Gall ddewis o ddewislen hyrwyddo darpariaeth band eang cyflym?

06 Awst 2019

David HenriquesMae rhyngrwyd cyflym yn hanfodol i fusnesau weithredu'n effeithiol ac i bobl fwynhau'r cyfleoedd helaeth sydd ar gael iddynt. David Henriques,Uwch Econemgydd Cyswllt yn Ofcom a Chymrawd Gwadd yn LSE, sy'n trafod yr heriau a all atal buddsoddi mewn band eang cyflymach a sut gall newidiadau i reoleiddio helpu.

Mae rhyngrwyd cyflymach yn rhyngrwyd gwell. Pa un ai a ydym yn pori’r we, yn llwytho eitemau i lawr, yn llwytho eitemau i fyny, yn gwrando neu’n ffrydio, mae band eang cyflym yn gwneud ein hamser ar-lein yn haws ac yn fwy pleserus. Gan hynny, bu cyflwyno gwasanaethau band eang gwell yn flaenoriaeth mewn marchnadoedd fel Ewrop ac Unol Daleithiau America.

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd wedi pennu targed y dylai pob cartref yn Ewrop allu cael mynediad at gyflymder llwytho i lawr o leiaf 100 Mbps erbyn 2025. Yn Unol Daleithiau America, fe wnaeth y Comisiwn Cyfathrebu Ffederal bennu nod y dylai pob unigolyn yn America allu cael mynediad at fand eang fforddiadwy o safon uchel.

Mae'r gwasanaethau cyflym hyn yn cynnig buddion sylweddol i fusnesau, gan eu galluogi i ddod yn fwy cystadleuol. Maent hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr ddefnyddio gwasanaethau ar-lein sy'n gwella ansawdd eu bywyd. A gallant roi hwb i dwf ar draws sectorau economaidd o bwys. Yn Ewrop, mae band eang cyflym iawn hefyd yn cael ei ystyried yn hanfodol i'r farchnad sengl ddigidol.[1]

Pam nad yw rhagor yn cael ei fuddsoddi?

Mae band eang ffibr yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy na rhwydweithiau hŷn sy'n seiliedig ar wifrau copr. Ond mewn rhai gwledydd, mae'r sector preifat wedi bod yn amharod i fuddsoddi'n helaeth mewn band eang cyflym iawn.

Un rheswm posibl dros hyn yw eu hanallu i amgyffred yn llawn beth yw buddion cymdeithasol buddsoddi mewn band eang cyflym iawn. Os yw rheoleiddwyr yn pennu rhwymedigaethau i ddarparu mynediad, gall hynny ledaenu'r buddion buddsoddi ar draws cwmnïau sy'n ceisio mynediad at seilwaith a defnyddwyr tra bod y gost, a all fod yn uchel iawn, yn canolbwyntio ar berchennog y seilwaith. Gall hyn arwain at danfuddsoddi.

Rhwystr posibl arall yw diffyg mynediad at gyllid. Mae'n bosibl y bydd marchnadoedd ariannol yn anfodlon darparu cyllid i weithredwyr fuddsoddi mewn rhwydweithiau cyflym iawn ar delerau sy'n adlewyrchu gwir gostau a risgiau buddsoddi.

Mae cymhellion yn bwysig

Mae astudiaethau academaidd yn awgrymu bod pobl a chwmnïau yn cynhyrchu mwy pan gânt eu cymell i wneud hynny, drwy daliadau sy'n gysylltiedig â'u hallbwn. Er enghraifft, canfu Fernie and Metcalf (1999) fod jocis yn perfformio’n well pan mae eu taliad yn dibynnu ar eu perfformiad. Canfu Lazear (2000) mewn cwmni mawr ffenestri ceir, bod talu staff ar sail cynhyrchiant (yn hytrach nag oriau a weithiwyd) wedi rhoi hwb o 44% i allbwn y gweithiwr ar gyfartaledd. Canfu Shearer (2004) fod planwyr coed yn British Columbia wedi cynhyrchu 20% yn rhagor o gael eu talu fesul coeden a blannwyd o gymharu â chyflogau sefydlog.

Mae'r gwersi o'r astudiaethau hynny yn mynd y tu hwnt i'r berthynas rhwng cwmnïau a gweithwyr. Gellir eu hymestyn hefyd i sectorau rheoledig, drwy rywbeth sy'n cael ei alw'n ‘rheoleiddio dewislenni’. Mecanwaith cymhelliant yw hyn yn y bôn, sy’n defnyddio taliadau ar sail allbwn, drwy ganiatáu i gwmnïau ddewis sut cânt eu rheoleiddio o ‘ddewislen’.

Y nod yw annog cwmnïau i ymddwyn mewn ffordd benodol sy'n cyd-fynd ag amcanion y rheoleiddiwr - er enghraifft, hyrwyddo rhagor o fuddsoddi mewn arloesi. Mae Ofcom yn y Deyrnas Unedig, ac Asiantaeth Ynni Denmarc, yn enghreifftiau da o reoleiddio dewislenni yn y maes symudol. Cynigiodd y ddau reoleiddiwr rwymedigaethau darpariaeth wrth arwerthu tonnau awyr ar gyfer gwasanaethau symudol. I bob pwrpas, talodd gweithredwyr rhwydwaith lai am y sbectrwm hwn, yn gyfnewid am ymrwymiad i hybu darpariaeth symudol.

Felly, a all iawndal ar sail perfformiad helpu rheoleiddwyr i fynd i'r afael â thanfuddsoddi mewn band eang cyflym iawn? Mae astudiaethau academaidd diweddar yn awgrymu bod yr ateb yn un cadarnhaol.

Er enghraifft, cymharodd Flacher a Jennequin (2014) wahanol fframweithiau rheoleiddio, gan edrych ar ba mor bell roeddent wedi llwyddo i ymestyn cwmpas band eang daearyddol a'r lefelau lles cymdeithasol cysylltiedig. Dangosodd eu hastudiaeth fod darpariaeth band eang, nifer y defnyddwyr a'r buddion cymdeithasol ar eu huchaf lle mae dwy agwedd ar y farchnad yn cael eu rheoleiddio: sut mae rhwydweithiau'n cael eu defnyddio, a'r prisiau mynediad y gall gweithredwyr eu codi.

Astudiodd Henriques (2011), Sauer (2012), a Henriques (2018) reoleiddio dewislenni lle mae'r pris mynediad am wasanaeth arloesol gan gwmni rheoledig - fel band eang cyflym iawn - yn dibynnu ar ei gwmpas daearyddol. Dyma’r ‘dull mynegeio’ yn astudiaeth 2011 a restrir uchod. Dangosodd y papurau hyn, o dan rai amodau safonol, y gall defnyddio'r ymagwedd fynegeio yn lle pennu pris mynediad sefydlog gymell cwmnïau i bennu prisiau manwerthu is, cynyddu cwmpas daearyddol, a chynhyrchu buddion cymdeithasol uwch. Fodd bynnag, roedd yr astudiaeth olaf hefyd yn cydnabod heriau wrth weithredu'r ymagwedd hon. Er enghraifft, oherwydd y posibilrwydd y bydd y cwmni rheoledig yn gwybod mwy am ei gostau ei hun na'r rheolydd.

Cyflwyno rheoleiddio dewislenni

Defnyddiwyd rheoleiddio cyfradd dychwelyd yn yr Unol Daleithiau ar ddiwedd y 19eg ganrif, a llawer o’r 20fed ganrif, i reoleiddio prisiau cyfleustodau drwy bennu terfynau yn seiliedig ar gostau gwirioneddol cwmnïau. Fe'i defnyddiwyd yn bennaf oherwydd ei gynaliadwyedd a'i hyblygrwydd hirdymor mewn ymateb i newidiadau yn amodau'r cwmni.

Ond canfu Averch a Johnson (1962) y gallai cwmni sy'n destun rheoleiddio cyfradd dychwelyd fethu â lleihau ei gostau cynhyrchu i'r eithaf. Disodlwyd y math hwn o reoleiddio yn raddol o’r 1980au ymlaen gan ‘reoleiddio cymhelliant’, lle mae’r rheolydd yn pennu terfynau prisiau yn seiliedig ar gostau a ragwelir (yn hytrach na chostau gwirioneddol). Y dyddiau hyn mae rheoleiddio cymhelliant yn cael ei ddefnyddio yn Awstralia, Ewrop, Unol Daleithiau America a rhai gwledydd America Ladin ac Asiaidd.

Mae newid o fand eang gwifrau copr i fand eang ffibr wedi codi heriau sy'n debygol o barhau yn y blynyddoedd i ddod. Er mwyn helpu i ddatrys y rhain, mae rheoleiddio dewislenni ar gyfer rhwydweithiau ffibr yn offeryn a allai fod yn ddefnyddiol i reoleiddwyr ledled y byd.

Mae hynny'n arbennig o wir pan fydd yn ofynnol i gwmnïau rheoledig ddarparu gwybodaeth fanylach i reoleiddwyr am eu costau disgwyliedig a gwybodaeth arall am y busnes. Gall hyn, ynghyd â thechnolegau newydd fel deallusrwydd artiffisial a ffynonellau data perthnasol eraill, gynyddu'r wybodaeth sydd ar gael i reoleiddwyr a gwneud rheoleiddio cymhelliant yn fwy effeithiol.

Gan hynny, dylai fod awydd cynyddol am reoleiddio dewislenni yn y dyfodol.

Mae'r dadansoddiadau, y safbwyntiau a'r canfyddiadau yn yr erthygl hon yn cynrychioli barn yr awdur, ac ni ddylid eu dehongli fel safbwynt swyddogol sefydliadau cyswllt yr awdur.


1. Mae strategaeth y farchnad sengl digidol yn anelu at wellla mynediad i nwyddau a gwasanaethau digidol, i greu amgylchedd lle gall gwasanaethau a rhwydweithiau digidol ffynnu, ac i hyrwyddo digidol fel gyrrwr tyfiant.