Rydyn ni wedi cyhoeddi canllaw heddiw ar y rheoliadau newydd i lwyfannau rhannu fideos (VSPs) sydd wedi’u lleoli yn y DU.
Mae llwyfannau rhannu fideos yn fath o wasanaeth fideos ar-lein lle gall defnyddwyr lwytho fideos i fyny a’u rhannu. Maen nhw’n caniatáu i ddefnyddwyr ymgysylltu ag amrywiaeth eang o gynnwys a nodweddion cymdeithasol.
O dan y rheoliadau newydd, rhaid i’r llwyfannau rhannu fideos gael mesurau priodol ar waith i ddiogelu plant rhag cynnwys a allai fod yn niweidiol, a phob defnyddiwr rhag cynnwys troseddol a chynnwys sy’n annog casineb a thrais. Hefyd bydd angen i lwyfannau rhannu fideos sicrhau eu bod yn bodloni safonau mewn perthynas â hysbysebion.
Nod y canllaw sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yw helpu llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU i ddeall eu rhwymedigaethau newydd, ac mae’n nodi ein dull gweithredu ar gyfer cyflawni ein dyletswyddau newydd.
Byddwn yn gweithio â darpar lwyfannau rhannu fideos i’w helpu i ddeall y camau y dylent eu cymryd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau. Byddwn hefyd yn datblygu ac yn ymgynghori ar ganllawiau pellach ar risgiau niwed i ddefnyddwyr a’r mesurau y dylai gwasanaethau eu cymryd i’w lliniaru.
Rydym yn deall mai bwriad Llywodraeth y DU yw y bydd y rheoliadau rheoli llwyfannau fideos yn aros mewn grym hyd nes y daw’r gyfundrefn Niweidiau Ar-lein newydd i rym.
Math o wasanaeth fideo ar-lein yw llwyfannau rhannu fideos (VSP). Maent yn caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho a rhannu fideos gyda phobl eraill ac ymgysylltu ag ystod eang o gynnwys a nodweddion cymdeithasol.
Cyflwynodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth newydd yn hydref 2020 a rodd bwerau Ofcom i reoleiddio llwyfannau rhannu fideos yn y DU. Daeth y pwerau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2020.
Ein gwaith ni yw sicrhau bod y llwyfannau rhannu fideos hyn (VSPs) sy'n dod o fewn ein hawdurdodaeth yn cymryd camau priodol i amddiffyn plant rhag cynnwys a allai fod yn niweidiol a phob defnyddiwr rhag cynnwys anghyfreithlon a anogaeth i gasineb a thrais. Gallwch ddarllen mwy am ein dull gweithredu yn ein canllaw byr.
Mae’n rhaid i VSPs asesu eu hunain p’un a ydynt yn dod o dan y rheoliadau ac felly o dan awdurdodaeth y DU ai beidio, ac yna mae’n rhaid iddynt hysbysu Ofcom erbyn 6 Mai 2021. Rydym wedi cyhoeddi arweiniad i’w helpu i wneud hyn.
Os bydd VSPs yn torri'r rheolau gallwn orfodi cosb ariannol o hyd at 5% o'u refeniw cymwys neu £250k (pa un bynnag yw’r mwyaf).
Nac ydy. Ein rôl yw sicrhau bod gwasanaethau a reoleiddir yn cymryd camau priodol i amddiffyn defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol, megis annog casineb a thrais. Byddwn yn sicrhau bod y mesurau mae’r VSPs yn eu mabwysiadu i amddiffyn defnyddwyr yn briodol ac yn gymesur. Os nad ydynt, byddwn yn cymryd camau gorfodi.
Er mai Ofcom yw rheoleiddiwr llwyfannau rhannu fideos o 1 Tachwedd 2020, rydym yng nghyfnod gweithredu'r gyfundrefn ar hyn o bryd nes cyhoeddir ein canllawiau ffurfiol y flwyddyn nesaf.
Yn ystod y cyfnod hwn, ein rôl yw sicrhau bod gan ddarparwyr fesurau priodol ar waith i ddiogelu defnyddwyr. Bydd cwynion gan y cyhoedd yn helpu i nodi materion posibl o ran cydymffurfio ond nid ydym yn datrys cwynion unigol.
Dylech bob amser gwyno'n uniongyrchol i'r llwyfan rhannu fideos dan sylw os oes gennych bryderon am gynnwys niweidiol ar y platfform.
Mae rheoleiddio llwyfannau rhannu fideos yn y DU yn rhywbeth dros dro. Bydd ar waith hyd nes y daw cyfundrefn niweidiau ar-lein newydd arfaethedig Llywodraeth u DU i rym. Disgwylir i ddeddfwriaeth niwediau ar-lein ehangach Llywodraeth y DU fod yn berthnasol i ystod lawer ehangach o wasanaethau ar-lein, gan gynnwys gwasanaethau nad ydynt wedi'u lleoli yn y DU. Yn gynharach eleni, dywedodd y Llywodraeth ei bod yn bwriadu penodi Ofcom fel y rheoleiddiwr niwed ar-lein.
Gallwch ddarllen am gynlluniau'r Llywodraeth yn ei Phapur Gwyn Niweidiau Ar-lein.