31 Ionawr 2020

Ofcom yn ailachredu gwasanaeth cymharu prisiau Broadband Compared

Mae Ofcom wedi ailachredu gwasanaeth cymharu prisiau Broadband Compared, sy’n  cynnig gwybodaeth i bobl sy’n awyddus i gymharu costau gwasanaethau band eang.

Mae’r wefan yn darparu manylion bargeinion band eang sydd ar gael. Mae hefyd yn cynnig canllawiau, newyddion ac offer band eang yn cynnwys gwiriwr cyflymder.

Gwnaeth Ofcom achredu’r gwasanaeth am y tro cyntaf yn 2018.

Mae gwasanaethau cymharu prisiau yn chwarae rhan bwysig i helpu pobl i ddewis darparwr, drwy gynnig gwybodaeth ddefnyddiol am y cynnyrch a'r gwasanaethau ar gyfer eu hanghenion.

Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom

Mae ein ffocws parhaus ar brofiad cwsmeriaid yn rhoi gwasanaeth effeithiol i ddefnyddwyr o ran llywio'r farchnad delthrebu enfawr. Mae sicrhau bod ein gwasanaeth yn unol â gofynion Ofcom yn symleiddio ac yn cyfoethogi'r profiad, tra'n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol a phwysig i ddefnyddwyr fel y gallant wneud penderfyniad gwybodus.

Mark White, cyfarwyddwr UK Web Media (perchennog Broadband Compared)

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau rydyn ni'n eu harchedu ewch i’n tudalen cymharu prisiau

See also...