19 Awst 2020

Sut gwnaeth Ofcom ddelio gydag ymyriant ffonau symudol yn ystod y cyfnod clo

Yn ystod y cyfyngiadau symud mae mwy ohonom wedi treulio mwy o amser nag erioed yn gweithio a dysgu gartref. Mae hyn yn golygu ein bod yn fwy dibynnol nag erioed o’r blaen ar y gwasanaethau telegyfathrebiadau sy’n ein helpu i gadw mewn cysylltiad.

Mae darparwyr ffonau symudol yn gwneud eu gorau i wneud yn siŵr bod eu rhwydweithiau’n perfformio ar eu gorau. Ond weithiau gall ymyriant effeithio ar y perfformiad hwn.

Gall pobl neu gwmnïau sy'n defnyddio dyfeisiau mwyhau anghyfreithiol achosi’r ymyriant hwn.

Mae dyfeisiau mwyhau ar gyfer ffonau symudol yn cynyddu'r signalau rhwng ffôn symudol a gorsafoedd sylfaen y cwmni ffonau symudol, sy’n darparu gwell signal i’r defnyddiwr. Fodd bynnag, dim ond mathau penodol o ddyfeisiau mwyhau sy’n gyfreithiol i’w defnyddio yn y DU.

Gall dyfeisiau mwyhau anghyfreithiol achosi problemau oherwydd eu bod yn darlledu signalau parhaus. Mae’r mast ffonau symudol lleol yn derbyn y signalau hyn ac ar yr un pryd bydd yn atal signalau ffôn defnyddwyr cyfreithlon.

Ar bob achlysur bron mae peirianwyr Ofcom wedi dod o hyd i un o’r dyfeisiau hyn, mae’r defnyddwyr wedi’u prynu am eu bod wedi cael eu twyllo i gredu eu bod yn gyfreithiol yn y DU.

Mae darparwyr ffonau symudol bob amser yn rhoi gwybod i ni am y problemau ymyriant hyn, ac mae hyn wedi parhau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Ein Tîm Sicrhau Sbectrwm sy’n edrych i mewn i’r materion hyn.

Hwn yw ein tîm o arbenigwyr sy'n gweithio 24/7, yn monitro ac yn delio â phroblemau ymyriant di-wifr. Bu modd iddyn nhw barhau â'r gwaith hwn yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud tra’r oedd mesurau cadw pellter diogel ar waith.

Archebion olaf i ddyfais mewn tŷ tafarn

Un achos o’r fath yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud oedd adroddiad am ymyriant i fast ffonau symudol yn ne Lloegr. Gan ddefnyddio cyfarpar arbenigol, llwyddodd un o’n tîm i fynd ar drywydd ffynhonnell yr ymyriant i dŷ tafarn. Fel arfer, byddai ein cydweithiwr wedi gallu mynd i mewn i’r tŷ tafarn, a chyda caniatâd, olrhain y ddyfais a oedd yn achosi’r ymyriant.

Ond doedd hi ddim mor syml â hynny yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud am fod y tŷ tafarn wedi cau. Felly, cafodd ein cydweithiwr sgwrs gyda’r landlord, a oedd yn sefyll ar falconi’r tŷ tafarn.

Ar ôl gofyn ychydig o gwestiynau, fe ddaeth yn amlwg bod y landlord yn defnyddio dyfais mwyhau symudol yn ei dŷ tafarn. Yn hytrach na’i ddefnyddio i wella’r signal i’w ffôn symudol neu i ffonau symudol ei gwsmeriaid, roedd wedi bod yn ei ddefnyddio i wella’r signal i’w beiriannau cerdyn debyd. Serch hynny, ni waeth beth oedd y rheswm, roedd y ddyfais mwyhau yn dal i achosi ymyriant â’r safle symudol lleol.

Drwy ddiffodd y ddyfais mwyhau llwyddwyd i atal yr ymyriant. Roedd y landlord, a oedd yn anymwybodol o’r ffaith bod y ddyfais mwyhau yr oedd wedi’i phrynu yn anghyfreithiol, yn siomedig ac yn flin ei fod wedi cael ei dwyllo i gredu ei bod yn ddyfais gyfreithiol.

Roedd un dyfais mwyhau anghyfeithlon mewn tafarn yn ne Lloegr-mae'r llun yn dangos tu allan i'r dafarn.

Roedd achos tebyg yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud yn cynnwys ymyriant i safle ffonau symudol yn ne orllewin Llundain. Y tro hwn, llwyddodd ein cydweithiwr i fynd ar drywydd ffynhonnell yr ymyriant i fecws. Eto, yn sgil y cyfyngiadau symud, roedd y busnes wedi cau felly roedd yn rhaid i ni wneud ychydig o alwadau i’r cwmni dros y ffôn. Ar ôl cysylltu â rheolwr cyfleusterau’r cwmni, gwnaethom apwyntiad i ymweld â'r becws.

Cyfarfu ein cydweithiwr â’r rheolwr cyfleusterau yn y becws, ond oherwydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol roedd yn rhaid iddo gerdded o amgylch y lleoliad ei hun.

Eto, darganfuwyd mai ffynhonnell yr ymyriant oedd dyfais mwyhau anghyfreithiol. Pan gafodd ei diffodd gan y rheolwr cyfleusterau, rhoddwyd terfyn ar yr ymyriant – yna fe’i rhoddodd mewn sinc o ddŵr i wneud yn siŵr na fyddai’n achosi problemau yn y dyfodol.

Popty yn Llundain oedd achos arall yr ymyriant -dyma lun o du allan i'r adeilad

Mae problemau gydag ymyriant o ddyfeisiau mwyhau symudol anghyfreithiol bob amser yn her i ni, ac i ddarparwyr symudol.

Ond hyd yn oed gyda'r anawsterau a wynebir yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym wedi dal ati i helpu’r rhwydweithiau symudol i weithredu heb ymyriant, a sicrhau bod y cwsmeriaid yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt.

See also...