Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Cyfathrebu symudol yn dod yn fwyfwy poblogaidd yng Nghymru

31 Gorffennaf 2013

31 July 2013

Mae bron i chwarter cartrefi Cymru yn troi eu cefn ar y llinell sefydlog draddodiadol ac yn defnyddio ffonau symudol yn unig i wneud a derbyn galwadau ffôn gartref, yn ôl ymchwil Ofcom a gyhoeddwyd heddiw.

Ffôn symudol yn unig sydd gan 23 y cant o gartrefi Cymru, sydd gryn dipyn yn fwy na chyfartaledd y DU o 15 y cant.  20 y cant oedd y ffigur y llynedd.

Mae oedolion yng Nghaerdydd yn llai tebygol na'r rheini mewn rhannau eraill o Gymru i ddefnyddio'u llinell sefydlog. Y rheswm posibl am hyn yw’r nifer mwy yng Nghaerdydd sy’n defnyddio dyfeisiau symudol y mae modd cael y rhyngrwyd arnynt, gyda 61% o oedolion yn berchen ar ddyfais o'r fath, o'i gymharu â 42% ledled Cymru.

Hefyd, mae’r nifer sy’n berchen ar ffôn deallus wedi parhau i godi yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda dros hanner y bobl (54%) yn berchen ar ffôn deallus erbyn hyn, cynnydd 12 pwynt canran ers y llynedd. Yng Nghymru wledig hefyd y gwelwyd y cynnydd mwyaf yn y DU yn y ganran sy’n berchen ar ffôn deallus, cynnydd 15 pwynt canran er 2012 (o 33% i 48%).

Yn ogystal â'r prif ganfyddiadau sy'n ymwneud â'r nifer sy'n defnyddio gwasanaethau cyfathrebu yng Nghymru, mae Adroddiad 2013 Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu yng Nghymru hefyd yn edrych ar y defnydd o wasanaethau ar-lein y Llywodraeth (e-lywodraeth), ac agweddau atynt; y defnydd a wneir gan ddefnyddwyr o'r rhyngrwyd i brynu nwyddau (e-fasnach); profiad defnyddwyr o ansawdd gwasanaeth ffonau symudol; ac effaith argaeledd seilwaith cyfathrebu ar Gaerdydd a Bangor.

Er bod band eang y genhedlaeth nesaf ar gael bellach i dros 90% o safleoedd yng Nghaerdydd, mae'r ymchwil yn dangos nad yw 10% o’r safleoedd yn gallu cysylltu i wasanaeth sy'n gyflymach na 2 Mbit yr eiliad. Mae argaeledd band eang y genhedlaeth nesaf yn eithaf uchel ym Mangor hefyd ac, yn ddiweddar, dyma un o'r ardaloedd cyntaf i fanteisio ar brosiect Cyflymu Cymru, partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a BT i ddarparu band eang cyflym iawn i 96% o gartrefi Cymru erbyn 2016.

Mae gan Fangor hefyd nifer uchel iawn o fannau â chyswllt WiFi, gyda 14.1 (am bob 10,000 o’r boblogaeth), dwywaith y nifer yng Nghaerdydd (7.1) a mwy na dwywaith cyfartaledd yr 11 dinas a oedd yn rhan o’r ymchwil (6.2).

Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: “Yn y Gymru sydd ohoni, mae cysylltedd yn bwysig oherwydd bod gwasanaethau cyfathrebu digidol yn cael eu cyfuno fwyfwy â bywyd bob dydd dinasyddion, defnyddwyr a busnesau.

“Mae Cymru yn dal ar y blaen o ran y cartrefi sy'n defnyddio ffôn symudol yn unig, ac mae'n galonogol gweld y Gymru wledig yn arwain y ffordd o ran bod yn berchen ar ffonau deallus, tueddiad sy'n siŵr o barhau yn sgîl y ffaith y bydd gwasanaethau 4G yn cael eu cyflwyno ledled y DU maes o law. Bydd gwasanaethau 4G yn golygu cyflymder band eang symudol cyflymach, mwy o arloesedd, buddsoddiad newydd a gwell derbyniad ledled Cymru, gydag o leiaf 95% o boblogaeth Cymru yn derbyn darpariaeth 4G o dan do erbyn diwedd 2017 fan bellaf. Bydd hyn yn golygu y bydd y ddarpariaeth 4G yn ymestyn y tu hwnt i’r gwasanaethau 3G presennol.”

Dywedodd Ian Clarke, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghori Ofcom dros Gymru: “Mae Adroddiad eleni ar y Farchnad Gyfathrebu yng Nghymru yn awgrymu bod mwy a mwy yn ffafrio telegyfathrebiadau symudol, gyda chanran uwch o gartrefi â ffôn symudol yn unig a chanran uwch o bobl yn berchen ar ffôn deallus yng Nghymru; a chanran is â band eang llinell sefydlog o’i gymharu â chyfartaledd y DU.  Mae’n hanfodol sicrhau y bydd Prosiect Seilwaith Symudol Llywodraeth y DU a chyflwyno gwasanaethau 4G yn y man yn cefnogi’r tueddiad hwn ac yn sicrhau y bydd holl drigolion Cymru yn gallu cael gafael ar y genhedlaeth nesaf o wasanaethau symudol, lle bynnag y maent.

“Mae’n galonogol hefyd gweld bod swmp y cynyrchiadau teledu rhwydwaith gwreiddiol yng Nghymru wedi cynyddu yn 2012. Byddai Pwyllgor Ymgynghori Cymru yn croesawu rhagor o gynnydd yn y maes hwn, a byddwn yn parhau i geisio sicrhau bod yr holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn adlewyrchu'n ddigonol safbwyntiau gwahanol ac amrywiaeth ddiwylliannol Cymru drwy eu cynyrchiadau rhwydwaith."

Prif ganfyddiadau yng Nghymru

Defnyddio gwasanaethau ar-lein

  • Yng Nghymru, mae dwy ran o dair (66%) o’r rheini sydd â mynediad i’r rhyngrwyd yn defnyddio gwasanaethau’r Llywodraeth ar-lein, megis talu treth cerbyd, gwneud cais am fudd-daliadau, tocyn bws neu le mewn ysgol. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd y DU o 61%. Dywed oddeutu hanner (53%) defnyddwyr y gwasanaethau ar-lein hyn eu bod wedi cael mwy o gysylltiad â pholisïau neu wasanaethau’r Llywodraeth ers mynd atynt ar-lein. Mae hyn yn is na chyfartaledd y DU o 58%.
  • Mae 62% o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru yn dweud eu bod yn siopa ar-lein, sef yr un canran â chyfartaledd y DU. Dywed 79% o siopwyr ar-lein yng Nghymru eu bod yn teimlo’n ddiogel wrth dalu ar-lein. Mae hyn yn uwch na chyfartaledd y DU o 76%.

‘Mannau di-gyswllt’ - profiad defnyddwyr o ansawdd gwasanaeth ffonau symudol

  • Mae'r ddarpariaeth symudol yn arbennig o bwysig wrth ddewis darparwr, i bobl sy’n byw yng Nghymru. Mae defnyddwyr ffonau symudol sy’n byw yng Nghymru yn llawer mwy tebygol na’r rheini yn Lloegr neu’r Alban i ddweud mai’r gallu i wneud neu dderbyn galwadau neu negeseuon testun yw'r ffactor pwysicaf wrth ddewis darparwr.

Teledu a chynnwys clyweledol

  • Mae pobl yng Nghymru yn treulio 4.5 awr y dydd yn gwylio'r teledu, yr uchaf o'r holl wledydd.
  • Gostyngodd y gwariant ar gynnwys teledu gwreiddiol i’w ddarlledu am y tro cyntaf ar gyfer gwylwyr yng Nghymru 3% o un flwyddyn i'r llall, ychydig o dan y gostyngiad cyfartalog o 4% yn y DU.
  • Mae’r oriau o gynnyrch gwreiddiol i’w darlledu am y tro cyntaf yng Nghymru wedi gostwng bron i chwarter (24%) er 2007; y gostyngiad cymharol mwyaf yng nghynnyrch gwreiddiol y gwledydd dros y cyfnod pum mlynedd.

Radio a chynnwys sain

  • Mae mwy o bobl yng Nghymru yn gwrando ar y radio nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Roedd gwasanaethau radio wedi cyrraedd 93.1% o’r boblogaeth oedolion yng Nghymru, yr uchaf o holl wledydd y DU a 3.5 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU o 89.5%.
  • Mae’r nifer sy’n berchen ar radio digidol DAB gryn dipyn yn is na chyfartaledd y DU. Ychydig dros un o bob pedwar (27%) o’r rheini sy’n gwrando ar y radio yng Nghymru sy’n berchen ar radio digidol DAB, o’i gymharu â chyfartaledd y DU o 41%. Cynyddodd y gyfran sy’n gwrando drwy lwyfan digidol yng Nghymru 1.9 pwynt canran yn 2012, sy'n is nag unrhyw wlad arall yn y DU.
  • Roedd y refeniw radio masnachol y pen ar ei isaf yng Nghymru. Roedd y refeniw masnachol a gynhyrchwyd gan orsafoedd radio masnachol lleol yng Nghymru yn £17.7m yn 2012. Gan addasu i ystyried maint poblogaeth, gan Gymru y mae'r refeniw y pen isaf o holl wledydd y DU, er gwaethaf cynnydd o 10c er 2010.

Y rhyngrwyd a chynnwys ar y we

  • Mae un o bob deg (9%) defnyddiwr yng Nghymru yn mynd ar y rhyngrwyd drwy ffôn symudol yn unig, y gyfran uchaf ymhlith y gwledydd datganoledig a dwywaith cyfartaledd y DU (4%). Gan ystyried yr holl ddulliau o fynd ar y rhyngrwyd, roedd tri chwarter (75%) y defnyddwyr yng Nghymru ar-lein erbyn Ch1 2013.

Telegyfathrebiadau a rhwydweithiau

  • Cymru welodd y cynnydd mwyaf yng nghyfran y safleoedd sydd mewn codau post a wasanaethir gan rwydweithiau band eang y genhedlaeth nesaf yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2013.Yng Nghymru, 48% oedd y gyfran hon ym mis Mehefin 2013. Er mai hwn oedd y ffigur isaf ymysg gwledydd y DU, roedd yn gynnydd 11 pwynt canran o'i gymharu â'r 37% a gofnodwyd ym mis Mehefin 2012, y cynnydd mwyaf a gofnodwyd dros y cyfnod.
  • Yng Nghymru, mae'r nifer sy'n derbyn gwasanaethau band eang a llinell sefydlog yn is na'r cyfartaledd. Roedd y nifer â band eang cyffredinol a llinell sefydlog yn is na chyfartaledd y DU ar gyfer y gwasanaethau hyn yng Nghymru yn Ch1 2013. Yng Nghymru, roedd gan 66% o gartrefi gysylltiad band eang yn ystod y cyfnod, naw pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU (75%), tra oedd y nifer â llinell sefydlog yng Nghymru (76%) wyth pwynt canran yn is na chyfartaledd y DU (84%).

Post

  • Dywedodd bron i ddwy ran o dair o oedolion yng Nghymru eu bod wrth eu bodd yn anfon a derbyn llythyrau a chardiau (65%), sy'n uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU.
  • Mae pobl yng Nghymru yn fwy tebygol o fod wedi lleihau faint o bost y maent yn ei anfon, ac yn disgwyl i'r duedd hon barhau. Pan ofynnwyd iddynt a yw’r nifer o eitemau post y maent yn ei anfon wedi newid yn ddiweddar, pobl Cymru sydd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn anfon llai erbyn hyn (-15% net). Maent hefyd yn rhagweld y byddant yn defnyddio llai ar y post i anfon llythyrau, cardiau a pharseli yn y dyfodol (-16% net).
  • Busnesau yng Nghymru yw'r lleiaf tebygol o fod wedi newid rhywfaint o'r post i ddulliau cyfathrebu eraill yn y flwyddyn ddiwethaf. Pan ofynnwyd i fusnesau a oeddynt wedi symud rhywfaint o'r post i fath arall o wasanaeth cyfathrebu dros y 12 mis diwethaf, dywedodd 61% o'r ymatebwyr yng Nghymru eu bod wedi gwneud hynny, y gyfran isaf o holl wledydd y DU.  Ymysg y rheini a oedd wedi gwneud, mae busnesau yng Nghymru yn fwy tebygol o ddweud mai cyflymder yw’r rheswm dros wneud hynny, yn hytrach nag ar gyfer arbed costau.

Uchafbwyntiau adroddiad y DU

Mae’r twf anferthol yn y nifer sy'n defnyddio ffonau deallus a dyfeisiau llechen yn creu cenedl o ddefnyddwyr cyfryngau gwahanol, gan drawsnewid ystafell fyw draddodiadol ein rhieni a'n teidiau a neiniau yn ganolfan cyfryngau digidol.

Mae Adroddiad 2013 Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu yn datgelu bod teuluoedd yn dal i ddod at ei gilydd i wylio’r teledu yn yr ystafell fyw – mae 91% o’r holl wylio yn digwydd ar y brif set deledu, sydd wedi codi o 88% yn 2002. Fodd bynnag, erbyn hyn, mae mwy a mwy o gyfryngau digidol yn hawlio'u sylw. Mae pobl yn ffrydio fideos, yn anfon negeseuon gwib ac yn diweddaru eu statws ar y cyfryngau cymdeithasol – a'r cyfan wrth wylio mwy o deledu nag o’r blaen.

Gwneir y gweithgareddau hyn yn bennaf gan ddefnyddio ffonau deallus, gyda dros hanner yr oedolion (51%) bellach yn berchen ar y dyfeisiau hyn, bron i ddwywaith y ganran ddwy flynedd yn ôl (27%).

Ar yr un pryd, mae’r nifer sy’n berchen ar ddyfais llechen wedi mwy na dyblu yn y flwyddyn ddiwethaf, gan godi o 11% o gartrefi i 24%.  Erbyn hyn, mae gan y cartref cyffredin fwy na thri math o ddyfais y gellir ei defnyddio i fynd ar y rhyngrwyd, gydag un o bob pump yn berchen ar chwech neu fwy.

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

  1. Mae Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu yn rhoi golwg fanwl ar wasanaethau cyfathrebu ar draws Cymru ac yn monitro patrymau allweddol o ran y gwasanaethau digidol sydd ar gael ledled Cymru a’r nifer sy’n eu defnyddio.
  2. Cynhaliwyd arolygon wyneb yn wyneb gyda 3,750 o ymatebwyr 16 oed a hŷn yn y DU, a chynhaliwyd 492 o gyfweliadau yng Nghymru. Cafodd cwotâu eu gosod a chafodd pwysiadau eu rhoi er mwyn sicrhau bod y sampl yn cynrychioli poblogaeth Cymru o ran oed, rhywedd, grŵp economaidd-gymdeithasol a lleoliad daearyddol. (Cafodd y gwaith maes ei gynnal yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2013.)
  3. Dylid nodi bod gan y sampl arolwg yng Nghymru gyfyngau gwall oddeutu +/- 3-4% ar y lefel hyder 95%. Mewn ardaloedd trefol a gwledig, mae cyfyngau gwall yr arolwg oddeutu +/-4-6%.
  4. Cafodd yr ymatebwyr eu diffinio fel ymatebwyr trefol os oeddent yn byw mewn anheddiad gyda phoblogaeth o 2000 neu fwy, ac yn ymatebwyr gwledig os oeddent yn byw mewn ardaloedd gyda phoblogaeth lai.
  5. Yn ogystal â data’r arolwg, mae’r adroddiad hwn yn cyfeirio at ddata o sawl ffynhonnell arall, gan gynnwys data a roddwyd i Ofcom gan randdeiliaid.
  6. Ofcom yw’r rheoleiddiwr annibynnol a’r awdurdod cystadleuaeth i ddiwydiannau cyfathrebu’r DU, ac mae ganddo gyfrifoldebau ar draws teledu, radio, telegyfathrebiadau, cyfathrebiadau di-wifr a gwasanaethau post.
  7. I gael rhagor o wybodaeth am Ofcom, ewch i: www.ofcom.org.uk. Mae modd gweld datganiadau i’r wasg Ofcom yn: http://media.ofcom.org.uk/