Un o beirianwyr Ofcom yn cael ei dderbyn i’r Digital Radio Hall of Fame
Mae Rash Mustapha, uwch arbenigwr darlledu Ofcom wedi cael ei gydnabod yn ffurfiol gan Digital Radio UK, y corff a sefydlwyd i helpu i hyrwyddo a chefnogi datblygiad radio digidol.
Rash yw un o’r bobl gyntaf i gael ei dderbyn i’r Digital Radio Hall of Fame, a sefydlwyd i gydnabod y bobl sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at lwyddiant radio digidol dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Panel o uwch swyddogion ar draws y diwydiant radio sy’n penderfynu pwy sy’n cael ei dderbyn i’r Digital Radio Hall of Fame. Cafodd Rash ei enwebu am ei waith a oedd yn cydnabod sut gellid defnyddio technoleg cost isel i wneud radio DAB yn gynnig fforddiadwy i ddarlledwyr Radio Cymunedol ac FM ar raddfa fach.
Gwelwyd y gwaith hwn - a oedd yn cynnwys datblygu llawer o offer prototeip yn ei amser ei hun - yn ennyn digon o ddiddordeb y Llywodraeth, i’r fath raddau fel y rhoddodd arian i Ofcom allu treialu’r dechnoleg. Yn dilyn y treialon llwyddiannus hyn, pasiwyd deddfwriaeth i sefydlu fframwaith ar gyfer trwyddedu gwasanaethau DAB ar raddfa fach. Mae Ofcom wrthi’n gweithio ar y camau nesaf gyda’r Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Bydd Rash a’i gyd-anfarwolion yn cael eu gwobrwyo mewn seremoni yn Llundain ym mis Medi.
Dywedodd Ford Ennals, Prif Swyddog Gweithredol Digital Radio UK: “Rydyn ni’n llongyfarch y bobl gyntaf erioed i gael eu derbyn i’r Digital Radio Hall of Fame am eu cydnabyddiaeth a’u cyflawniad. Mae wedi cymryd dros 20 mlynedd i gyrraedd y pwynt lle mae radio digidol yn cyfrif am y rhan fwyaf o wrando ar y radio yn y Deyrnas Unedig ac ni allai hyn fod wedi digwydd heb gyfraniadau rhagorol yr unigolion hyn a’r sefydliadau maent yn eu cynrychioli.
“Cafwyd ymateb gwych i’r cyhoeddiad bod y Digital Radio Hall of Fame yn mynd i gael ei sefydlu a hoffem ddiolch i’r holl randdeiliaid am eu henwebiadau ac i’r panel clodwiw o feirniaid”.