Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Datganiad Ofcom ar ddarllediadau etholiadol y pleidiau

16 Mawrth 2015

16 March 2015

Heddiw mae Ofcom wedi cyhoeddi datganiad ar reolau darlledu cyn yr Etholiad Cyffredinol a’r etholiadau lleol a maerol yn Lloegr ar 7 Mai 2015.

Rôl Ofcom, o dan ddyletswyddau sydd wedi’u pennu gan y Senedd, yw pennu rheolau ar gyfer neilltuo darllediadau etholiadol byrion gan y pleidiau ar deledu a radio. Mae yna waharddiad hirsefydlog ar hysbysebu gwleidyddol ar deledu a radio yn y DU. Yn hytrach, darperir amser ar yr awyr rhad ac am ddim ar ffurf darllediadau etholiadol y pleidiau byr, sy’n caniatáu i’r pleidiau cymwys i gyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r etholwyr.

Mae rheolau Ofcom yn ymwneud â darllediadau etholiadol gan bleidiau ar ITV, STV, UTV, Channel 4, Channel 5, Classic FM, Talksport ac Absolute Radio.

Mae Ofcom wedi asesu tystiolaeth sy’n dangos cefnogaeth gan y cyhoedd mewn etholiadau blaenorol ac yn y polau piniwn cyfredol, ac mae wedi penderfynu ar sail lefelau sylweddol o gefnogaeth pa bleidiau a gaiff isafswm o ddau ddarllediad etholiadol ar bob un o’r sianelau hyn. Hefyd mae’n rhaid cynnig isafswm o un darllediad etholiadol ar bob un o’r sianelau hyn i bleidiau sy’n cyflwyno ymgeiswyr mewn o leiaf un rhan o chwech o seddi’r Etholiad Cyffredinol.   

Tu hwnt i’r gofynion sylfaenol hyn, mae’r darlledwyr yn rhydd i benderfynnu dros eu hun nifer y darllediadau etholidaol a gynigir i’r pleidiau. Yn Etholiad Cyffredinol 2010, neilltuodd darlledwyr fwy na’r isafswm gofynnol o ddarllediadau etholiadol i amrywiaeth eang o bleidiau gwleidyddol, ac mae’r manylion ar gael yma.

Nid yw Ofcom yn penderfynu ar strwythur, fformat nac amseriad unrhyw ddadleuon etholiadol posib ar y teledu rhwng yr arweinwyr. Mae’r penderfyniadau ynghylch pa arweinwyr a gynrychiolir mewn unrhyw ddadleuon a ddarlledir yn faterion golygyddol i ddarlledwyr, gan gytuno â’r pleidiau gwleidyddol sy’n cymryd rhan.

Mae Ofcom hefyd yn pennu rheolau i sicrhau tegwch a sylw priodol i’r pleidiau mewn darllediadau am yr etholiadau. Bydd Ofcom yn asesu’r rhaglenni hyn ar ôl iddynt gael eu darlledu i weld a ydynt wedi cydymffurfio â’r rheolau hyn.

Rheoleiddir darllediadau etholiadol y pleidiau ar y BBC gan Ymddiriedolaeth y BBC. Mae Canllawiau Etholiadol y BBC wedi’u cyhoeddi yma.
Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus a lansiwyd ym mis Ionawr 2015, mae Ofcom wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau ei gynigion heddiw.

Darllediadau etholiadol i’r ‘prif bleidiau’

Yn ei ymgynghoriad, bu Ofcom yn ystyried a ddylai’r ‘prif bleidiau’ presennol aros ar y rhestr ac a ddylid ychwanegu’r Blaid Werdd (gan gynnwys Plaid Werdd yr Alban), Llais Traddodiadol yr Unoliaethwyr (TUV) ac UKIP at y rhestr o ‘brif bleidiau’ sydd â hawl i isafswm o ddau ddarllediad etholiadol.       

Ar ôl asesu’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn ofalus, a’r dystiolaeth o berfformiad etholiadol a’r data o’r polau piniwn cyfredol, mae Ofcom wedi ychwanegu UKIP at y rhestr yng Nghymru a Lloegr ar gyfer etholiadau mis Mai 2015.

Yn seiliedig ar y dystiolaeth, nid yw’r Blaid Werdd (gan gynnwys Plaid Werdd yr Alban) na’r TUV wedi cael eu hychwanegu at y rhestr y tro hwn.                    
O ganlyniad, dyma’r pleidiau sydd â hawl i isafswm o ddau ddarllediad etholiadol:

  • Ym Mhrydain Fawr, y Blaid Geidwadol; y Blaid Lafur; a’r Democratiaid Rhyddfrydol.
  • Yn yr Alban, Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP).
  • Yng Nghymru, Plaid Cymru.
  • Yng Ngogledd Iwerddon, Plaid y Gynghrair; Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd; Sinn Féin; Plaid y Democratiaid Cymdeithasol a Llafur; a Phlaid Unoliaethwyr Ulster.
  • Yng Nghymru a Lloegr, UKIP.

Mae’n rhaid i ddarlledwyr hefyd gynnig isafswm o un darllediad etholiadol i bleidiau eraill sy’n rhoi ymgeiswyr i sefyll mewn o leiaf un rhan o chwech o’r seddi yn yr Etholiad Cyffredinol. Y tu hwnt i’r gofynion sylfaenol hyn, rhaid i ddarlledwyr ystyried cynnig darllediadau etholiadol pellach i’r pleidiau os yw’r dystiolaeth o’r gefnogaeth etholiadol yn y gorffennol, neu’r gefnogaeth gyfredol, yn golygu y byddai’n briodol gwneud hynny.              

Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw’r ‘prif bleidiau’ yn cael yr un faint o sylw’n awtomatig.                  
Asesu tystiolaeth
Mae Ofcom yn rheoleiddiwr sy’n gweithredu ar sail tystiolaeth ac mae wedi asesu’r holl dystiolaeth o gefnogaeth berthnasol yn ofalus, gan gynnwys y canlynol:  

  • perfformiad etholiadol blaenorol, gan gynnwys dadansoddi’r gyfran o’r bleidlais ochr yn ochr â’r seddi a enillwyd; a data’r polau piniwn cyfredol (ar gyfer y cyfnod hyd at ac yn cynnwys mis Chwefror 2015).

Mae Ofcom wedi ystyried yr ymatebion i’w ymgynghoriad, gan gynnwys y galw am i aelodaeth y pleidiau gwleidyddol, a’r twf mewn aelodaeth sydd wedi’i gofnodi ar gyfer y Blaid Werdd, Plaid Werdd yr Alban a’r SNP, gael eu hystyried fel rhan o sylfaen dystiolaeth Ofcom.

Gan fod aelodaeth y pleidiau’n parhau’n gyfran fechan iawn o gyfanswm yr etholwyr, daeth Ofcom i’r casgliad nad oedd hwn yn ddangosydd mor gadarn o gefnogaeth ehangach i’r pleidiau amrywiol ag yw perfformiad etholiadol blaenorol a’r polau piniwn cyfredol.

Hefyd mae asesiad Ofcom yn cydnabod bod rhai pleidiau gwleidyddol yn cyflwyno ymgeiswyr ledled Prydain Fawr, tra bo pleidiau eraill yn cyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon yn bennaf.

Mewn perthynas â’r Blaid Werdd (gan gynnwys Plaid Werdd yr Alban), y TUV ac UKIP, mae’r dystiolaeth ar ffurf crynodeb:

Y camau nesaf

Rhaid i’r darlledwyr perthnasol sicrhau bod y rhai sydd wedi’u rhestru fel ‘prif bleidiau’ yn cael cynnig o leiaf ddau ddarllediad etholiadol yn ystod y cyfnod sy’n arwain at yr Etholiad Cyffredinol ac etholiadau lleol a maerol Lloegr ar 7 Mai 2015. Bydd pleidiau eraill nad ydynt ar y rhestr yn gymwys ar gyfer o leiaf un darllediad etholiadol os ydynt yn cystadlu mewn un rhan o chwech neu fwy o’r seddi sydd ar gael yn yr etholiad.

Hefyd mae’n rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod y pleidiau i gyd yn cael eu trin yn deg ac yn ddiduedd yn yr holl ddarlledu.

  •  
  • DIWEDD
  •  
  • NODIADAU I OLYGYDDION
  •  
  • Y Blaid Werdd (gan gynnwys Plaid Werdd yr Alban)

Ni chafodd y Blaid Werdd gefnogaeth etholiadol sylweddol yn Etholiad Cyffredinol 2010, gan ennill 1% o’r bleidlais ac un sedd yn San Steffan. Mae’r blaid wedi perfformio’n well mewn rhai ffurfiau eraill ar etholiadau, fel etholiadau Senedd Ewrop yn 2014, gan ennill 8.0% o’r bleidlais yn Lloegr ac 8.1% yn yr Alban.

O ran tystiolaeth o’r gefnogaeth bresennol, mae canran y Blaid Werdd yn y polau piniwn wedi cynyddu yn ystod y ddwy i dair blynedd diwethaf, o 3% ym mis Mai 2012 i fod ar ei huchaf yn 7% ym mis Chwefror 2015 yn y polau piniwn ledled Prydain Fawr.  

O ran y dystiolaeth o gefnogaeth bresennol i Blaid Werdd yr Alban, mae polau piniwn yr Alban yn dynodi cefnogaeth o 2 - 4%.

O roi’r holl dystiolaeth berthnasol at ei gilydd, a safbwyntiau’r rhai a ymatebodd i’n hymgynghoriad, mae Ofcom wedi penderfynu na fyddai’n briodol ychwanegu’r Blaid Werdd na Phlaid Werdd yr Alban at y rhestr o brif bleidiau y tro hwn.

  • Llais yr Unoliaethwyr Traddodiadol (TUV)

Ni chafodd y TUV gefnogaeth etholiadol sylweddol yn Etholiad Cyffredinol 2010 yng Ngogledd Iwerddon. Perfformiodd y blaid yn well yn etholiadau Senedd Ewrop yn 2014, gan ennill 12.1% o’r bleidlais yng Ngogledd Iwerddon. Fodd bynnag, nid yw wedi cael cefnogaeth sylweddol mewn ffurfiau eraill ar etholiadau ac nid oes gan y blaid hon gefnogaeth sylweddol ar hyn o bryd yn y polau piniwn.

O roi’r holl dystiolaeth berthnasol at ei gilydd, a safbwyntiau’r rhai a ymatebodd i’n hymgynghoriad, mae Ofcom yn parhau i gredu nad yw’r dystiolaeth yn cyfiawnhau ychwanegu’r TUV at y rhestr o brif bleidiau ar gyfer Gogledd Iwerddon.  

  • UKIP

Ni chafodd UKIP gefnogaeth etholiadol sylweddol yn Etholiad Cyffredinol 2010, gan ennill 3.5% o’r bleidlais.
Fodd bynnag, mae perfformiad UKIP mewn nifer o ffurfiau eraill ar etholiadau wedi bod yn gryfach.

Cafodd UKIP lefel sylweddol o gefnogaeth yng Nghymru a Lloegr yn etholiadau Senedd Ewrop yn 2014, gan sicrhau 29.2% o’r bleidlais yn Lloegr, y gyfran fwyaf i unrhyw blaid yn Lloegr, a 27.6% yng Nghymru.  Roedd ei chyfran o’r bleidlais yn is yn yr Alban (10.5%). Hefyd cafodd UKIP lefelau sylweddol o gefnogaeth yn etholiadau lleol Lloegr (15.7% yn 2014 ac 19.9% yn 2013). Hefyd mae UKIP wedi ennill dwy sedd yn y Senedd mewn is-etholiadau diweddar yn Lloegr.

Mae lefel y gefnogaeth i UKIP yn y data polau piniwn ar gyfer Cymru a Lloegr wedi bod yn cynyddu’n raddol am nifer o flynyddoedd. Mae Pôl y Polau y BBC yn dangos cynnydd o gyfartaledd o 6.8% yn 2012 i gyfartaledd o 14.9% yn 2015. Mae ffigurau’r Arsyllfa Polau’n dangos bod y gefnogaeth yn cynyddu o gyfartaledd o 8.1% yn 2012 i gyfartaledd o 15.2% yn 2015 ac o gyfartaledd o 8.3% yn 2012 i gyfartaledd o 14.5% ym mholau piniwn Cymru yn unig.

O roi’r holl dystiolaeth berthnasol at ei gilydd, a safbwyntiau’r rhai a ymatebodd i’n hymgynghoriad, mae Ofcom wedi penderfynu y dylid ychwanegu UKIP at y rhestr o brif bleidiau at bwrpas etholiadau mis Mai 2015 yng Nghymru a Lloegr (nid yn yr Alban).

  • Mae Ofcom wedi ymgynghori ar agweddau ar reoliadau darlledu cyn yr Etholiad Cyffredinol, etholiadau llywodraeth leol Lloegr (mewn rhai rhannau o Loegr) ac etholiadau maerol Lloegr (yn Bedford; Caerlŷr; Mansfield; Middlesbrough; a Torbay).Cynhelir yr etholiadau hyn ar 7 Mai 2015.
  •  
  • Cafodd Ofcom dros 7400 o ymatebion i’w ymgynghoriad ar ddarllediadau etholiadol y pleidiau.
  • Mae gan Ofcom reolau caeth yn eu lle ar gyfer darlledwyr, i sicrhau sylw teg yn ystod y cyfnod yn arwain at yr Etholiad Cyffredinol.  Mae’n rhaid i ddarlledwyr sicrhau bod yr holl sylw’n cydymffurfio â rheolau ynghylch bod yn ddiduedd ac etholiadau, fel y nodir yng Nghod Darlledu Ofcom (“y Cod”).
  • Mae Rheol 5 y Cod yn ei gwneud yn ofynnol i ddarlledwyr sicrhau bod y newyddion yn gywir ac yn ddiduedd. Mae Rheol 6.2 y Cod yn datgan y dylid rhoi sylw darlledu priodol i’r prif bleidiau yn ystod cyfnod yr etholiad. O dan Reolau Ofcom ar Ddarllediadau Gwleidyddol a Refferendwm y Pleidiau (“Rheolau PPRB”) rhaid cynnig o leiaf ddau Ddarllediad Etholiadol i’r holl brif bleidiau ar wasanaethau Channel 3 (ITV, STV ac UTV), Channel 4, Channel 5, Classic FM, Talksport ac Absolute Radio. Hefyd mae’r Cod a’r Rheolau PPRB yn datgan rheolau ar gyfer trin pleidiau cofrestredig eraill.            
  • Cyfrifoldeb y darlledwyr, ac nid Ofcom, yw penderfynu ar strwythur, fformat ac arddull y sylw etholiadol, fel dadleuon yr arweinwyr. Mae’r penderfyniad ynghylch pa arweinwyr a gynrychiolir mewn unrhyw ddadleuon etholiadol posib yn faterion golygyddol i ddarlledwyr, gan gytuno â’r pleidiau gwleidyddol sy’n cymryd rhan.
  • O dan y Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Ofcom ac Ymddiriedolaeth y BBC, mae’n rhaid i wasanaethau a gyllidir gan ffi trwydded y BBC gydymffurfio â’r Cod Darlledu: “i’r graddau nad yw safonau o’r fath yn ymwneud â manwl gywirdeb neu amhleidioldeb cynnwys unrhyw raglen a gynhwysir yng Ngwasanaethau Darlledu Cyhoeddus y BBC yn y DU. Mae manwl gywirdeb ac amhleidioldeb y rhaglenni yng Ngwasanaethau Darlledu Cyhoeddus y BBC yn gyfrifoldeb Ymddiriedolaeth y BBC”. Mewn perthynas â Darllediadau Etholiadol y Pleidiau, o dan Siarter a Chytundeb y BBC yn 2006, mae Ymddiriedolaeth y BBC yn rheoleiddio'r meini prawf ar gyfer Darllediadau Etholiadol y Pleidiau ar wasanaethau'r BBC.
  • Mae Awdurdod S4C yn paratoi’r polisi ar gyfer darllediadau gwleidyddol a refferendwm y pleidiau ar S4C. Wrth lunio’r polisi hwn, mae Awdurdod S4C yn ystyried y penderfyniadau a wneir yn y Grŵp Cyswllt i Ddarlledwyr (fforwm cynrychioliadol ar gyfer darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus y DU - BBC, ITV, Channel 4, Five ac S4C), safbwyntiau’r Comisiwn Etholiadol a’r rheolau sydd wedi’u gwneud gan Ofcom o dan adran 333 o Ddeddf Cyfathrebu 2003.