Arian yn ôl i gwsmeriaid band eang a ffôn cartref pan fydd pethau’n mynd o’i le
Bydd cwsmeriaid band eang a llinell sefydlog yn cael ad-daliad gan eu darparwyr pan fydd pethau’n mynd o’i le, a hynny heb orfod brwydro, o ddydd Llun (1 Ebrill) ymlaen.
O’r blaen, os oedd cwsmeriaid band eang neu ffôn cartref yn dioddef oedi cyn trwsio neu osod cyfarpar, neu beirianwyr heb gadw at apwyntiad, dim ond rhyw un ymhob saith ohonynt gafodd iawndal gan eu darparwr. Hyd yn oed pan oeddent yn gwneud hynny, dim ond symiau bach o arian oedd yn cael eu rhoi.
Felly, mae Ofcom wedi ymyrryd i sicrhau tegwch i gwsmeriaid tra hefyd yn cymell cwmnïau’n gryf i osgoi oedi rhag digwydd yn y lle cyntaf.
Mae’r cwmnïau mwyaf yn y DU sy’n darparu band eang a ffonau cartref wedi cytuno i roi iawndal i gwsmeriaid os oes oedi, a hynny heb i’r cwsmer orfod gofyn amdano.
Roedd BT, Sky, TalkTalk, Virgin Media a Zen Internet wedi arwyddo’r cynllun yn barod. Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw fod Hyperoptic a Vodafone hefyd wedi arwyddo, a byddant yn dechrau talu iawndal yn awtomatig yn nes ymlaen eleni. Gyda’i gilydd, mae gan y cwmnïau sydd wedi ymrwymo i’r cynllun fwy na 95% o’r cwsmeriaid band eang a ffôn cartref yn y DU.
Gallai’r cynllun newydd olygu y bydd cwsmeriaid yn elwa ar gyfanswm o daliadau gwerth £142m- sef naw gwaith gymaint â’r swm cawsont yn flaenorol. Yn ogystal â bod o fudd i ddefnyddwyr, bydd o fudd i lawer o gwmnïau bach a chanolig sy’n dewis gwasanaethau llinell sefydlog a band eang preswyl.
Dyma sut mae’n gweithio:
Os ydy eich llinell dir a’ch band-eang yn colli gwasanaeth ar yr un pryd, dim ond un taliad iawndal byddwch yn ei dderbyn.
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Rydym yn credu ei bod yn annerbyniol i bobl fod yn gorfod disgwyl am linell newydd neu i gael trwsio nam.
“Mae’r dulliau newydd hyn yn golygu y bydd cwmnïau ffôn a band eang eisiau osgoi problemau rhag digwydd yn y lle cyntaf. Ond os byddant yn methu, rhaid i gwsmeriaid gael eu trin yn deg a chael ad-daliad heb orfod gofyn amdano.
“Rydym yn croesawu ymrwymiad y cwmnïau i’r cynllun hwn, sy’n eu cymell yn gryf i wella’r gwasanaeth i gwsmeriaid.”
Byddwn yn cadw llygad barcud ar y ffordd mae cwmnïau yn cydymffurfio â’r cynllun a byddwn yn adrodd ar sut bydd pethau’n gweithio y flwyddyn nesaf. Os na fydd cwsmeriaid yn cael eu trin yn deg, byddwn ni’n cymryd camau ac yn gweithredu.
Tegwch i gwsmeriaid
Mae'n cynllun iawndal yn rhan o raglen waith Ofcom ar Degwch i Gwsmeriaid er mwyn sichrau bod cwsmeriaid band eang, ffôn a theledu yn cael eu trin yn deg.
Mae hyn yn cynnwys:
- Cap ar brisiau gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn, sydd hefyd yn dod i rym ddydd Llun (1 Ebrill). Bydd y cap yn amddiffyn pobl sy’n ffonio’r rhifau 118 rhag prisiau uchel.
- Gwybodaeth onest a chlir i bobl sy’n siopa am fand eang – cyn iddynt ymrwymo i gontract – ynglŷn â pha gyflymder y byddant yn ei gael.
- Cynlluniau i wneud i gwmnïau ddweud wrth bobl pryd mae eu contractau’n dod i ben, a beth yw’r bargeinion gorau sydd ar gael iddynt;
- Adolygiad o arferion prisio’r cwmnïau band eang, i weld pam mae rhai pobl yn talu mwy nag eraill;
- Adolygiad o’r modd mae gweithredwyr ffonau symudol yn codi tâl am set law pan fydd y rhain wedi’u bwndelu gydag amser-ar-yr-awyr;
- Ei gwneud yn haws i gwsmeriaid ffonau symudol newid darparwr, sy'n dod i rym erbyn 1 Gorffennaf.