12 Mai 2020

Ymchwil Ofcom yn dangos bod plant yn ymddiried yn eu rhieni am wybodaeth am y coronafeirws

Rydyn ni wedi cyhoeddi ymchwil heddiw ynghylch sut mae plant yn cael ac yn ymateb i newyddion a gwybodaeth yn ystod y pandemig coronafeirws.

Mae’r ymchwil, wedi’i seilio ar ymatebion gan dros 500 o blant rhwng 12-15 oed ac yn crynhoi canfyddiadau wythnosau tri a phedwar y ‘cyfyngiadau symud’. Gwnaeth ganfod:

  • bod bron pob un ohonynt (96%) yn dweud eu bod wedi cael gafael mewn newyddion am Covid-19 yn ystod yr wythnos ddiwethaf;
  • bod 92% o’r plant sy’n sgwrsio gydag aelodau’r teulu am newyddion am y feirws yn hyderus bod eu perthnasau yn dweud y gwir amdano. Mae nifer o blant rhwng 12-15 oed sy’n ei ddefnyddio yn ymddiried yn adroddiadau’r BBC am y pandemig hefyd;
  • bod plant yn fwy tueddol o droi at deledu’r BBC na darlledwyr eraill am newyddion am y pandemig (49%), o gymharu â thraean sy’n defnyddio ITV (30%) ac un ymhob pump oedd yn cael gwybodaeth o Sky (21%);
  • bod yn agos at hanner o blant yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol fel ffynhonnell wybodaeth am y feirws, gyda YouTube (20%), Facebook a Facebook Messenger (20%) ac Instagram (18%), ymhlith y mwyaf poblogaidd;
  • bod hanner y plant yn cytuno eu bod yn ei chael hi’n anodd gwybod beth sy’n wir neu’n gelwydd am Covid-19; a
  • bod y mwyafrif sylweddol o blant yn dweud bod yr argyfwng yn dangos pethau da am y DU, yn cynnwys mwy o gefnogaeth i’r GIG.

Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi ein hymchwil wythnosol sy’n dangos defnydd oedolion y DU o newyddion a gwybodaeth am Coronafeirws. Yn ystod wythnos chwech y cyfyngiadau symud:

  • mae’r mwyafrif o’r ymatebwyr yn dal i gael newyddion am Coronafeirws o leiaf unwaith y dydd.  Ond mae llai nag un ymhob deg o bobl nawr yn chwilio am newyddion am y pandemig o leiaf 20 gwaith y dydd, o’i gymharu ag un ymhob pedwar yn wythnos un;
  • mae menywod yn fwy tebygol na dynion i osgoi newyddion am y feirws yn fwriadol; a
  • mae yna ostyngiad bach yn y nifer o bobl sy’n dod ar draws newyddion ffug neu gamarweiniol ynghylch Coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Dim ond 4% o bobl oedd yn rhannu’r camwybodaeth, o gymharu gyda 7% yn wythnos un.

Byddwn yn nawr yn cyhoeddi’r prif ganfyddiadau o’r ymchwil hwn bob pythefnos, gydag ein hadroddiad llawn nesaf ar gael ar ddydd Mawrth 26 Mai. Bydd ein hadroddiad data rhyngweithiol yn parhau i gael ei ddiweddaru bob wythnos.

See also...