15 Rhagfyr 2020

Ofcom i reoleiddio cynnwys niweidiol ar-lein

Mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu penodi Ofcom yn rheoleiddiwr ar gyfer niwed ar-lein yn y DU.

Mae hyn yn golygu y bydd Ofcom yn ymgymryd â chyfrifoldebau newydd i amddiffyn plant a phobl sy'n agored i niwed pan fyddant ar-lein ac yn rhoi mwy o hyder i bawb fwynhau'r manteision enfawr o fod ar-lein yn ddiogel.

Mae gan Ofcom brofiad helaeth o fynd i'r afael â chynnwys niweidiol ac o gefnogi rhyddid mynegiant, drwy ein rôl yn rheoleiddio rhaglenni teledu a radio. Ni hefyd yw'r rheoleiddiwr ar gyfer llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU.

Rydym bellach yn cynyddu ein gwaith ar niwed ar-lein, a byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth a Senedd y DU wrth iddynt ddatblygu'r ddeddfwriaeth angenrheidiol. Byddwn hefyd yn dechrau cyflwyno technoleg newydd a phobl sydd â'r sgiliau data cywir.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn gosod allan ein syniadau cychwynnol ar ein dull o reoleiddio niwed ar-lein.

Holi ac Ateb

Pam mae angen rheoleiddio cynnwys ar-lein?

Mae'r rhyngrwyd wedi mynd yn rhan annatod o fywydau’r rhan fwyaf ohonom ni. Ond mae ymchwil gan Ofcom (PDF, 6.9 MB) yn dangos i draean o bobl deimlo bod y risgiau o fod ar-lein – naill ai iddyn nhw neu i'w plant – wedi dechrau gorbwyso'r manteision. Mae gan bedwar o bob pum defnyddiwr rhyngrwyd sy'n oedolion bryderon am fynd ar-lein, ac mae'r rhan fwyaf o bobl yn cefnogi rheolau llymach.

Pa gymwysterau sydd gan Ofcom i reoleiddio niwed ar-lein?

Mae gan Ofcom flynyddoedd lawer o brofiad o daclo cynnwys niweidiol ac ar yr un pryd cefnogi rhyddid mynegiant, trwy ein rôl o reoleiddio rhaglenni teledu a radio. Rydym hefyd bellach yn rheoleiddiwr ar gyfer llwyfannau rhannu fideos a sefydlir yn y DU.

Rydym eisoes yn cynnal ymchwil o'r radd flaenaf ar dueddiadau'r farchnad, arferion ac agweddau ar-lein. Gallwn hefyd fanteisio ar berthnasoedd cryfion gyda’r diwydiant, y rhai sy’n llunio polisi, arbenigwyr academaidd, elusennau a rheoleiddwyr eraill.

Ydy hyn yn golygu y bydd Ofcom yn sensro’r rhyngrwyd?

Byddwn ni ddim yn sensro'r we na chyfryngau cymdeithasol. Mynegiant rhydd yw enaid y rhyngrwyd ac mae'n ganolog i'n democratiaeth, ein gwerthoedd a'n cymdeithas fodern.

Mae ein rôl o gynnal safonau darlledu ar gyfer rhaglenni teledu a radio yn golygu i ni feddu ar brofiad helaeth o ddiogelu cynulleidfaoedd rhag niwed ac ar yr un pryd cynnal rhyddid mynegiant. Rhan bwysig o'n gwaith fydd sicrhau bod llwyfannau ar-lein yn gwneud yr un peth gyda'u systemau a'u prosesau.

Onid oes gormod o gynnwys ar y rhyngrwyd i unrhyw un reoleiddio'r cyfan?

Ni fyddwn yn gyfrifol am reoleiddio na chymedroli darnau unigol o gynnwys ar-lein.

Bwriad Llywodraeth y DU yw y dylai llwyfannau ar-lein fod â systemau a phrosesau priodol ar waith i ddiogelu defnyddwyr; ac y dylai Ofcom gymryd camau yn eu herbyn os byddant yn methu. Byddwn yn canolbwyntio’n benodol ar fynd i'r afael â'r niwed mwyaf difrifol, gan gynnwys cynnwys anghyfreithlon a niwed sy'n effeithio ar blant.

Pryd fyddwch chi’n dechrau rheoleiddio cynnwys ar-lein?

Mae Llywodraeth y DU yn disgwyl y bydd y Mesur Diogelwch Ar-lein, a fydd yn disgrifio’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer niwed ar-lein, yn barod yn 2021. Yna, bydd angen iddo fynd drwy Senedd y DU i fynd yn gyfraith mewn cam diweddarach.

See also...