17 Ebrill 2020

Egluro’r camsyniadau am 5G a’r coronafeirws

Mae sïon a theorïau ar led sy’n honni bod cysylltiad rhwng 5G a lledaeniad y coronafeirws (Covid-19). Mae hyn yn gelwydd. Nid oes dim sail wyddonol na thystiolaeth gredadwy dros yr honiadau hyn.

Mewn rhai rhannau o’r DU, mae mastiau ffonau symudol wedi cael eu fandaleiddio oherwydd yr honiadau anwir hyn. Mae peirianwyr o gwmnïau ffonau symudol hefyd wedi cael eu harasio wrth iddyn nhw geisio cyflawni eu gwaith.

Os bydd mast ffôn symudol yn torri, naill ai oherwydd ei fod wedi cael ei fandaleiddio neu oherwydd nad yw peirianwyr yn gallu trwsio neu gynnal a chadw’r rhwydwaith, yna mae hynny’n effeithio ar allu pobl i ffonio’r gwasanaethau brys, ffonio’r GIG ar 111 neu gysylltu â ffrindiau neu deulu.

Mae gwirfoddolwyr hefyd yn defnyddio ffonau symudol i drefnu cymorth ar gyfer eu cymunedau. Gall hyn gynnwys casglu meddyginiaethau a danfon bwyd i bobl sy’n methu â gadael y tŷ oherwydd bod rhaid iddyn nhw hunanynysu.

Mae hyn i gyd mewn perygl os nad yw’r rhwydwaith ffôn symudol yn gweithio, a gall hynny beri risg difrifol i ddiogelwch a llesiant pobl.

Yn ystod y coronafeirws, mae Ofcom yn cynnal arolygon o ryw 2,000 o bobl yn wythnosol i ddarganfod sut maen nhw’n derbyn newyddion a gwybodaeth am yr argyfwng.  Yr wythnos diwethaf, yn y drydedd wythnos o gyfyngiadau symud, dywedodd hanner yr ymatebwyr wrthym eu bod wedi dod ar draws gwybodaeth ffug neu gamarweiniol am y coronafeirws - i fyny o 46% yn yr wythnos gyntaf.

Yn yr un modd â chenedlaethau blaenorol o dechnoleg symudol, mae 5G yn defnyddio sbectrwm radio. Mae angen sbectrwm ar bob dyfais sy’n cyfathrebu’n ddi-wifr – boed hynny’n setiau teledu, yn allweddi car di-gyswllt, monitorau babis, meicroffonau di-wifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mastiau er mwyn i bobl allu gwneud galwadau ffôn a defnyddio'r rhyngrwyd.

Mae'r ICNIRP yn datgan nad oes ganddo ddigon o ynni i dorri bondiau cemegol na thynnu electronau, yn wahanol i  ‘ymbelydredd ïoneiddio’, sy’n cael ei gynhyrchu ar amleddau llawer uwch, fel arfer yn niweidiol i bobl yn gyffredinol.  Mae ymbelydredd ioneiddio yn cynnwys pelydrau uwchfioled, meddygol a gamma. Mae eitemau eraill ar y raddfa yma yn cynnwys tonnau awyr 2G, 3G a 4G, Teledu Daearol a WiFi hefyd yn y bandiau nad yw'n ioneiddio.

Canlyniadau’r mesuriadau 5G diweddaraf gan Ofcom

Mae Ofcom wedi cyhoeddi canlyniadau diweddaraf ein rhaglen mesur sbectrwm, gan gynnwys chwe safle 5G symudol ychwanegol.

Ar ôl lansio 5G yn y DU y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi canlyniadau mesuriadau Maes Electromagnetig (EMF) ar 16 o safleoedd yn y DU ym mis Chwefror. Rydym wedi parhau i gynnal profion ers hynny a bellach rydym wedi cyhoeddi diweddariad i’n hadroddiad mesur 5G – sy’n edrych ar 22 safle 5G mewn 10 dinas yn y DU.

Ym mhob safle, roedd yr allyriadau’n gyfran fach iawn o’r lefelau a nodir mewn canllawiau rhyngwladol. Caiff y canllawiau hyn eu gosod gan y Comisiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu rhag Ymbelydredd nad yw’n Ïoneiddio (ICNIRP).

Roedd y mesur uchaf a gofnodwyd ar safle symudol ond tua 1.5% o’r lefelau hynny – ac roedd hynny’n cynnwys signalau o dechnolegau eraill fel 3G a 4G. Roedd y lefel uchaf o signalau 5G yn benodol yn 0.039% o’r uchafswm a sefydlwyd yn y canllawiau rhyngwladol.

Byddwn yn parhau i gyhoeddi data’n rheolaidd o’n rhaglen fesur ac mewn rhagor o safleoedd 5G.

See also...