20 Awst 2020

Y prosiect Ofcom mwyaf nad ydych chi erioed wedi clywed amdano, mae’n debyg

Yr wythnos hon, cwblhaodd Ofcom waith ar un o’r prosiectau mwyaf rydyn ni erioed wedi bod yn ymwneud ag ef: y rhaglen clirio 700 MHz. Bydd y prosiect hwn yn dod â manteision mawr i bobl ledled y DU. Ond yn wahanol i lawer o’n gwaith, po leiaf o bobl a sylwodd fod y prosiect wedi digwydd erioed, y mwyaf hapus ydyn ni.

Dechreuodd y gwaith o glirio 700 MHz yn swyddogol yn 2017, er ein bod wedi bod yn cynllunio ar ei gyfer ers 2012. Roedd yn golygu symud sianeli teledu Freeview o’r band sbectrwm 700 MHz i ryddhau’r tonnau awyr hynny at ddibenion eraill – gan gynnwys technoleg symudol fel 4G a 5G.

Beth yw sbectrwm?

Allwch chi ddim gweld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar bob dyfais sy’n cyfathrebu’n ddiwifr - fel setiau teledu, ffonau symudol,  ffobiâu allweddi ceir, monitorau babis, meicroffonau diwifr a lloerennau. Mae sbectrwm yn cael ei drefnu mewn bandiau. Mae gan bob band sbectrwm nodweddion gwahanol sy’n ei wneud yn well at rai dibenion - fel ymestyn dros ardal fawr â signal neu ddarparu’r signal hwnnw i adeiladau - ac yn llai addas i eraill.

Dim ond hyn a hyn o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli’n ofalus. Rhan fawr o rôl Ofcom yw sicrhau bod sbectrwm yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon yn y DU. Ein gwaith ni hefyd yw sicrhau nad yw defnyddwyr gwahanol sbectrwm – fel darlledwyr teledu, cwmnïau symudol na cherddorion a pherfformwyr – yn achosi ymyriant i’w gilydd, a allai amharu ar bobl a busnesau.

Pam yr oedd angen i’r clirio hyn ddigwydd?

Meddyliwch sut rydych chi’n defnyddio eich ffôn nawr o’i gymharu â deng mlynedd yn ôl. Mae’n debyg eich bod yn ei ddefnyddio’n amlach nag yr oeddech yn arfer ei wneud, ac rydych yn fwyaf tebygol o’i ddefnyddio ar gyfer gwahanol weithgareddau – gwylio fideos, chwarae gemau neu archebu eich siopa.

Mae mwy a mwy o ddefnydd yn golygu mwy a mwy o ddata symudol. Mae angen sbectrwm ychwanegol i anfon data i’ch ffôn ac ohono dros y tonnau awyr. Roedd angen clirio 700 MHz er mwyn rhyddhau rhagor o sbectrwm i gludo’r data hwn.

An image of a mast known as Saddleworth tower

Tŵr Saddelworth: mast sy'n gwasanaethu ardaloedd yng ngogledd orllewin Lloegr.

Beth oedd yn gysylltiedig?

Roedd clirio’r band 700 MHz ar gyfer ffonau symudol yn golygu bod angen i lawer o drosglwyddyddion teledu (y mastiau sy’n darlledu teledu i’ch cartref) newid yr amledd roedden nhw’n ei ddefnyddio. Trefnodd Ofcom yr amleddau newydd ar gyfer y trosglwyddyddion teledu. Roedd hon yn swydd gymhleth: roedd angen i’r holl amleddau newydd gyd-‘fodoli’, sy’n gan olygu nad oedd trosglwyddyddion cyfagos yn ymyrryd â’i gilydd. Roedd angen i ni hefyd negodi cytundebau â gwledydd eraill i wneud yn siŵr nad oedd ein defnydd o sbectrwm yn amharu ar eu defnydd nhw.

Pan newidiodd y trosglwyddyddion teledu amleddau, roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i filiynau o wylwyr teledu Freeview ail-diwnio eu setiau teledu i godi’r amleddau newydd. Yn ffodus, mae ail-diwnio eich teledu yn broses syml a chyflym y gellir ei wneud drwy ddefnyddio teclyn rheoli eich teledu. Cafodd gwylwyr eu rhybuddio fel arfer am unrhyw newidiadau arfaethedig i amleddau drwy neges a ymddangosodd ar eu setiau teledu pan oeddent yn cael eu troi ymlaen, gan eu hatgoffa pryd i ail-diwnio.

Un o flaenoriaethau’r prosiect hwn oedd cael cyn lleied o effaith â phosibl ar wylio teledu pobl. Pe na bai ail-diwnio yn gweithio i wylwyr ac na allent dderbyn teledu mwyach, roedd llinell gymorth, gwefan a fideos ar-lein ar gael i bobl a gafodd anawsterau. Mewn llawer o achosion, cynigiwyd cymorth yn y cartref i wylwyr a gafodd broblemau mwy heriol wrth ail-diwnio. Roedd angen i rai gwylwyr newid eu herialau - ond nifer fach iawn o achosion oedd hyn.

Roedd sicrhau bod pobl yn dal i allu cael gafael ar eu gwasanaethau teledu Freeview yn un o’r rhesymau pam fod y prosiect wedi cymryd cymaint o amser. Fe wnaethom wasgaru’r gwaith i leihau’r tarfu ac osgoi digwyddiadau allweddol, fel digwyddiadau chwaraeon mawr.

Yn ogystal â gwylwyr teledu, bu’n rhaid i ddefnyddwyr microffonau diwifr yn y diwydiannau cynhyrchu teledu a theatr newid eu hoffer hefyd i weithredu mewn bandiau sbectrwm newydd o ganlyniad i glirio 700 MHz.

Gyda phwy wnaethon ni weithio?

Chwaraeodd Ofcom ran flaenllaw yn y gwaith gan oruchwylio’r rhaglen gyfan. Ond nid ni oedd yr unig sefydliad cysylltiedig. Buom yn cydweithio â phartneriaid i wneud yn siŵr ein bod wedi cwblhau’r prosiect mor ddidrafferth â phosibl. Roedd hyn yn golygu bod y gwaith wedi’i gwblhau ar amser ac o dan y gyllideb – llwyddiant gwych ar gyfer rhaglen waith mor fawr.

Roedd sefydliadau partner yn cynnwys:

  • Arqiva, a oedd yn gwneud y gwaith peirianyddol angenrheidiol i newid yr amleddau yr oedd trosglwyddyddion yn gweithredu arnynt;
  • DCMS, a ddarparodd y gyllideb ar gyfer y gwaith, gan gynnwys cyllid ar gyfer cynllun cefnogi gwylwyr a chyllid ar gyfer defnyddwyr PMSE; a
  • Darlledwyr teledu, Digital UK a Freeview, a gymerodd ran mewn gweithgorau a llywodraethu rhaglenni, ac a helpodd i gyflawni agweddau ar y rhaglen fel cymorth i wylwyr.

Beth nesaf?

Yn dilyn cwblhau’r prosiect hwn, mae’r sbectrwm y disgwylir iddo gael ei arwerthu yn yr amleddau hyn yn gallu cael ei ddefnyddio’n syth ar ôl yr arwerthiant. Mae hyn yn golygu y bydd cwmnïau symudol yn gallu ei ddefnyddio i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau symudol i gwsmeriaid.

Hofrennydd yn cael ei ddefnyddio i newid antenna mast, cam hanfodol i newid amleddau rhai mastiau.

Related content