn falch o fod yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yng ngwledydd a rhanbarthau'r DU. Cynhelir y digwyddiadau yn ein swyddfeydd yng Nghaerdydd (14 Mehefin), Manceinion (15 Mehefin), Caeredin (16 Mehefin) a Belfast (17 Mehefin). Gallwch gofrestru ar gyfer pob un o'r digwyddiadau ar-lein.
Ym mhob digwyddiad byddwn yn cyflwyno ymagwedd gyffredinol Ofcom at ymwybyddiaeth o'r cyfryngau, yn ogystal ag ymchwilio'n fanwl i faes penodol o'n gwaith. Bydd gennym gyflwynwyr gwadd, a bydd cyfle i gael trafodaethau grŵp bach a sesiynau holi ac ateb.
Digwyddiad hybrid Ein Gwlad Ar-lein Ofcom
7 Mehefin 2022
Mae'n bleser gennym eich gwahodd i'n digwyddiad Ein Gwlad Ar-lein 2022, sydd â'r nod o arddangos ein hymchwil am dirwedd ar-lein y DU.
Cynhelir y digwyddiad hybrid ar-lein ddydd Mawrth 7 Mehefin hwng 13:45 a 17:00 (BST).
Mae'r digwyddiad yn gyfle i drafod canfyddiadau adroddiad diweddaraf Ein Gwlad Ar-lein, a fydd yn cael ei gyhoeddi ddechrau mis Mehefin. Ein Gwlad Ar-lein yw ein hadroddiad ymchwil blynyddol sy'n rhoi trosolwg manwl o dirwedd ar-lein y DU, gan ymchwilio i'r hyn y mae pobl yn ei wneud ar-lein a sut y cânt eu gwasanaethu gan lwyfannau ar-lein. Ymysg themâu allweddol yr adroddiad eleni mae gweithgarwch gemau fideo a phrofiadau cadarnhaol a negyddol o fod ar-lein.
Ar gyfer ein trafodaeth banel, ymunir â ni gan siaradwyr nodedig o gyrff y diwydiant ac o'r byd academaidd ac ymchwil. Thema'r drafodaeth fydd creu cynnwys a chymedroli cynnwys.
Gallwch gofrestru i ymuno ar-lein.
I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd gennym ar y gweill, cysylltwch â ofcomevents@ofcom.org.uk
Digwyddiad Rhithwir Ymchwil Ymwybyddiaeth Oedolion a Phlant o'r cyfryngau
25 Ebrill 2022
Mae'n bleser gennym eich gwahodd i ddigwyddiad rhithwir ar Ymchwil Ymwybyddiaeth Oedolion a Phlant o'r Cyfryngau diweddaraf Ofcom, a gyflwynwyd gan ein Cyfarwyddwr Grŵp, Strategaeth ac Ymchwil, Yih-Choung Teh.
Cynhelir y digwyddiad ar-lein ddydd Llun 25 Ebrill 2022 rhwng 12:00 a 13:30 (BST).
Bydd y digwyddiad yn arddangos ein canfyddiadau diweddaraf o'n hadroddiadau ymwybyddiaeth y cyfryngau, a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth 2022. Mae'r rhain yn cynnwys ein hadroddiadau Defnydd ac Agweddau Oedolion a Phlant o'r Cyfryngau, yn ogystal â'n mewnwelediadau ansoddol Bywydau'r Cyfryngau. Mae'r themâu allweddol yn cynnwys dealltwriaeth feirniadol, ymddygiad ar-lein ac allgáu digidol.
Bydd cyfle i chi wneud sylwadau a gofyn cwestiynau i'n tîm am y canfyddiadau.
Gallwch gofrestru i ymuno ar-lein
Esblygiad rhwydweithiau symudol i ateb y galw yn y dyfodol: rôl technoleg, sbectrwm a dwysád
16 Mawrth 2022
Rydym yn falch iawn i'ch gwahodd i ddigwyddiad sbectrwm Ofcom: 'Esblygiad rhwydweithiau symudol i ateb y galw yn y dyfodol: rôl technoleg, sbectrwm a dwysád’.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae traffig data symudol wedi cynyddu 40% o flwyddyn i flwyddyn ar gyfartaledd yn y DU, a hyd yn oed yn gyflymach mewn rhai gwledydd eraill. Rydym yn disgwyl i'r galw am ddata symudol barhau i dyfu. Bydd angen i rwydweithiau symudol esblygu i ateb y galw hwn a darparu profiad o ansawdd da i bobl a busnesau.
Mae Ofcom yn cynnal y digwyddiad hwn i ddod â rheoleiddwyr, y diwydiant symudol a phartïon eraill â diddordeb at ei gilydd i ystyried sut y gallai rhwydweithiau symudol ateb y galw am wasanaethau data symudol yn y dyfodol, a'r goblygiadau i sbectrwm.
Bydd y digwyddiad hybrid hwn yn cynnwys trafodaeth banel, a chyfle i'r gynulleidfa i holi ein siaradwyr.
Gallwch gofrestru i ymuno ar-lein.
Digwyddiad Mis Hanes LHDTC+ Ofcom
9 Chwefror 2022
Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad Mis Hanes LHDTC+ Ofcom ddydd Mercher 9 Chwefror, rhwng 4pm a 6pm. Gallwch fynychu ar-lein neu'n bersonol yn swyddfa Ofcom yn Riverside House, 2a Southwark Bridge Road, Llundain SE1 9HA.
Byddwn yn edrych ar gynrychiolaeth a phrofiadau LHDTC+ ar y sgrin a'r tu ôl i'r llenni.
Byddwn yn clywed gan:
- Russell T Davies, awdur sgrin o fri;
- Phyll Opoku-Gyimah (a elwir hefyd yn Lady Phyll), cyd-sylfaenydd UK Black Pride a chyfarwyddwr gweithredol y Ymddiriedolaeth Kaleidoscope;
- Bethany Black, digrifwr ar ei thraed, actor ac awdur; a
- Shivani Dave, ffisegydd, cyflwynydd a chynhyrchydd.
Bydd y digwyddiad hybrid hwn yn cynnwys trafodaeth banel, yn ogystal â chyfle i'r gynulleidfa ofyn cwestiynau i'n siaradwyr.
Digwyddiad rhithwir Cynllun Gwaith Ofcom 2022
24 Ionawr 2022
Cynhaliodd Ofcom ddigwyddiad rhithwir fel rhan o'r broses ymgynghori ar ein Cynllun Gwaith arfaethedig ar gyfer 2022/23.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl ddweud eu dweud ar ein cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae hyn yn rhan o'n proses ymgynghori ehangach cyn cyhoeddi ein datganiad Cynllun Gwaith ym mis Mawrth 2022.
Mewn newid o flynyddoedd blaenorol, eleni cynhaliwyd un digwyddiad gyda gwesteion o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu gwahodd i ymuno â'r digwyddiad unigol hwn fel yr oedd modd i fynychwyr a gweithwyr Ofcom glywed gan bawb.
Digwyddiad Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau: Ymagwedd Ofcom at ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein
21 Ionawr 2022
Fe'ch gwahoddir i ddigwyddiad rhithwir ar ymagwedd Ofcom at ymwybyddiaeth o'r cyfryngau ar-lein. Cyflwynodd y Prif Weithredwr y Fonesig Melanie Dawes uchafbwyntiau o'n cyhoeddiad diweddar ochr yn ochr â Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom, a'r tîm Gwneud Synnwyr o'r Cyfryngau.
Dros bawb: Amrywiaeth mewn darlledu 2021
30 Medi 2021
Ymunwch â ni yn nigwyddiad DROS BAWB ddydd Iau 30 Medi i ystyried gorffennol, presennol a dyfodol amrywiaeth ym maes darlledu yn y DU. Bydd y digwyddiad rhithwir hwn yn cynnwys trafodaethau, cyfweliadau a sesiynau hyfforddi, oll yn edrych ar ffyrdd ymarferol o wneud darlledu yn sector mwy amrywiol a chynhwysol.
Drwy gydol y dydd byddwn yn clywed lleisiau ar draws meysydd teledu a'r radio, gan bobl ar ddechrau eu gyrfaoedd i enwau sefydledig.
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i dargedu at unigolion yn y diwydiant darlledu.
Gofyn am siaradwr gan Ofcom ar gyfer eich digwyddiad
Os hoffech chi wneud cais i rywun gan Ofcom ddod i siarad yn eich digwyddiad, cysylltwch â'n swyddfa'r wasg.
A allwch chi gynnwys cymaint o fanylder â phosib er mwyn i ni ystyried eich cais, a byddwn yn cysylltu'n ôl â chi cyn gynted â phosib.