Mae cadw cyfathrebiadau yn weithredol ar draws y DU yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd. Mae gwasanaethau ffôn, band eang a symudol yn chwarae rhan hanfodol wrth i ni oll addasu’r ffordd rydyn ni’n byw ac yn gweithio o ganlyniad i bandemig y coronafeirws. (Covid-19).
Mae cwmnïau band eang a ffôn yn canolbwyntio ar gadw eu rhwydweithiau’n weithredol wrth i’r angen gynyddu ac yn blaenoriaethu mynediad i gyfathrebiadau sy’n diogelu bywydau fel 999 neu 111.
Rydym yn croesawu ymdrechion prif gwmnïau band eang a symudol y DU, sydd wedi ymrwymo i helpu cwsmeriaid yn ystod y pandemig. Fel y cyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, mae BT/EE, Openreach, Virgin Media, Sky, TalkTalk, O2, Vodafone, Three, Hyperoptic, Gigaclear a KCOM wedi cyflwyno ystod o fesurau:
Yn ogystal, mae rhai darparwyr yn helpu gyda'r ymateb cenedlaethol i'r pandemig. Er enghraifft, mae staff peirianneg Openreach yn adeiladu cysylltiadau yn Ysbytai’r Nightingale, sy'n cael eu sefydlu ar draws y DU.
Mae darparwyr hefyd yn wynebu prinder staff sylweddol – rhwng 20% a 40% mewn rhai achosion – o ganlyniad i salwch, cyfyngiadau symud a hunanynysu. Mae hyn yn golygu llai o bobl mewn canolfannau galwadau i helpu cwsmeriaid, a llai o beirianwyr i gyflawni ein gwaith atgyweirio a chysylltiadau newydd.
Felly mae cwmnïau band eang a ffonau symudol yn canolbwyntio eu hymdrechion ar gadw cysylltiadau eu cwsmeriaid, yn enwedig y rheini sy'n agored i niwed ac yn dibynnu fwyaf ar eu gwasanaethau.
Rydym yn credu mai dyma'r ffordd iawn o fynd ati. Ac rydym yn cydnabod y gallai hyn effeithio ar allu'r cwmnïau i gydymffurfio â rhai o'n rheolau yn ystod y cyfnod hwn. Rydym wedi ysgrifennu at y darparwyr yn esbonio y byddwn yn ystyried yr amgylchiadau unigryw wrth orfodi ein rheolau.
Er enghraifft, rydyn ni’n gwerthfawrogi bod gweithgareddau fel hysbysiadau diwedd contract, y mae'n ofynnol i ddarparwyr eu hanfon pan fydd cwsmeriaid yn nesáu at ddiwedd eu cyfnod contract gofynnol, yn gallu achosi llif traffig ychwanegol i ganolfannau galwadau ar adeg pan fo sefydliadau angen blaenoriaethu galwadau gan bobl sy'n agored i niwed a'r rhai sy'n cael anawsterau i gadw’u cysylltiad. Felly, er ein bod yn annog darparwyr i anfon yr hysbysiadau hyn fel arfer, byddwn yn cymryd ymagwedd bragmatig tuag at gydymffurfiaeth â rheolau fel hyn, gan gydnabod yr heriau sylweddol y mae darparwyr yn eu hwynebu ar hyn o bryd a'r camau y mae angen iddynt eu cymryd i ymateb i effaith y coronafeirws.
Isod, rydym yn amlinellu sut yr effeithir ar ein cod ymarfer ar gyflymderau band eang ac iawndaliadau awtomatig.
Mae cysylltiadau band eang yn dal i weithio'n dda er y cynnydd yn y galw. O dan yr amgylchiadau heriol presennol, mae'n bosibl na fydd darparwyr band eang sydd wedi ymrwymo i god ymarfer ar gyflymderau band eang yn gallu datrys problemau o fewn y cyfnod 30 diwrnod gofynnol ar gyfer cwsmeriaid sy'n cael llai na'u cyflymder isaf gwarantedig. Bydd rhai problemau cyflymder yn cymryd mwy o amser i'w datrys, er enghraifft, oherwydd prinder staff neu efallai na fydd peirianwyr yn gallu ymweld â chartrefi pobl. Rydyn ni mewn cysylltiad agos â darparwyr i ddeall sut y maent yn bodloni'r gofynion hyn.
Os ydych yn cael problemau gyda chyflymderau eich gwasanaeth band eang, edrychwch ar ein canllawiau ymarferol a chyngor ar ein porth Cadw’r Cysylltiad, neu edrychwch ar wefan eich darparwr i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r cynllun iawndal awtomatig yn parhau i fod yn fesur diogelu pwysig i gwsmeriaid. Fodd bynnag, deallwn ei bod yn bosibl na fydd darparwyr yn gallu gwneud atgyweiriadau, gosod gwasanaethau newydd a gwneud ymweliadau i’r cartref fel y byddent fel arfer.
Felly, ar gyfer cyfnod yr amgylchiadau unigryw hyn, ni fydd angen i ddarparwyr dalu iawndal awtomatig os nad ydynt yn gallu bodloni'r gofynion ar gyfer atgyweiriadau, gosodiadau ac ymweliadau cartref yn y cynllun. Mae hyn yn unol â’r eithriad yn y cynllun sy'n berthnasol i ' argyfyngau sifil '.
Rydym yn disgwyl i weithredwyr barhau i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl a gwneud yr hyn sy'n iawn i'w cwsmeriaid, yn enwedig y rhai sy'n agored i niwed. Mae angen iddynt gyfathrebu unrhyw benderfyniad i beidio â thalu iawndal yn glir i gwsmeriaid a rhaid iddynt hefyd roi'r gorau i godi tâl ar gwsmeriaid sydd heb wasanaeth.
Nid ar chwarae bach yr ydym yn gwneud y penderfyniadau hyn. Ac er ein bod yn cydnabod yr amgylchiadau anodd mae’r cwmnïau telathrebu yn eu hwynebu, nid yw hynny'n golygu y dylid manteisio ar gwsmeriaid. Os gwelwn dystiolaeth fod hyn yn digwydd, byddwn yn camu i mewn ac yn gweithredu. Ond ar hyn o bryd, rhaid i ddarparwyr ganolbwyntio ar gadw cysylltiadau pobl yn weithredol, yn enwedig y rhieni sydd mwyaf anghenus. Bydd y penderfyniadau hyn yn helpu cwmnïau i sicrhau bod hynny'n digwydd.