Os ydych chi’n cael trafferth talu eich bil ffôn neu fand eang yn ystod pandemig y coronafeirws (Covid-19), dylech siarad â’ch darparwr cyn gynted â phosib i weld sut gallan nhw helpu.
Wrth i’r pandemig barhau ac wrth i’r cyfnod clo newydd olygu bod pobl yn treulio mwy o amser gartref, maen nhw’n fwy dibynnol nag erioed ar eu ffonau cartref, eu gwasanaethau symudol neu fand eang.
Rydym yn disgwyl i ddarparwyr gymryd mesurau ychwanegol i sicrhau bod cwsmeriaid sydd mewn dyled yn cael eu trin yn deg. Mae darparwyr eisoes wedi rhoi mesurau ar waith i gefnogi cwsmeriaid yn ystod y cyfnod heriol hwn, ac rydym wedi galw arnynt i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i gynnig cymorth i gwsmeriaid a allai fod yn cael trafferth talu eu biliau.
Mae ein canllaw ar fregusrwydd yn nodi’r mesurau y gall darparwyr eu mabwysiadu i helpu i wneud yn siŵr eu bod yn trin pobl agored i niwed yn deg a’u bod yn darparu’r cymorth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Dyma enghreifftiau o sut gallant wneud hyn:
Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, fe wnaethom ofyn i ddarparwyr fynd yr ail filltir mewn rhai meysydd drwy gynnig cymorth ychwanegol i gwsmeriaid. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys:
Yn ddiweddar, fe wnaethom ysgrifennu at ddarparwyr yn gofyn iddynt edrych unwaith eto ar y cymorth sydd ar gael iddynt yn erbyn ein canllaw ar fregusrwydd a’r mesurau ychwanegol sydd wedi’u nodi uchod. Credwn y bydd yr holl fesurau hyn yn helpu i sicrhau bod defnyddwyr a allai fod yn agored i niwed yn cael eu trin yn deg yn ystod y cyfnod clo a’r cyfyngiadau diweddaraf hyn.
Fodd bynnag, hoffem eich atgoffa hefyd y dylech gysylltu â’ch darparwr cyn gynted â phosib os ydych chi eisoes mewn trafferthion ariannol neu os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n cael trafferth talu eich biliau. Gall eich darparwr drafod yr opsiynau sydd ganddynt ar waith i’ch helpu i reoli eich sefyllfa.
Mae rhai darparwyr band eang – fel BT, KCOM, Virgin Media a Hyperoptic – yn cynnig tariffau rhatach i helpu cwsmeriaid sydd ar incwm isel.
Cynnyrch | Pris | Cyflymder | Data | Cymhwystra |
---|---|---|---|---|
BT Basic + Broadband | £10.07 y mis | 10 Mdid yr eiliad | Diderfyn | Prawf modd budd-daliadau (dim enillion) |
Virgin Media Essential Broadband | £15 y mis | 15 Mdid yr eiliad | Diderfyn | Credyd Cynhwysol |
KCOM Lightstream Flex | £20 y mis | 30 Mdid yr eiliad | Diderfyn | Prawf modd budd-daliadau (dim enillion) |
Hyperoptic Fair Fibre Plan | O £15 y mis | O 50 Mdid yr eiliad | Diderfyn | Prawf modd budd-daliadau penodol |
Rydym am i gwmnïau nad ydynt eisoes yn cynnig tariff fforddiadwy wedi'i dargedu i gwsmeriaid ar incwm isel ystyried gwneud hynny. Dylai darparwyr sy'n cynnig pecynnau o'r fath wneud mwy i'w hyrwyddo, er mwyn ceisio codi ymwybyddiaeth ymhlith cwsmeriaid sy'n debygol o fod yn gymwys.