Y genedl yn symud ar-lein: Ofcom yn datgelu blwyddyn o fywyd ar-lein
Treuliodd oedolion y DU fwy o amser ar-lein ar gyfrifiaduron, ffonau clyfar neu lechi yn 2020 na'r rhai mewn gwledydd cymharol yn Ewrop yn ôl astudiaeth flynyddol Ofcom o arferion ar-lein y genedl.
Mae adroddiad Ein Gwlad Ar-lein Ofcom yn bwrw golwg ar flwyddyn ddigynsail, pan symudodd cyfathrebiadau, adloniant, diwylliant, manwerthu, gwaith ac addysg i gyd ar-lein.
Treuliodd oedolion y DU fwy na thair awr a hanner ar-lein bob dydd yn 2020 - dros awr yn fwy nag yn Yr Almaen nag yn Ffrainc a 30 munud yn fwy nag yn Sbaen.


Hefyd, gwariodd poblogaeth y DU bron £2.45bn ar, ac o fewn, apiau symudol trwy gydol y llynedd, gyda Tinder, Disney+, YouTube a Netflix ar frig y rhestr.
Tyfodd gwariant ar apiau iechyd a ffitrwydd 70% yn 2020, a'r ap dysgu ieithoedd, Duolingo, oedd yr ap addysg mwyaf poblogaidd – gan gyrraedd 1.77 miliwn o oedolion yn y DU ar frig ei boblogrwydd y llynedd. Cymraeg oedd yr iaith a dyfodd gyflymaf wrth gael ei dysgu gan ddefnyddwyr yn y DU (i fyny 44% yn 2020).
Y bil siopa yn cyrraedd
Gyda siopau'r stryd fawr yn cael eu gorfodi i gau oherwydd pandemig y coronafeirws (Covid-19), cododd gwerthiannau siopa ar-lein y DU 48% i bron £113 biliwn yn 2020. Gwelodd storfeydd ar-lein manwerthwyr bwyd a diod y cynnydd mwyaf mewn gwerthiannau, i fyny 82% o'i gymharu â 2019, a bu ymchwydd mewn gwerthiannau nwyddau cartref o 76% hefyd - oherwydd diddordeb cynyddol mewn gwelliannau cartref.
Tyfodd pŵer prynu plant ar-lein hefyd, wedi'i alluogi gan apiau arian poced digidol a chardiau debyg rhagdalu. Ers cyfnod clo gwanwyn 2020, mae pobl yn eu harddegau wedi bod yn gwario mwy o arian ar-lein nag oddi ar-lein, ac mae'r duedd hon wedi parhau i mewn i 2021, gyda 68% o wariant ar-lein a 32% oddi ar-lein ym mis Mawrth 2021.
Bodio i'r dde
Dwedodd tuag un o bob wyth o bobl sydd ar-lein yn y DU a mwy nag un o bob pump o'r rhai 15-34 oed iddynt ddefnyddio gwasanaeth cariad ar-lein cyn cyfnod clo gwanwyn 2020. Tinder oedd yr ap cariad mwyaf poblogaidd ymysg oedolion ifanc y DU - yr ymwelodd 11% o bobl 18-24 oed ag ef ym mis Medi 2020 - roedd Plenty of Fish yn fwyaf poblogaidd ymysg y grŵp oedran 45-54.
Fodd bynnag, gwelodd y cyfnod clo gynnydd mewn twyll cariad, gyda'r arian a gollir i dwyllwyr yn codi 12% i £18.5m.
Fideos cymdeithasol
Defnyddir gwefannau ac apiau fideo cymdeithasol gan bron yr holl oedolion sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yn y DU, a chan fwy na nawr o bob deg o blant tair i bedair oed. Mae oedolion ifainc yn ddefnyddwyr arbennig o drwm o lwyfannau fideos cymdeithasol, gyda phobl 18-24 oed yn treulio 1 awr 16 munud y dydd ar gyfartaledd ar YouTube ym mis Medi 2020 – cynnydd o 11 munud ers 2019.
Profodd TikTok dwf enfawr yn ystod y pandemig – o dair miliwn o ddefnyddwyr sy'n oedolion yn y DU ym mis Medi 2019 i 14 miliwn erbyn mis Mawrth 2021. Gwelodd TikTok y cynnydd mwyaf mewn defnydd bob dydd ymysg oedolion ifainc hefyd – gyda'r rhai 18-24 oed yn fwy na dyblu eu hamser arno yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2020 - i fyny o 17 munud i 38 munud.
Ymwelodd tua hanner (49%) o oedolion y DU (tua 26 miliwn) â gwefan neu ap i oedolion ym mis Medi 2020. Ymwelwyd â'r un fwyaf, Pornhub, gan tua thraean o oedolion sydd ar-lein ym mis Medi 2020 – gan gynrychioli tua hanner yr holl ddynion yn y DU, o'i gymharu â 16% o fenywod y DU sydd ar-lein.
Hunanymwybyddiaeth gymdeithasol
Er i'r rhan fwyaf o lwyfannau bennu isafswm oedran o 13 oed ar gyfer eu defnyddwyr , mae bron dau draean o blant y DU yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol erbyn iddynt gyrraedd 11 oed. Erbyn 15 oed, mae'r defnydd wedi codi i 95%.
Dywed tua naw o bob deg o blant (8-15 oed) fod cyfryngau cymdeithasol wedi helpu nhw i deimlo'n agosach at ffrindiau yn ystod y pandemig. Ond dywed cyfran debyg o bobl yn eu harddegau iddo greu pwysau o ran poblogrwydd. Mae dau draean o fechgyn a thri chwarter o ferched 7 i 16 oed hefyd yn cytuno y gall cyfryngau cymdeithasol achosi pryderon ynghylch delwedd y corff.
Adroddodd dros hanner y bobl ifanc 12 i 15 oed am gael profiad negyddol ar-lein yn 2020. Y profiad mwyaf cyffredin, a nodwyd gan bron traen, oedd bod rhywun nad oeddent yn ei nabod yn ceisio ffurfio cyfeillgarwch â nhw ar-lein. Roedd lleiafrif arwyddocaol wedi gweld rhywbeth brawychus neu a fu'n peri pryder, neu gynnwys rhywiol ei natur a barodd iddynt deimlo'n anghyfforddus.
Meddai Yih-Choung Teh, Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil Ofcom: “Mewn blwyddyn ddigynsail, rydym wedi gweld cynnydd sydyn iawn wrth i ni symud i wasanaethau ar-lein - sydd wedi darparu llinell fywyd i lawer o bobl yn ystod y cyfnod clo.
“Mae'r ymchwil hon yn bwysig tu hwnt er mwyn i ni gadw i fyny â'r newidiadau mewn technoleg, economeg ac ymddygiad, wrth i ni baratoi i ymgymryd â chyfrifoldebau rheoleiddio diogelwch ar-lein.”