Mae'r Arglwydd Burns wedi ymuno fel Cadeirydd newydd Ofcom yr wythnos hon yn dilyn ei apwyntiad gan y Llywodraeth.
Bu Terry Burns, tan Ionawr 2016, yn Gadeirydd Channel 4, lle bu'n gwasanaethu'r darlledwr gwasanaethau cyhoeddus am chwe blynedd. Mae e hefyd wedi gwasanaethu fel Cadeirydd ar gyfer nifer o sefydliadau sector preifat a chyhoeddus, yn cynnwys Marks & Spencer, Santander UK, Dŵr Cymru, y Loteri Genedlaethol a 'The Royal Academy of Music'.
O 2004 i 2006, yr Arglwydd Burns oedd Cynghorwr Annibynnol yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Adolygiad Siarter y BBC. Mae e'n eistedd fel arglwydd traws-bleidiol yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Mae Terry Burns yn cymryd lle y Fonesig Patricia Hodgson, wnaeth roi'r gorau i gadeiryddiaeth Ofcom ar ddiwedd 2017.
Dywedodd yr Arglwydd Burns: "Rwy'n hynod o falch o gael y cyfle i ymgymryd â'r rôl hon ar amser pwysig i Ofcom. Mae sector gyfathrebiadau'r DU yn darparu gwasanaethau hanfodol i bawb yn y DU ac mae'n hanfodol i lwyddiant yr economi yn y dyfodol."
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae gan yr Arglwydd Burns gyfoeth o brofiad a rwy'n edrych ymlaen at gydweithio gyda'n gilydd wrth i ni gyflawni blaenoriaethau Ofcom.
“Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Fonesig Patricia Hodgson sydd wedi darparu goruchwyliaeth arbenigol i Ofcom fel Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd dros y chwe blynedd ddiwethaf. Mae cydweithwyr ar draws Ofcom yn diolch iddi am ei chyfraniad."