Ofcom yn lansio ymgyrch i chi gael y Gorau o'ch Gwesanaeth
Heddiw mae Ofcom wedi lansio ymgyrch i helpu pobl i gael gwell bargeinion band eang, yn ogystal â gweithio i amddiffyn cwsmeriaid ffyddlon.
Mae ein hymchwil yn dangos bod 94% o gartrefi a swyddfeydd yn y DU yn gallu cael band eang cyflym iawn erbyn hyn ond llai na hanner sydd wedi manteisio arno. Ar yr un pryd, gallai miliynau o gwsmeriaid fod yn talu mwy nag y mae angen ei dalu am eu band eang, drwy beidio â newid i gyflymderau cyflymach neu fargen ratach ar ôl i gyfnod sylfaenol eu contract ddod i ben.
Y Gorau o'ch Gwesanaeth
Mae ymgyrch fawr newydd i ddefnyddwyr, sef Y Gorau o'ch Gwesanaeth, yn ceisio newid hyn.
Mae gan yr ymgyrch wefan bwrpasol sy’n darparu llawer o wybodaeth a chanllawiau ynghylch sut gallwch chi gael y bargeinion band eang gorau ar gyfer eich anghenion.
Drwy ddilyn tri cham syml, gallwch weld eich opsiynau o ran band eang, gwneud penderfyniad am ba becyn sy’n addas i chi, a chael cyngor ar sut mae cael y fargen orau i chi.
- Rhowch eich cod post i weld pa fath o fand eang – safonol, cyflym iawn neu wibgyswllt – sydd ar gael ar gyfer eich cartref chi. Mae’r gwirydd yn defnyddio’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gan Ofcom.
- Penderfynwch pa becyn sy’n addas i chi – drwy weld pa fath o ddefnyddiwr band eang ydych chi.
- Siaradwch â'ch darparwr – gan ddefnyddio ein canllawiau ynghylch beth i ofyn amdano a sut i gael y fargen orau. Neu ymchwiliwch i weld pa fargeinion mae darparwyr eraill yn eu cynnig.
Bwriad yr ymgyrch yw cael gwared â'r dryswch yn y farchnad band eang, yn enwedig i bobl a fyddai’n hoffi cael rhagor o eglurder o ran cyflymder, prisiau a chontractau.
Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yr Adran Busnes, Egni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), a Which? fel rhan o’r ymgyrch, yn ogystal â’r seren deledu, Gloria Hunniford OBE, ein hyrwyddwr defnyddwyr. Dywedodd Gloria: “Gallai miliynau o bobl wella eu band eang yn y cyfnod cyn y Nadolig, pan mae angen y rhyngrwyd ar lawer o deuluoedd.
“Felly, rydw i’n annog pobl i fynd i’r wefan newydd, sy’n rhoi cyngor annibynnol ar sut mae cael y fargen orau a gwasanaeth cyflymach gan eich cwmni band eang, drwy wneud un galwad ffôn.”
Ochr yn ochr â’r ymgyrch Gwella eich Gwesanaeth, rydyn ni’n cyhoeddi mesurau ychwanegol i helpu pobl i gael y fargen orau ar gyfer eu band eang.
Rhoi gwybod i gwsmeriaid am y fargen orau
Dan reolau newydd a gynigir gan Ofcom heddiw, rhaid i gwmnïau band eang – yn ogystal â darparwyr ffonau symudol, llinell dir a theledu drwy dalu – roi gwybod am y fargen neu'r “tariff” gorau sydd ganddynt. Rhaid iddynt wneud hynny pan fydd unrhyw fargen ddisgownt sydd gan gwsmeriaid yn dod i ben, a hefyd bob blwyddyn i gwsmeriaid sydd wedi aros efo nhw ers tro. Bydd hyn yn helpu i ddarparu’r wybodaeth y mae ei hangen ar gwsmeriaid i arbed arian, a allai gynnwys chwilio am fargeinion a newid darparwr.
Prisiau teg i gwsmeriaid ffyddlon
Heddiw rydyn ni wedi dechrau adolygu prisiau band eang.
Rydyn ni'n bryderus fod rhai cwsmeriaid yn talu mwy nag eraill am wasanaethau tebyg – a gwasanaethau gwaeth mewn rhai achosion – yn enwedig pan fo'r cynigion cychwynnol wedi dod i ben.
Er enghraifft, rydyn ni'n amcangyfrif fod cwsmeriaid sy’n cael gwasanaeth llinell sefydlog a band eang gyda’i gilydd yn talu 19% yn fwy ar gyfartaledd ar ôl i'r fargen ddisgownt ddod i ben.
Byddwn yn edrych ar sut mae cwmnïau yn newid prisiau cwsmeriaid dros amser, ac ar ba gwsmeriaid y mae hyn yn cael yr effaith fwyaf. Pan fyddwn yn gweld bod defnyddwyr yn cael eu siomi, byddwn yn gweithredu i amddiffyn y defnyddwyr hynny.
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Rydyn ni'n bryderus nad yw llawer o gwsmeriaid band eang ffyddlon yn cael y fargen orau bosibl.
“Felly, rydyn ni'n adolygu arferion prisio band eang ac yn sicrhau bod cwsmeriaid yn cael gwybodaeth glir a chywir gan eu darparwr am y bargeinion gorau sydd ganddynt.”
Rydyn ni hefyd yn adolygu’r ffordd mae cwmnïau ffonau symudol yn codi tâl ar eu cwsmeriaid am y ffonau eu hunain pan fydd y rhain yn cael eu bwndelu ag amser ar yr awyr mewn un contract. Rydym yn disgwyl cyhoeddi ein canfyddiadau y flwyddyn nesaf.