Rheolau newydd Ofcom i ddiogelu defnyddwyr yn well
Bydd defnyddwyr yn cael eu diogelu’n well rhag galwadau niwsans a bydd cwsmeriaid agored i niwed yn cael eu trin yn decach, yn sgil rheolau cryfach sy’n dod i rym heddiw.
Y llynedd, aeth Ofcom ati i adolygu'r Amodau Cyffredinol - y rheolau y mae’n rhaid i bob darparwr cyfathrebiadau eu dilyn er mwyn gweithredu yn y DU. Nod yr adolygiad oedd diweddaru ein rheolau i wneud yn siŵr bod defnyddwyr yn cael eu diogelu rhag arferion cyfrwys ac i gefnogi gwaith gorfodi Ofcom.
Mae’r adolygiad wedi arwain at nifer o newidiadau, sy’n rhoi gofynion llymach ar bob darparwr cyfathrebiadau yn y DU. Mae'r rhain yn effeithio ar amrywiaeth o feysydd yn cynnwys galwadau niwsans, delio â chwynion a diogelu cwsmeriaid agored i niwed.
Bydd y rheolau newydd yn gwella’r diogelwch i ddefnyddwyr mewn tri phrif faes.
Mwy o ddiogelwch rhag galwadau niwsans
- Bydd cwmnïau ffôn yn cael eu gwahardd rhag codi ffioedd ar gwsmeriaid am ddangos rhif y sawl sy'n ffonio, gwasanaeth sy’n helpu pobl i sgrinio galwadau digroeso.
- Mae’n rhaid i’r rhifau ffôn a gaiff eu dangos i bobl sy’n derbyn galwadau fod yn ddilys a galluogi pobl i ffonio’r rhif yn ôl.
- Mae’n rhaid i gwmnïau ffôn gymryd camau i ganfod a gwahardd galwadau sy’n defnyddio rhifau annilys - sy’n nodweddiadol o lawer o alwadau niwsans - fel nad ydynt yn cyrraedd y defnyddwyr yn y lle cyntaf.
- Bydd Ofcom yn gallu adalw blociau o rifau gan ddarparwyr cyfathrebiadau, os canfyddir eu bod wedi cael eu defnyddio’n systematig i achosi niwed neu bryder i bobl, fel gwneud galwadau niwsans neu gyflawni sgamiau neu dwyll.
Rhaid i bob cwmni telegyfathrebiadau drin cwsmeriaid sy’n agored i niwed yn deg
- Mae’n rhaid i bob darparwr cyfathrebiadau gyflwyno polisïau ar gyfer nodi cwsmeriaid sy'n agored i niwed - fel pobl ag anawsterau dysgu neu gyfathrebu neu’r rhai sydd â salwch corfforol neu feddyliol neu sydd wedi cael profedigaeth - er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin yn deg ac yn briodol.
Rhaid delio â chwynion a cheisiadau gan gwsmeriaid yn briodol
- Mae’n rhaid i bob darparwr cyfathrebiadau sicrhau ei fod yn delio â phryderon cwsmeriaid yn brydlon ac yn effeithiol.
- Mae’n rhaid i gwsmeriaid gael y diweddaraf am hynt eu cwyn a chael mynediad cyflymach at wasanaethau datrys anghydfodau mewn achosion lle na all eu darparwr ddatrys y mater.
- Mae’n rhaid i ddarparwyr cyfathrebiadau ystyried canllawiau newydd Ofcom wrth ddelio â cheisiadau gan gwsmeriaid i ganslo eu contractau. Dylai hyn gynnwys caniatáu i gwsmeriaid ganslo dros y ffôn, e-bost neu we-sgwrs a sicrhau nad yw cynlluniau cymell ar gyfer asiantau gwasanaethau cwsmeriaid yn annog ymddygiad gwael.
Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Mae’n bwysig bod ein rheolau’n dal i fyny â datblygiadau yn y farchnad gyfathrebiadau a pharhau i roi’r diogelwch sydd ei angen ar ddefnyddwyr.
“Bydd ein rheolau cryfach yn helpu i ddiogelu pobl rhag galwadau niwsans ac yn cefnogi ein gwaith i ganfod a chosbi’r cwmnïau hynny sy’n gyfrifol.
“Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno camau diogelu arbennig i sicrhau bod pobl agored i niwed yn cael eu trin yn deg a bod cwynion cwsmeriaid yn cael eu trin yn brydlon ac yn effeithiol”.