Mae’r BBC, at ei gilydd, yn cyflawni ei gylch gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd, ond rhaid iddo wneud mwy mewn meysydd fel tryloywder, cymryd risigiau creadigol a denu pobl ifanc, yn ôl adroddiad blynyddol cyntaf Ofcom ar y BBC
Mae ein hadroddiad yn asesu sut mae’r BBC yn perfformio mewn cyfnod lle mae’r dirwedd cyfryngau’n newid yn sylweddol. Mae’r twf mawr yn y nifer sy’n defnyddio dyfeisiau wedi’u cysylltu ac ar-lein, yn ogystal â band eang cyflym iawn, wedi galluogi chwaraewyr ar-lein byd-eang fel Netflix ac Amazon i ymsefydlu’n gyflym iawn yn y DU. Mae YouTube yn cyrraedd mwy na 44 miliwn o bobl y mis erbyn hyn, tra mae gwylio teledu byw wedi disgyn dros chwe blynedd yn olynol.
Ond mae gan y BBC rôl ganolog ar draws llwyfannau teledu, radio ac ar-lein o hyd. Mae mwy na naw o bob deg oedolyn yn defnyddio cynnwys y BBC bob wythnos; ar gyfartaledd, rydym yn amcangyfrif bod pobl yn treulio 2 awr 44 munud gyda’r BBC bob diwrnod.
Mae bodlonrwydd cynulleidfaoedd â'r BBC yn gymharol uchel. Mae tri chwarter yn dweud eu bod yn fodlon â radio’r BBC (74%) a gwefannau ac apiau'r BBC (75%), ac mae ychydig dros ddwy ran o dair yn dweud eu bod yn fodlon â theledu’r BBC (68%). Mae mwyafrif hefyd yn cytuno bod y BBC yn cyflawni ei ‘ddibenion cyhoeddus’ yn dda.
Fodd bynnag mae Ofcom wedi nodi pedwar maes lle dylai’r BBC gymryd cam ymhellach:
Dywedodd Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Mae gwylwyr a gwrandawyr wedi dweud wrthym fod y BBC yn gwneud gwaith da, at ei gilydd. Ond, gall wneud mwy mewn rhai meysydd. Rydym yn disgwyl i'r BBC wneud mwy i ddenu pobl ifanc, a bod yn fwy mentrus o ran y rhaglenni mae'n ei wneud, a gwneud rhaglenni gwreiddiol o'r DU sy'n adlewyrchiad cywir o fywydau pobl ledled y DU.”