Mae Ofcom wedi canfod bod darlledwyr teledu’r DU yn casglu mwy o ddata ar gyfansoddiad eu gweithluoedd nag erioed o’r blaen, gan nodi cam ymlaen o ran deall a mynd i'r afael â thangynrychiolaeth yn y diwydiant teledu.
Y llynedd, roedd Ofcom wedi mynnu bod darlledwyr yn gwneud gwaith monitro cyson o’u gweithluoedd, er mwyn pennu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a helpu i fynd i'r afael â diffyg amrywiaeth yng ngwasanaethau teledu’r DU.
Mae ein hadroddiad heddiw, Amrywiaeth a Chyfleoedd Cyfartal yn y diwydiant teledu 2018, yn edrych ar y cynnydd sydd wedi’i wneud dros y 12 mis diwethaf ar draws y diwydiant teledu yn y DU. Mae’n canolbwyntio ar y pum prif ddarlledwr – y BBC, Channel 4, ITV, Sky a Viacom (perchennog Channel 5).
Mae cael gweithlu mwy cynrychioladol yn helpu darlledwyr i greu cynnwys arloesol, creadigol a dilys ar y teledu, sy’n adlewyrchu Prydain fodern a bywydau a phrofiadau eu cynulleidfa gyfan. Mae gan ddarlledwyr rwymdedigaeth i gymryd mesurau i wella cyfle cyfartal yn y gwaith. Mae hyn hefyd yn helpu pobl i weithio yn y maes darlledu na fyddent fel arall o bosib yn cael y cyfle i wneud hynny.
Mae darlledwyr teledu yn awr yn casglu data ar ethnigrwydd 88% o staff, i fyny o 83% y llynedd. Maent wedi mesur oedran 86% o weithwyr, a chyfeiriadedd rhywiol 59% – i fyny o 71% a 49% y llynedd. Mae crefydd neu gred 56% o staff hefyd yn cael ei gofnodi yn adroddiad heddiw, i fyny o 41% flwyddyn yn ôl.
Ond mae gwybodaeth ynglŷn â statws anabledd gweithwyr wedi methu a chynyddu, gyda 31% o staff heb eu cofnodi - ffigwr tebyg i’r llynedd. O ganlyniad, mae’n parhau yn aneglur pa mor dda mae pobl anabl yn cael eu cynrychioli.
Rydyn ni’n disgwyl i ddarlledwyr barhau i wella’r data, yn arbennig mewn meysydd sy’n parhau’n wael, a byddwn yn gweithio gyda’r darlledwyr dros y misoedd nesaf i'w helpu i fynd i’r afael â hyn.
Nodwch fod y fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Mewn uwchgynhadledd amrywiaeth yn ddiweddar a drefnwyd gan Brif Weithredwr Ofcom, Sharon White, ymrwymodd penaethiaid yr holl brif ddarlledwyr teledu i sbarduno newid ar draws eu sefydliadau.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae pob un o’r darlledwyr wedi mabwysiadu nifer o gynlluniau i hybu amrywiaeth a chynhwysiant ac mae’u manylion i’w cael yn adroddiad in-focus Ofcom.
Disgwyliwn i'r gwaith hwn gael ei adlewyrchu yn y data am y gweithlu dros amser, wrth i brosesau newydd gael eu gwreiddio ac wrth i gyfleoedd gwaith godi yn sgil trosiant staff.
Dywedodd Vikki Cook, Cyfarwyddwr Diogelu Cynulleidfaoedd a Safonau Ofcom: “Mae’n galonogol gweld bob y prif ddarlledwyr yn deall yr angen i ddenu pobl sydd o bosib yn teimlo na allant gael gyrfa yn y maes teledu. Mae uwch staff ar draws y maes teledu yn arwain y gwaith o ehangu hyd a lled y talent ar y sgrin ac oddi ar y sgrin. Mae hyn o fudd i ddarlledwyr oherwydd mae’n eu helpu i wneud rhaglenni sy’n adlewyrchu’r DU drwyddi draw.
“Ond, mae’n hadroddiad yn dangos bod cryn ffordd i fynd. Rydym yn disgwyl i ddarlledwyr gynnal momentwm y llynedd, a pharhau i wella eu prosesau monitro ac amrywiaeth eu staff yn y misoedd i ddod.”
I sicrhau bod momentwm yn parhau o ran mynd i’r afael â thangynrychiolaeth yn y diwydiant teledu, mae Ofcom wedi nodi meysydd ychwanegol y bydd disgwyl i ddarlledwyr ganolbwyntio arnynt.