Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Gwasanaeth symudol 4G yn cyrraedd naw o bob deg cartref a swyddfa yng Nghymru

04 Awst 2016

04 August 2016

  • Mae'r ddarpariaeth symudol yn gwella yn ôl Adroddiad Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu
  • Y rhyngrwyd: mae hanner y defnyddwyr yn dweud eu bod yn 'gaeth' - a rhai yn rhoi 'detox' digidol iddynt eu hunain
  • Teledu: Mae darlledwyr yn gwario mwy ar gynnwys ar gyfer gwylwyr yng Nghymru

Erbyn hyn, mae dros 90% o adeiladau yng Nghymru yn cael darpariaeth 4G yn yr awyr agored gan un neu ragor o rwydweithiau symudol, yn ôl adroddiad blynyddol Ofcom ar y marchnadoedd cyfathrebu.

Mae Adroddiad 2016 Ofcom ar y Farchnad Gyfathrebu yng Nghymru yn dangos bod Cymru yn dal i fyny â gweddill y DU o ran y gwasanaethau 4G sydd ar gael.

Mae darpariaeth 4G yn yr awyr agored gan un neu ragor o'r cwmnïau symudol yn 90.1% yng Nghymru. Mae hyn yn lleihau'r bwlch rhwng Cymru a'r Alban (92%), Lloegr (98.8%) a Gogledd Iwerddon (99.3%).1

Roedd darpariaeth gwasanaethau 4G yn yr awyr agored yng Nghymru gan y pedwar rhwydwaith symudol yn 43.9% ym mis Mai 2016, ychydig dros 20% yn uwch nag yn 2015 (cynnydd o 23.9 pwynt canran). Mae hyn yn cymharu â 71.3% ar gyfer y DU.

Yn ystod y flwyddyn diwethaf, mae cyfran yr oedolion yng Nghymru sy'n defnyddio gwasanaethau 4G wedi dyblu bron, gyda mwy na phedwar o bob deg (44%) yn defnyddio gwasanaeth symudol 4G erbyn hyn, o'i gymharu â 23% yn 2015.

Mae defnydd o 4G yng Nghymru yn cyd-fynd yn gyffredinol â'r defnydd yn y DU drwyddi draw (48%) a'r Alban (40%), ond mae'n llai na'r defnydd yng Ngogledd Iwerddon (54%). Mae'r adroddiad yn dangos bod y defnydd yn amrywio rhwng ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig yng Nghymru (49% o'i gymharu â 28%).

Yr heriau sy'n gysylltiedig â gwasanaethau symudol yng Nghymru

Mae tirwedd Cymru, a'i mynyddoedd a'i dyffrynnoedd, ynghyd ag ardaloedd heb lawer o boblogaeth, yn peri heriau technegol wrth ddarparu signal symudol.

Mae'r tir yn hynod o heriol ac yn gwneud y gwaith o greu rhwydweithiau symudol yn ddrud ac yn anodd. Mae adroddiad heddiw yn dangos bod angen gwneud mwy o waith ar ddarpariaeth symudol ac ansawdd gwasanaethau yng Nghymru.

Mae'r data2 yn dangos bod cyfran yr adeiladau yng Nghymru â darpariaeth 2G yn yr awyr agored gan o leiaf un rhwydwaith yn 98.4% ym mis Mai. Dyma'r gyfran isaf ymhlith gwledydd y DU, (DU 99.6%).

Yng Nghymru, roedd 98.6% o adeiladau mewn ardaloedd â darpariaeth 3G yn yr awyr agored ym mis Mai 2016. Eto yng Nghymru, roedd canran yr adeiladau â darpariaeth yn yr awyr agored gan bob un o'r pedwar rhwydwaith 3G yn 74.9% - y ganran isaf o blith gwledydd y DU, a ffigur dipyn yn is na'r ffigur ar gyfer y DU, sef 92.5%.

Mae adroddiad heddiw hefyd yn dangos bodlonrwydd defnyddwyr â'r gwasanaeth; yn 2015, roedd defnyddwyr mewn ardaloedd trefol yn fwy tebygol na'r rheini mewn ardaloedd gwledig o ddweud eu bod yn fodlon â'u derbyniad ffôn symudol (89% o'i gymharu â 73%). Ar y llaw arall, roedd defnyddwyr yn yr ardaloedd gwledig yn fwy tebygol na'r rheini mewn ardaloedd trefol o fod yn anfodlon (18% o'i gymharu â 5%).

Mae gwelliannau'n cael eu gwneud i ymestyn y ddarpariaeth symudol yng Nghymru. Bydd rheolau y mae Ofcom wedi'u rhoi ar waith yn gwneud yn siŵr bod gwasanaethau data 4G ar gael yn eang yng Nghymru erbyn diwedd 2017. Yn ogystal, bydd cytundeb rhwng Llywodraeth y DU a'r cwmnïau symudol hefyd yn sicrhau gwelliannau i ddarpariaeth llais daearyddol.3

Dywedodd Rhodri Williams, Cyfarwyddwr Ofcom yng Nghymru: "Mae defnyddwyr symudol yng Nghymru yn mwynhau gwell gwasanaethau data a llais symudol nag erioed o'r blaen, ac mae cynnydd yn dal i gael ei wneud.

"Mae topograffeg Cymru yn ei gwneud yn fwy anodd ac yn fwy drud i adeiladu'r seilwaith cyfathrebiadau. Felly mae'n rhaid i'r diwydiant, y rheoleiddwyr, yr awdurdodau cynllunio a thirfeddianwyr ddal ati i gydweithio er mwyn ymestyn y ddarpariaeth eto fyth."

Mae gan ddwy ran o dair ffôn clyfar

Mae'r Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu yng Nghymru yn sôn am ddefnyddio ffonau symudol hefyd. Mae pobl Cymru yn teimlo bod eu ffonau symudol yn bwysig er mwyn cael mynediad at y rhyngrwyd. Pan ofynnwyd iddynt, dywedodd bron i chwech o bob deg (57%) eu bod wedi defnyddio eu ffon symudol i fynd ar-lein yn ystod yr wythnos flaenorol. Roedd hyn yn cyd-fynd â'r ganran ar gyfer y DU drwyddi draw (62%).

Mae'r nifer sy'n defnyddio ffonau symudol wedi cyrraedd naw o bob deg (91%) oedolyn yn 2016, gan ddod â Chymru i'r un lefel â'r DU (93%). Roedd nifer yr oedolion yng Nghymru oedd yn berchen ar ffôn clyfar yn is nag yn y DU drwyddi draw yn 2016 (65% o'i gymharu â 71%),4 ond roedd 36% o bobl Cymru yn dweud mai eu ffôn clyfar oedd y ddyfais bwysicaf iddynt ar gyfer mynd ar-lein.

Roedd y nifer sy'n berchen ar gyfrifiadur tabled yng Nghymru (67% o gartrefi) yn uwch na chyfartaledd y DU (59%), a Gogledd Iwerddon, Lloegr, a'r Alban (60%, 59% a 56% yn y drefn honno). Y gweithgareddau ar-lein mwyaf cyffredin ymysg defnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru yw pori a syrffio'n gyffredinol (87%) ac anfon a derbyn negeseuon e-bost (86%).

Mae pobl Cymru yn croesawu gwasanaethau ar-lein mwy newydd hefyd - negeseua gwib welodd y cynnydd mwyaf o ran poblogrwydd. Erbyn hyn, mae dros bedwar o bob deg (43%) yn defnyddio gwasanaethau fel WhatsApp a Facebook Messenger o leiaf unwaith yr wythnos - i fyny o 24% yn 2014. Mae wyth o bob 10 defnyddiwr rhyngrwyd yng Nghymru (80%) yn cytuno bod y gwasanaethau cyfathrebu newydd hyn wedi gwneud bywyd yn haws.

Bod yn gaeth i ddyfeisiau cysylltiedig a 'detox' digidol

Mae defnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru yn treulio 17.8 awr bob wythnos ar-lein, ac mae bron i hanner yr oedolion (46%) yn teimlo'u bod yn 'gaeth' i'w dyfais, yn ôl yr Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu.

Mae dau o bob pump sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yng Nghymru (39%) yn dweud eu bod yn euog o dreulio mwy o amser ar-lein bob dydd nag yr oeddent wedi'i fwriadu, ac roedd 30% yn dweud yr un fath am gyfryngau cymdeithasol.

O ganlyniad, roedd un rhan o dair (34%) yn dweud nad oedden nhw'n gwneud digon o waith tŷ; roedd 34% yn dweud nad oedden nhw'n cael digon o gwsg neu'u bod wedi blino y diwrnod wedyn; ac roedd 14% yn dweud eu bod yn colli allan ar dreulio amser gyda ffindiau a theulu.

Mae ein hymlyniad at ein dyfeisiau cysylltiedig yn amharu ar gyfathrebu wyneb-yn-wyneb hefyd, yn ôl y gwaith ymchwil.

Roedd bron i un rhan o dair o oedolion yng Nghymru (31%) yn teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu gan ffrind neu berthynas, oherwydd bod y person hwnnw wedi ymgolli yn ei ffôn clyfar neu'i gyfrifiadur tabled, o leiaf unwaith yr wythnos; roedd 10% ar y llaw arall yn dweud bod hyn yn digwydd yn ddyddiol.

Mae'r gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu bod ychydig dros chwarter pobl Cymru (27%) yn dewis anfon negeseuon testun neu negeseuon gwib i ffrindiau a theulu yn hytrach na siarad wyneb-yn-wyneb, hyd yn oed os ydynt yn eistedd yn yr un ystafell gartref.

Fodd bynnag, mae pobl Cymru yn cymryd camau i gael cydbwysedd iach rhwng technoleg a bywyd y tu hwnt i'r sgrin. Mae oddeutu tri o bob deg sy'n defnyddio'r rhyngrwyd yng Nghymru (28%) wedi teimlo'r angen i beidio â mynd ar-lein am gyfnod er mwyn cael 'detox' digidol. Roedd tri chwarter y rhieni (74%) wedi rhoi rheolau i'w plant er mwyn cyfyngu ar yr amser yr oeddent yn ei dreulio ar-lein.

Gwariant ar gynnwys teledu i wylwyr yng Nghymru

Gan droi at y teledu, yn ôl yr Adroddiad, roedd y BBC ac ITV Cymru Wales wedi gwario mwy ar gomisiynu rhaglenni newydd ar gyfer gwylwyr yng Nghymru y llynedd - £28m i gyd, sy'n gynnydd o 4.5%, o £27m yn 2014.

Roedd gwariant y BBC ac ITV Cymru Wales ar raglenni'r gwledydd a'r rhanbarthau yng Nghymru, gan gynnwys ailddarllediadau a rhaglenni a brynwyd, 5% yn uwch mewn termau nominal ers 2014, a 15% yn uwch ers 2010.

Gwelwyd cynnydd o 14% yn 2015 yn y gwariant ar raglenni heb fod yn rhaglenni materion cyfoes a newyddion ar gyfer gwylwyr yng Nghymru, a chynnydd o 28% ers 2010. Dyma'r cynnydd mwyaf mewn pum mlynedd ar gyfer rhaglenni heb fod yn rhaglenni materion cyfoes/heb fod yn rhaglenni newyddion mewn unrhyw wlad yn y DU.

Fodd bynnag, gostyngodd y gwariant ar newyddion 3% tra gostyngodd y gwariant ar faterion cyfoes 7%, y ddau wedi cynyddu'n sylweddol yn 2014. O'i gymharu â 2010, roedd y gwariant ar faterion cyfoes wedi cynyddu 11% mewn termau nominal, ond roedd gwariant ar newyddion yn debyg i lefelau 2010.

Mae'r ffordd y mae gwylwyr Cymru yn defnyddio technoleg hefyd yn newid. Ymysg y rheini sydd â theledu yn y cartref, roedd 33% yn dweud bod ganddynt deledu clyfar - gan gynyddu o 17% yn 2015. Mae bron i un rhan o dair (30%) o oedolion yng Nghymru yn gwylio cynnwys ar-alwad y mae'n rhaid talu amdano drwy wasanaethau fel Netflix a Now TV bob wythnos yn 2016 - cynnydd o 13% ers 2014.

Datblygiadau eraill yn y farchnad

Teledu

  • Mae pobl yng Nghymru yn treulio 4 awr a 10 munud y dydd ar gyfartaledd yn gwylio teledu a ddarlledir - sy'n uwch nag yn yr Alban (4 awr), Gogledd Iwerddon (3 awr a 45 munud) a'r DU ar gyfartaledd (3 awr a 36 munud).
  • Roedd astudiaeth Digital Day Ofcom o arferion gwylio clyweledol yn dangos bod bron i naw o bob deg (88%) o bobl Cymru yn gwylio teledu byw mewn wythnos arferol, sy'n golygu dim newid o'i gymharu â chanlyniadau 2014. Ar y llaw arall, roedd cyfran y bobl oedd yn gwylio gwasanaethau ar-alwad mae'n rhaid talu amdanynt wedi cynyddu o 13% i 30%.5
  • O'i gymharu â'r DU drwyddi draw, mae dros hanner cartrefi Cymru yn cael teledu lloeren drwy'r brif set deledu (53% o'i gymharu â 40%). Fodd bynnag, mae cartrefi yng Nghymru yn llai tebygol na'r DU drwyddi draw o fod â Freeview (28% o'i gymharu â 34%) neu deledu cebl (6% o'i gymharu â 16%). Mae'r nifer sy'n gwylio teledu digidol drwy gysylltiad band eang wedi cynyddu o 5% yn 2015 i 9% yn 2016.

Telegyfathrebiadau

  • Mae nifer y bobl sy'n defnyddio band eang yng Nghymru yn debyg i'r nifer yn y DU yn gyffredinol (79% o'i gymharu â 81%), a gyda phob un o wledydd y DU. Nid oedd unrhyw wahaniaeth chwaith rhwng y nifer sy'n defnyddio band eang mewn ardaloedd trefol ac ardaloedd gwledig yng Nghymru.
  • Mae oedolion yng Nghymru sydd â ffôn symudol yn fwy tebygol nag yn 2015 o fod ar gontract SIM-yn-unig (11% o'i gymharu â 5%), er bod y nifer sy'n mynd ar gontract sy'n cynnwys ffôn neu gontract talu-ymlaen-llaw/ talu-wrth-ddefnyddio yn debyg i'r nifer flwyddyn yn ôl. Yr unig wahaniaeth a welwyd yn 2016 oedd y gwahaniaeth rhwng ardaloedd gwledig Cymru, sy'n fwy tebygol nag ardaloedd trefol o fod ar gontract talu-ymlaen-llaw/talu-wrth-ddefnyddio (40% o'i gymharu â 28%).

Radio

  • Cyrhaeddodd y gwasanaethau radio 93.6% o boblogaeth Cymru yn 2015, ac mae pobl yng Nghymru yn gwrando ar y radio am gyfnod hwy bob wythnos (22.1 awr) na'r DU drwyddi draw (21.4 awr).
  • Roedd gwasanaethau radio rhwydwaith y BBC ar draws y DU yn gyfrifol am 51% o'r holl oriau gwrando yng Nghymru, 5 pwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU. Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle'r oedd dros hanner yr holl wrando yn digwydd ar y gwasanaethau hyn.
  • Gwasanaethau'r BBC i'r gwledydd (BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru) gafodd 9% o'r gwrando, 2 bwynt canran yn uwch na chyfartaledd y DU ar gyfer gwasanaethau lleol y BBC neu wasanaethau'r BBC i'r gwledydd.
  • Yng Nghymru y cafwyd y twf mwyaf mewn refeniw radio masnachol lleol yn 2015. Cynyddodd y refeniw £1.32 neu 9.4% fesul pen o'r boblogaeth.
  • Yng Nghymru y cafwyd y cynnydd mwyaf o un flwyddyn i'r llall mewn gwariant ar gynnwys gan y BBC ar radio lleol/y gwledydd. Cynyddodd y gwariant ar gynnwys BBC Radio Wales 7.1% a gwariwyd 10.9% yn fwy ar BBC Radio Cymru.

PostM

  • Mae oedolion yng Nghymru yn anfon 6.3 eitem ar gyfartaledd bob mis, o'i gymharu â 6.6 eitem bob mis yn y DU drwyddi draw.
  • Dywedodd llai nag un o bob pump (15%) oedolyn yng Nghymru nad oeddent wedi anfon eitem o bost yn ystod y mis diwethaf. Mae hyn yn cymharu â 21% yn y DU drwyddi draw.
  • Yng Nghymru, dywed dros naw o bob deg oedolyn (95%) eu bod yn fodlon â diogelwch y gwasanaeth a gynigir gan y Post Brenhinol. Mae 86% o oedolion hefyd yn fodlon â'r amser mae'r post yn ei gymryd i gyrraedd pen ei daith.
  • Dywedodd dros un o bob pump oedolyn yng Nghymru (21%) eu bod wedi cael problemau gyda phost yn mynd ar goll yn ystod y 12 mis diwethaf, sy'n fwy nag yn y gwledydd eraill i gyd - Lloegr (10%), yr Alban (7%) a Gogledd Iwerddon (4%).

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Roedd darpariaeth 4G yn yr awyr agored gan un neu ragor o gwmnïau symudol ar draws y DU drwyddi draw yn 97.8%. Mae'r trothwyon ar gyfer cryfder signalau a ddefnyddir gan Ofcom i bennu lle mae gwasanaethau symudol 2G, 3G a 4G ar gael yn wahanol i'r rheini a ddefnyddiwyd yn adroddiadau y llynedd. O'r herwydd, nid oes modd cymharu data'r ddarpariaeth symudol yn yr adroddiad hwn gyda'r rhai a gyhoeddwyd y llynedd. Efallai fod y trothwyon hyn hefyd yn wahanol i' rheini a ddefnyddiwyd gan yr MNOs yn eu hadroddiadau. Hefyd, nid oes modd cymharu ffigurau trefol a gwledig y DU â'r rheini a gyhoeddwyd yn adroddiad 2015 oherwydd newid yn y dosbarthiadau trefol/gwledig.
2. Mae'r data wedi'u darparu i Ofcom gan dri chwmni rhwydwaith symudol 2G cenedlaethol y DU - Vodafone, O2 ac EE.
3. Daeth Llywodraeth y DU i gytundeb â'r cwmnïau rhwydwaith symudol i sicrhau darpariaeth llais a thestun i 90 y cant o arwynebedd y DU erbyn diwedd 2017.
4. Mae hyn wedi newid ers 2015, pan oedd y nifer â ffôn clyfar yng Nghymru a'r DU drwyddi draw yn debyg (63% o'i gymharu â 66%).
5. Ffynhonnell: BARB, unigolion 4 oed a hŷn. Gwylio byw, wedi'i recordio a dal-i-fyny hyd at saith diwrnod ar ôl darlledu.
6. Bydd yr adroddiad hwn yn cael ei ddiweddaru yn nes ymlaen yn 2016, pan fydd gan Ofcom ddata mae modd eu cymharu ynghylch argaeledd gwasanaethau band eang ffibr a chebl, yn ogystal â band eang cyflym iawn, ym mis Mehefin 2016. Fodd bynnag, roedd adroddiad Cysylltu'r Gwledydd 2015 Ofcom yn dangos bod band eang cebl ar gael i 21% o adeiladau yng Nghymru; bod band eang ffibr ar gael i 83%; a gallai 79% o adeiladau yng Nghymru gael band eang cyflym iawn.
7. Yn ogystal â sicrhau bod llawer o'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad ar gael, a bod modd eu defnyddio a'u rhannu fel data agored yn www.ofcom.org.uk/opendata, rydym hefyd yn lansio dau adnodd rhyngweithiol i bobl allu dadansoddi data ymchwil defnyddwyr o'n harolygon tracio a'n hymchwil Diwrnod Digidol. Bydd modd cael gafael arnynt yn www.ofcom.org.uk/cmr.