4 Rhagfyr 2020

Cynigion newydd Ofcom i roi hwb i arloesedd di-wifr yn y DU

Mae Ofcom yn cynnig ei gwneud yn haws i gwmnïau ac unigolion arloesi a lansio gwasanaethau di-wifr newydd, drwy newid sut y caniateir iddynt gael mynediad i'r sbectrwm radio.

Mae'r holl dechnolegau di-wifr yn defnyddio'r sbectrwm radio - mae hyn yn cynnwys y dechnoleg a ddefnyddiwn bob dydd fel ein ffonau clyfar a'n wi-fi cartref. Mae hefyd yn cynnwys pethau nad ydym yn eu gweld bob dydd, ond sy'n chwarae rhan bwysig yn ein bywydau – fel technoleg sy'n monitro'r hinsawdd o’r gofod, yn rheoli robotiaid mewn ffatrïoedd neu'n helpu ambiwlansys i ddod o hyd i bobl yn gyflym mewn argyfwng.

Credwn fod potensial ar gyfer llawer mwy o ddefnyddiau cyffrous dros y degawd nesaf, gan gynnwys helpu i ysgogi cynhyrchiant mewn diwydiant, cefnogi datblygiadau mewn gofal iechyd, caniatáu i wasanaethau cyhoeddus gyflwyno ffyrdd newydd o wneud eu gwaith, a hyd yn oed galluogi ffermydd uwch-dechnoleg.

Felly, rydym wedi bod yn edrych ar yr hyn y gallem ei wneud yn wahanol i helpu hyn i ddigwydd.

Rydym yn cynnig ei gwneud hyd yn oed yn haws i gwmnïau, cyrff cyhoeddus ac eraill gael mynediad at sbectrwm at ddibenion arbrofol.

Yn 2019 gwnaethom lansio ein fframwaith rhannu sbectrwm i alluogi mynediad i sbectrwm nad oedd yn cael ei ddefnyddio neu y gellid ei rannu rhwng defnyddwyr. Rydym hefyd yn argymell cynnig mwy o ddewisiadau trwydded i bobl a sefydliadau sydd am ddefnyddio gwasanaethau di-wifr lleol - rhwydweithiau preifat yw'r rhain sy'n cwmpasu un ardal yn unig, yn hytrach na dibynnu ar rwydwaith cenedlaethol. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys ffermydd sy'n eu defnyddio i fonitro cnydau a da byw, neu ffatri sydd â'i rhwydwaith cyfathrebu cyflym ei hun.

Gyda chynifer  o wasanaethau'n debygol o ddibynnu ar sbectrwm yn y dyfodol, a dim ond swm cyfyngedig ohono i fynd o gwmpas, bydd hyd yn oed yn bwysicach ei rannu'n effeithiol rhwng gwahanol ddefnyddwyr. Dyna pam rydym yn cynnig y newidiadau hyn.

Credwn y bydd ein cynigion yn helpu i roi hwb i arloesedd a gwasanaethau newydd i bobl ledled y DU, ac rydym yn eich gwahodd i ddweud eich barn wrthym am ein cynlluniau i helpu i lywio cyfathrebu di-wifr ar gyfer y dyfodol.

Mae hyn yn rhan o'n gwaith parhaus i gefnogi arloesedd di-wifr, drwy roi mynediad i sefydliadau a phobl at y sbectrwm sydd ei angen arnynt.

Beth yw sbectrwm?

Allwch chi ddim gweld na theimlo sbectrwm radio. Ond mae angen sbectrwm ar unrhyw ddyfais sy'n cyfathrebu'n ddi-wifr – fel setiau teledu, allweddi car electronig, teclynnau monitro babanod, meicroffonau di-wifr a lloerennau. Mae ffonau symudol yn defnyddio sbectrwm i gysylltu â mast lleol fel y gall pobl wneud galwadau a chael mynediad i'r rhyngrwyd.

Pam mae Ofcom yn rheoli'r defnydd o sbectrwm?

Dim ond swm cyfyngedig o sbectrwm sydd ar gael, felly mae angen ei reoli'n ofalus. Defnyddir bandiau sbectrwm penodol at ddibenion gwahanol hefyd. Er enghraifft, mae cwmnïau symudol yn defnyddio gwahanol rannau o'r sbectrwm i gwmnïau teledu. Felly, mae angen ei reoli i atal gwasanaethau rhag ymyrryd ac achosi aflonyddwch i bobl a busnesau.

See also...