27 Chwefror 2020

Ofcom yn cyhoeddi adolygiad pum mlynedd o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi adolygiad o sut mae darlledu gwasanaeth cyhoeddus (PSB) wedi darparu ar gyfer cynulleidfaoedd y DU dros gyfnod o bum mlynedd (2014 - 2018).

Fel rhan o’n cyfrifoldebau fel rheoleiddiwr, mae Ofcom yn adolygu perfformiad y sianeli darlledu gwasanaeth cyhoeddus - BBC, ITV ac STV, Channel 4, Channel 5 a S4C.

Ar wahân i hyn, rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi adolygiad pum mlynedd o berfformiad Channel 4.

Llywio’r drafodaeth ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus

Bwriad y cyhoeddiad heddiw a’r data sy’n ei ategu yw helpu i lywio ein rhaglen waith ehangach ar ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus – Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr.

Mae Sgrîn Fach: Trafodaeth Fawr yn wahanol i’n hadolygiadau blaenorol o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.  Ei nod yw ysgogi sgwrs genedlaethol eang a deinamig sy’n cynnwys gwylwyr, y diwydiant darlledu, Senedd y DU a rheoleiddwyr ynghylch y ffyrdd gorau o sicrhau manteision darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol.

Mae ein dogfen yn crynhoi sut mae arferion cynulleidfaoedd a’r cyd-destun ar gyfer darlledu gwasanaeth cyhoeddus wedi newid. Bydd ymchwil newydd, digwyddiadau’r diwydiant a chynhadledd sydd ar y gweill yn ystyried: beth ddylai darlledu gwasanaeth cyhoeddus ei ddarparu; sut dylid ei ddarparu a’i ariannu; a pha adnoddau rheoleiddio a pholisi all fod eu hangen yn y dyfodol. Rydyn ni hefyd yn archwilio sut gall darlledu gwasanaeth cyhoeddus a’r diwydiant darlledu yn ehangach gefnogi economi greadigol sy’n ffynnu ac yn fwyfwy amrywiol yn y DU.

Gwefan newydd i gefnogi’r drafodaeth

Rydyn ni wedi lansio gwefan benodol heddiw –Ofcom.in/Sgrin-fach Mae’r wefan hon cynnwys ymchwil Ofcom a deunyddiau eraill sy’n berthnasol i’n sgyrsiau cenedlaethol am ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Bydd y safle yn rhoi cyfle i bobl ymuno â’r sgwrs a rhannu eu safbwyntiau personol er mwyn helpu i lywio ein hymgynghoriad yn yr haf. Bydd hefyd yn cynnwys fideo o wybodaeth a rennir yn ystod digwyddiadau a gaiff eu cynnal gennym ledled y DU.

Ennyn diddordeb pobl ifanc yn nyfodol teledu

Mae Ofcom wedi lansio cystadleuaeth heddiw, mewn partneriaeth â’r Financial Times, i annog pobl ifanc i gyfrannu at Sgrin Fach: Trafodaeth Fawr, drwy rannu eu syniadau creadigol am ddyfodol teledu.

Am gyfle i ennill gwobr ariannol o £100 a gweld eu gwaith yn cael ei gyhoeddi yn y Financial Times, rydyn ni’n galw ar fyfyrwyr 16-18 oed i gyflwyno post blog neu fideo ynghylch sut gall gwasanaethau ffrydio a darlledwyr traddodiadol apelio at gynulleidfaoedd yfory.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Ebrill 2020 ac mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys telerau ac amodau’r gystadleuaeth, ar gael ar ein gwefan.

See also...