3 Ebrill 2020

Disgwyliadau cynulleidfaoedd mewn byd digidol – a'r hyn y maent yn ei olygu i Ofcom

Mae Ofcom heddiw wedi cyhoeddi ein hymchwil am ddisgwyliadau cynulleidfaoedd yn y byd digidol sy'n rhoi darlun o deimladau pobl am yr hyn maent yn ei weld ac yn ei glywed ar y teledu ac ar radio a sut maen nhw'n teimlo y dylwn ni eu rheoleiddio.

Tony Close, Ofcom's Director of Content Standards

Mae Tony Close, Cyfarwyddwr Safonau Cynnwys Ofcom, yn cynnig ei farn am y canfyddiadau a sut maent yn helpu i lywio ein gwaith.

Mae pobl yn y DU yn teimlo’n angerddol ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei weld ac yn ei glywed ar y teledu, ar y radio ac ar-alw. Diolch i’r cyfryngau cymdeithasol, mae dadleuon ynglŷn â rhaglenni yn fwy byw a chyflym nag erioed.

Mae gwybodaeth yn cael ei lledaenu’n gyflym ynglŷn â rhaglenni sy’n werth eu gwylio sy’n ymgysylltu â phobl ac yn eu hysbrydoli nhw; y rhai sy’n nodweddu diwylliant Prydeinig ac sy’n dod â’r genedl ynghyd; a’r rhai sy’n ein gwneud ni’n emosiynol. Ond hefyd, mae gwylwyr a gwrandawyr yn gwybod pan mae darlledwyr yn gwneud camgymeriadau neu’n darlledu rhywbeth sy’n is na’r safon.

Rhan hanfodol o’n swydd ni yn Ofcom yw gwrando ar farn pobl, a gweithredu arni pan fo angen. Y llynedd, fe wnaethom asesu tua 28,000 o gwynion ac adolygu gwerth bron i 7,000 awr o raglenni.

Ond dim ond rhan o'r darlun llawn yw’r ffigurau ynglŷn â chwynion. Mae’n bwysig ein bod ni, o dro i dro, yn cynnal ymchwil ychwanegol er mwyn deall pryderon, anghenion a blaenoriaethau gwylwyr a gwrandawyr yn iawn. Mae hyn yn ein helpu ni i sicrhau bod ein rheolau darlledu yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gyfredol.

Rydyn ni’n gwybod bod chwaeth, agweddau a dymuniadau cynulleidfaoedd yn newid dros amser. Rydyn ni hefyd wedi gweld newidiadau sylweddol mewn normau cymdeithasol, sydd wedi newid y math o gynnwys maen nhw’n dewis ei wylio. Ar un adeg, byddai wedi bod yn amhosib meddwl am raglen chwilio am gariad sydd wedi’i seilio ar noethni yn cael ei dangos ar y teledu, hyd yn oed ar ôl y trothwy. Byddai drygioni gwarthus Nasty Nick yng nghyfres gyntaf Big Brother, a achosodd tramgwydd i lawer o bobl yn 2000, yn ymddangos yn llai rhyfeddol erbyn hyn ar ôl dau ddegawd arall o raglenni realiti. Ac mae stereoteipiau hiliol a oedd yn nodwedd mewn rhai rhaglenni comedi yn y 70au a’r 80au yn annerbyniol i gymdeithas a chynulleidfaoedd modern.

Roedd y rhai a gymrodd ran yn yr ymchwil yn cytuno’n gryf bod rheolau sy’n diogelu plant rhag cynnwys amhriodol yn parhau i fod yn hanfodol. Roedden nhw hefyd yn teimlo y dylai rheolau mwy llym gael eu cyflwyno ar gyfer cynnwys ar-lein. Roedd galwad am flaenoriaethu gweithredu clir yn erbyn cynnwys sy’n annog trais neu gasineb, neu sy’n gwahaniaethu yn erbyn grwpiau neu unigolion, dros gynnwys tramgwyddus arall fel noethni neu regi.

Ein cyfrifoldeb ni yw gwrando ar y pryderon hynny, a sicrhau cydbwysedd rhwng hawl pobl i gael eu diogelu, a’r hawl iddyn nhw dderbyn amrywiaeth o wybodaeth a syniadau, ac wrth gwrs, hawl darlledwyr i gael rhyddid mynegiant. Rydyn ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwneud y gorau y gallwn ni wrth gynnal safonau ar y teledu, ar y radio ac ar wasanaethau ar-alw. Mae’r gwaith ymchwil yn cynnig cipolwg pwysig o feddyliau a chalonnau cynulleidfaoedd modern. Bydd hyn yn ein helpu ni i lywio sut rydyn ni’n gweithredu ac yn gorfodi rheolau darlledu ar eu rhan.

See also...