Rydyn ni wedi clywed adroddiadau am sgamwyr yn defnyddio gwasanaeth profi ac olrhain y GIG fel ffordd o gael gwybodaeth bersonol neu ariannol gan bobl.
Mae’r sgam yn fath o ffugio rhif. Mae hyn yn cynnwys sgamwyr yn eich twyllo i feddwl eu bod yn galw o rif ffôn gwahanol i’r un maent yn ei ddefnyddio go iawn. Yn yr achos hwn, y rhif mae nhw o bosib yn ceisio ei ddynwared i guddio pwy ydyn nhw yw rhif y gwasanaeth profi ac olrhain - sef 0300 0135 000.
Mae cwmnïau ffôn yn gweithio’n galed i’w gwneud hi’n anodd i’r sgamwyr i wneud y galwadau hyn, ond dyma wybodaeth gallai fod yn ddefnyddiol i chi.
Wrth gwrs, os byddwch yn derbyn galwad go iawn gan y gwasanaeth profi ac olrhain, mae’n bwysig eich bod yn gallu ymddiried ynddo a gweithredu ar yr wybodaeth rydych chi’n ei chael.
Felly, dyma rywfaint o gyngor am beth i’w ddisgwyl gan alwad profi ac olrhain go iawn.
Yr unig wefan bydd y gwasanaeth yn gofyn i chi ymweld â hi fydd https://contact-tracing.phe.gov.uk.
Ar alwad go iawn, ni fyddan nhw byth yn gofyn i chi wneud y canlynol:
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr. Am wybodaeth ynghylch y rhaglenni profi yn y cenhedloedd nesaf, gweler y dolenni i’r gwefannau perthnasol isod.
Os byddwch yn derbyn galwad ffôn gan rywun yn honni eu bod yn gweithio i’r GIG ac yn gofyn i chi wneud y pethau hyn, rhowch y ffôn i lawr a rhoi gwybod am yr alwad: