Beth yw rôl Ofcom yn ystod etholiad cyffredinol?
Byddwn yn cael nifer o gwestiynau ynghylch ein rôl ni mewn perthynas â rhaglenni teledu a radio yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol.
Mae’r canllaw byr hwn yn egluro’r math o faterion y gallwn ni edrych arnyn nhw, yn ogystal â'r rheini sydd y tu allan i’n cylch gwaith.
Gallwch chi ddarllen rheolau Ofcom ar gyfer cynnwys teledu a radio yn ein Cod Darlledu– sy’n cynnwys rhai rheolau arbennig sy’n berthnasol yn ystod cyfnod etholiad.
O dan eich rheolau, bydd ‘cyfnod etholiad’ yn dechrau pan fydd y senedd yn cael ei diddymu a bydd yn dod i ben am 10pm ar ddiwrnod yr etholiad, pan fydd y cyfnod pleidleisio yn gorffen. Felly ar gyfer yr etholiad cyffredinol yma, fe ddechreuodd ar 6 Tachwedd a bydd yn gorffen am 10pm ar 12 Rhagfyr.
Mae’r Cod Darlledu yn cynnwys rheolau pwysig ar ddidueddrwydd dyladwy a chywirdeb dyladwy.
Bob amser – ac nid dim ond yn ystod cyfnodau etholiadau – mae’n rhaid i’r newyddion gael eu hadrodd gyda chywirdeb dyladwy a didueddrwydd dyladwy, ac mae’n rhaid i ddarlledwyr hefyd ddangos didueddrwydd dyladwy mewn rhaglenni sy’n rhoi sylw i ‘faterion sy’n destun dadlau gwleidyddol neu ddiwydiannol, a materion sy’n ymwneud â pholisi cyhoeddus cyfredol’.
Beth mae hynny’n ei olygu? Wel, mae ‘dyladwy’ yn golygu digonol neu briodol i destun a natur y rhaglen, ac mae ‘didueddrwydd’ yn golygu peidio â ffafrio un ochr ar draul y llall. Felly nid yw ‘didueddrwydd dyladwy’ yn golygu bod rhaid rhoi’r un amser ar gyfer pob barn neu fod rhaid cynrychioli pob dadl a phob agwedd ar bob dadl.
Yn lle, mae cyd-destun yn bwysig. Mae agwedd darlledwyr at ddidueddrwydd dyladwy yn gallu amrywio yn ôl natur y pwnc, y math o raglen a'r sianel, disgwyliad tebygol y gynulleidfa o ran cynnwys a sut mae’r cynnwys a’r agwedd yn cael eu cyfleu i’r gynulleidfa.
Yn ystod cyfnod etholiad, mae’r rheolau hynny’n dal yn berthnasol. Ond yn ogystal â hynny, mae’n rhaid i bleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol gael lefelau priodol o sylw – neu ‘bwysau dyladwy’ – ar deledu a radio.
Er mwyn helpu i benderfynu ar hyn, dylai'r darlledwyr edrych ar lefelau’r gefnogaeth etholiadol yn y gorffennol a nawr i bleidiau ac i ymgeiswyr. Rhaid i ddarlledwyr hefyd ystyried rhoi sylw priodol i bleidiau ac i ymgeiswyr annibynnol sydd â safbwyntiau pwysig. Er mwyn helpu darlledwyr gyda hyn, mae Ofcom wedi cyhoeddi crynodeb o dystiolaeth o gefnogaeth etholiadol o'r gorffennol ac o'r presennol (PDF, 570.1 KB)ar gyfer yr amrywiol bleidiau.
Dim Ofcom sy’n penderfynu ar gynnwys na fformat unrhyw ddadleuon arweinwyr. Mae’r rhain yn faterion golygyddol i’r darlledwyr, ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’n rheolau ar ddidueddrwydd dyladwy.
Gan ein bod yn rheoleiddio ar ôl i bethau gael eu darlledu, byddwn yn archwilio unrhyw gwynion am y materion hyn ar ôl i raglen gael ei darlledu. Os bydd gennym unrhyw bryderon, gallwn ymchwilio a chymryd camau pellach.
Mae’n rhaid i ddarlledwyr ddyrannu darllediadau etholiadol pleidiau ar sail lefelau’r gefnogaeth etholiadol yn y gorffennol a nawr (gweler uchod). Mae pleidiau’n cael cwyno wrth Ofcom os ydynt yn anfodlon ar benderfyniadau darlledwyr ynghylch hyn.
O dan ein rheolau, rhaid i bobl sy’n sefyll fel ymgeiswyr mewn etholiad beidio ag ymddangos mewn rhaglenni fel cyflwynwyr neu gyfwelwyr yn ystod cyfnod etholiad.
Mae ymgeiswyr yn cael ymddangos ar deledu a radio i siarad am eu hetholaeth ond dim ond os ydy'r darlledwyr wedi cynnig cyfle i’r prif ymgeiswyr eraill sy’n sefyll gymryd rhan hefyd.
Pan fydd pobl yn bwrw eu pleidlais ar ddiwrnod yr etholiad, mae’n bwysig bod pawb yn cael pleidleisio ar sail yr un wybodaeth.
Felly o dan ein rheolau ni, bydd trafodaethau a dadansoddiadau ynghylch materion etholiadol yn gorfod dod i ben pan fydd y gorsafoedd pleidleisio’n agor, ac ni fyddant yn cael ailgychwyn nes bod y gorsafoedd hynny wedi cau. A thra bydd pobl yn pleidleisio, rhaid i ddarlledwyr beidio â chyhoeddi canlyniadau unrhyw bolau piniwn.
Yn ystod cyfnodau etholiadol, bydd Ofcom yn llunio Pwyllgor Etholiadau, sy’n cynnwys aelodau ein prif Fwrdd a’n Bwrdd Cynnwys arbenigol. Mae’r pwyllgor yn delio ag anghydfodau rhwng darlledwyr a phleidiau gwleidyddol ynghylch dyrannu darllediadau etholiadol pleidiau, ac yn edrych ar gwynion pwysig a gawn am raglenni sydd wedi cael eu darlledu yn ystod cyfnod yr etholiad.
Oherwydd bod etholiadau’n bwysig, mae gennym weithdrefn garlam i edrych ar gwynion am sylw etholiadol. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu ymchwilio cyn gynted ag sy'n bosibl os bydd angen i ni wneud hynny. Mae disgwyl i bob darlledwr weithio’n gyflym gyda ni yn ystod cyfnod etholiad er mwyn helpu i ddelio â chwynion.
O dan Siarter y BBC, bydd cwynion am raglenni'r BBC yn cael eu trin gan y BBC yn y lle cyntaf, ac rydym yn disgwyl iddynt ddelio â’r cwynion a gaiff yn ystod etholiadau cyn gynted ag sy'n bosibl. Ond os bydd rhywun yn anfodlon â sut mae’r BBC wedi delio â'u cwyn, mae modd iddynt gysylltu ag Ofcom am eu hachos ac mae’n bosibl i ni ei archwilio a rhoi dyfarniad.
Nid oes gan Ofcom unrhyw bwerau i reoleiddio cyfryngau cymdeithasol. Felly, nid oes gennym unrhyw rôl yng ngweithgareddau cyfryngau cymdeithasol pobl fel cyflwynwyr teledu, gohebwyr, cyflwynwyr newyddion neu ymgeiswyr gwleidyddol.
O dan gyfraith y DU, mae hysbysebion gwleidyddol ar deledu a radio wedi cael eu gwahardd, ac mae Ofcom yn gorfodi'r gwaharddiad hwnnw. Ond mae’r pleidiau amrywiol yn gallu bod yn gymwys i gael darllediadau etholiadol (gweler uchod). Nid oes gan Ofcom unrhyw rôl yn rheoleiddio hysbysebion gwleidyddol ar gyfryngau cymdeithasol, mewn papurau newydd nac ar wefannau.
Pan fyddwn yn cael cwynion am raglenni teledu neu radio, yn aml byddwn yn dweud ein bod yn eu hasesu cyn penderfynu a fyddwn yn ymchwilio ai peidio. Mae’n wahaniaeth pwysig.
Byddwn yn asesu pob cwyn a gawn – fel mater o drefn – i weld a yw’n codi pryderon posibl o dan ein rheolau. Ond efallai na fydd achos i’w ateb. Felly, nid yw asesu’n golygu’r un peth ag ymchwilio.
Os bydd gennym bryderon, byddwn yn dechrau ymchwiliad. Pan fydd hyn yn digwydd, byddwn yn ysgrifennu at y darlledwr. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd ganddynt gyfle i ymateb i’n pryderon cyn i ni ddod i ‘safbwynt rhagarweiniol’ ynghylch a ydy ein rheolau wedi cael eu torri. Wedyn, ar ôl i ni ystyried unrhyw sylwadau gan y darlledwr, byddwn yn dod i benderfyniad terfynol ac yn cyhoeddi’r penderfyniad hwnnw.