Cynlluniau er mwyn sicrhau bod cyfathrebiadau digidol yn gweithio i bawb

26 July 2016

26 July 2016

  • Dylai Openreach ddod yn gwmni ar wahân, gyda’i Fwrdd ei hun
  • BT yn paratoi i agor ei rwydwaith i gystadleuwyr
  • Y cynnydd a wnaed o ran darparu gwell ansawdd o wasanaeth i’r holl gwsmeriaid telecom

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi cynlluniau manwl i sicrhau bod cyfathrebiadau digidol yn gweithio i bawb - yn cynnwys diwygiadau sylweddol i Openreach, yr is-adran o BT sy’n gyfrifol am y rhwydwaith.

Ym mis Chwefror, amlinellodd Ofcom ei fesurau er mwyn helpu i roi’r Deyrnas Unedig ar flaen y gad fel economi ddigidol dros y ddeng mlynedd nesaf a’r tu hwnt, drwy gyflawni newid sylweddol mewn gwasanaethau telecom i bawb.

Roedd y cynlluniau hyn yn canolbwyntio ar greu Openreach mwy annibynnol; mwy o ddewis o rwydweithiau band eang, yn cynnwys cysylltiadau ffibr i gartrefi a swyddfeydd; gwell ansawdd o wasanaeth ar draws y diwydiant cyfan; a gwell darpariaeth band eang a symudol ar gyfer pobl a busnesau.

Heddiw, mae Ofcom wedi cyhoeddi’r cynnydd a wnaed yn y meysydd hyn.

Openreach sy’n gweithio i bawb

Mae Openreach yn rhan o Grŵp BT sy’n datblygu ac yn cynnal a chadw’r brif rwydwaith telecom yn y DU. Caiff y rhwydwaith hwn ei defnyddio gan ddarparwyr ffôn a band eang megis Sky, TalkTalk, Vodafone a BT Consumer. Mae rheidrwydd ar Openreach i gynnig yr un cynnyrch i bob cwsmer ar yr un telerau.

Cyflwynodd Ofcom y strwythur hwn yn 2005 gan arwain at fanteision megis mwy o gystadleuaeth. Fodd bynnag, mae gan BT ddylanwad o hyd dros rai o benderfyniadau pwysicaf Openreach. Felly, mae gan BT gymhelliad i wneud y penderfyniadau hyn er budd ei fusnesau manwerthu ei hun, ar draul ei gystadleuwyr, a gall hyn arwain at broblemau o ran cystadleuaeth.

Ym mis Chwefror, dywedodd Ofcom fod rhaid i Openreach ddod yn fwy annibynnol wrth BT, a heddiw mae wedi cynnig ffordd o gyflawni hynny.

Dyma’r model arfaethedig a gyhoeddwyd gan Ofcom heddiw:

  • Openreach i ddod yn gwmni ar wahân. Dylai Openreach ddod yn gwmni cyfreithiol ar wahân yn y Grŵp BT, gyda’i ‘Erthyglau Cymdeithasu’ ei hun. Byddai gofyn i Openreach - a’i gyfarwyddwyr - wneud penderfyniadau er budd holl gwsmeriaid Openreach ac i hybu llwyddiant y cwmni.
  • Sefydlu Bwrdd ar gyfer Openreach. Dylai’r Bwrdd newydd gael mwyafrif o gyfarwyddwyr anweithredol, yn cynnwys y Cadeirydd. Ni ddylai’r cyfarwyddwyr anweithredol hyn fod yn gysylltiedig â Grŵp BT mewn unrhyw ffordd, ond byddent yn cael eu penodi a’u diddymu gan BT mewn ymgynghoriad ag Ofcom.
  • Swyddogion gweithredol yn atebol i’r Bwrdd newydd. Dylai Prif Weithredwr Openreach gael ei benodi gan, a bod yn atebol i, Fwrdd Openreach - ac nid Grŵp BT. Yna, byddai’r Prif Weithredwr yn gyfrifol am benodi’r swyddogion gweithredol eraill. Ni ddylai fod yna linellau uniongyrchol er mwyn adrodd yn ôl rhwng swyddogion gweithredol Openreach a Grŵp BT, ac eithrio lle bo hynny’n briodol er mwyn sicrhau trefniadau llywodraethu corfforaethol da. Mewn achosion o’r fath, caiff hynny ei gytuno ag Ofcom.
  • Mwy o ymgynghori â chwsmeriaid. Byddai’n rhaid i Openreach ymgynghori’n ffurfiol â chwsmeriaid megis Sky a TalkTalk ar fuddsoddiadau mawr. Dylid cael cyfnod ‘cyfrinachol’ lle gallai’r cwsmeriaid drafod syniadau heb i’r rheini gael eu datgelu i Grŵp BT.
  • Staff yn gweithio i Openreach. Egwyddor sylfaenol Ofcom ar gyfer y model newydd hwn yw y dylai pobl sy’n gweithio i Openreach fod yn gyflogeion i’r cwmni newydd, yn hytrach nag i Grŵp BT. Byddai hyn yn atal unrhyw wrthdaro mewn buddiannau, boed yn wirioneddol neu’n ymddangosiadol, ac yn caniatau i Openreach ddatblygu ei ddiwylliant sefydliadol ei hun.
  • Openreach yn berchen ar asedau mae’n eu rheoli’n barod. Dylai Openreach fod yn berchen ar ei rwydwaith ffisegol ac offer electroneg ei hun. Byddai hyn yn galluogi Bwrdd Openreach i wneud penderfyniadau sy’n dibynnu ar fuddsoddi mewn asedau Openreach ac i ofalu amdanynt.
  • Strategaeth ar wahân a rheolaeth dros ei ddyraniad cyllideb. Dylai Openreach lunio ei strategaeth a chynlluniau gweithredu blynyddol ei hun, o fewn cyllideb gyffredinol a osodwyd gan Grŵp BT.
  • Brandio annibynnol. Dylai Openreach gael ei frand ei hun, heb fod yn gysylltiedig â Grŵp BT, er mwyn helpu i ymwreiddio diwylliant sefydliadol cwmni ar wahân.

Rhaid i’r model newydd ddarparu’r lefel uchaf o annibyniaeth i Openreach oddiwrth Grŵp BT heb achosi’r costau a’r aflonyddwch - i’r diwydiant ac i ddefnyddwyr - sy’n gysylltiedig â rhannu’r cwmnïau’n gyfan gwbwl.

Lluniwyd y cynlluniau i sicrhau bod Openreach yn gweithredu’n fwy annibynnol ar Grŵp BT, ac yn gwneud penderfyniadau er budd y diwydiant telecom ehangach a’i gwsmeriaid. Os na all wneud hynny, bydd rhaid i Ofcom ailystyried a ddylid rhannu BT ac Openreach yn ddau gwmni hollol ar wahân dan berchnogaeth wahanol.

Rydym yn gofyn am eich barn ar y cynlluniau a amlinellwyd heddiw cyn 4 Hydref.

Mae BT wedi cyflwyno cynlluniau i Ofcom er mwyn gwneud newidiadau i drefniadau llywodraethu Openreach, fel ei fod yn fwy annibynnol ac yn fwy atebol i’w gwsmeriaid. Rydym yn croesawu cydnabyddiaeth BT o’r angen i wneud newidiadau i Openreach ac elfennau eraill y cynnig gan BT, ond pery rhai meysydd pwysig lle nad yw’n mynd i’r afael â’n pryderon yn llawn. Er enghraifft, yr angen am i Openreach fod yn gwmni annibynnol yn gyfreithiol, ac i Openreach gael trafodaethau cyfrinachol gyda’i gwsmeriaid heb oruchwyliaeth gan BT. 

Rhoi hwb i fuddsoddiad mewn rhwydweithiau ffibr

Ym mis Chwefror, roedd Ofcom wedi ymrwymo i’w gwneud yn haws i ddarparwyr telecom fuddsoddi mewn seilwaith blaengar a chystadleuol drwy wella mynediad at rwydwaith polion telegraff Openreach a’i bibellau – sef y twneli dan ddaear sy’n dal y ceblau telecom.

Byddai hyn yn galluogi ei gystadleuwyr i gysylltu eu ceblau ffibr optig eu hunain yn uniongyrchol â chartrefi a busnesau, gan gynnig mwy o ddewis i bobl a busnesau dros y ddegawd nesaf. Hefyd yn sgil hyn, byddai dibyniaeth y Deyrnas Unedig ar rwydwaith Openreach yn lleihau.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys gofyn i Openreach lunio cronfa ddata ar-lein sy’n dangos lleoliad a nodweddion ffisegol ei bibellau a’i bolion – sef ‘map digidol’ o’r DU. Yr wythnos diwethaf, dangosodd y cwmni sut byddai hyn yn gweithio.

Mae BT eisoes wedi cychwyn ar dreialu prosesau newydd a symlach o rannu ei rwydwaith, gan weithio gyda phum cwmni telecom arall.

Drwy’r treialon hyn, mae Openreach yn caniatáu i ddarparwyr eraill archwilio ei bibellau a’i bolion, ac os oes lle, gallant osod ceblau ffibr ar unwaith heb ofyn am ganiatâd pellach. Hefyd, gall darparwyr glirio rhwystrau heb ganiatâd pellach yn ogystal â gosod cyfarpar newydd ym ‘mlychau cyswllt’ Openreach – gan olygu bod gosod ffibr yn digwydd yn gynt ac yn rhatach.

Mae Ofcom yn croesawu’r datblygiad hwn a bydd yn amlinellu rhagor o fanylion ar roi mwy o fynediad at y pibellau a’r polion yn yr hydref.

Mae sawl cwmni’n dal i ehangu eu rhwydweithiau ffibr gwibgyswllt. Mae Virgin Media yn buddsoddi £3bn i ymestyn ei rwydwaith ledled y DU. Mae CityFibre, Sky a TalkTalk yn cysylltu ffibr i eiddo yng Nghaerefrog, ac mae KCom yn gwneud hynny yn ardal Hull. Mae darparwyr eraill, megis Hyperoptic a Gigaclear, hefyd yn cyflwyno band eang gwibgyswllt i ardaloedd lleol.

Newid sylweddol yn ansawdd y gwasanaeth

Hefyd ym mis Chwefror, cyhoeddodd Ofcom amrywiol fesurau a luniwyd i sicrhau bod yr holl gwmnïau ffôn a band eang yn darparu gwasanaeth o ansawdd y mae cwsmeriaid yn ei ddisgwyl.

Ers hynny, mae Ofcom wedi cymryd camau sylweddol i wella gwasanaethau, yn ogystal â chynyddu’r ddarpariaeth – yn cynnwys:

• Iawndal awtomatig. Rydym wedi cychwyn trafodaethau gyda’r diwydiant i fynnu bod cwmnïau telecom yn darparu iawndal yn awtomatig i gwsmeriaid pan nad yw eu gwasanaeth yn cyrraedd y safon.

• Newid rhwydwaith symudol yn haws. Rydym hefyd wedi cyhoeddi cynigion i gwsmeriaid symudol allu newid rhwydwaith yn symlach ac yn gynt.

• Gwirio darpariaeth ymlaen llaw. Mae’r mapiau darpariaeth rhyngweithiol ar gyfer gwasanaethau symudol a band eang yn galluogi pobl i weld pa wasanaethau sydd ar gael yn eu hardal ac i wirio a ydynt yn cael y gwasanaeth y dylent ei gael.

• Cefnogi hawl gyfreithiol i gael band eang digonol. Rydym wedi casglu tystiolaeth ar gyfer y Llywodraeth ar sut dylai lunio ei wasanaeth band eang cyffredinol sydd yn yr arfaeth. Mae Ofcom o’r farn y dylai pob cartref a swyddfa gael o leiaf 10 Mbit/eiliad – sy’n ddigon cyflym i ffrydio rhaglenni teledu, gwneud galwadau fideo neu gynnal cyfarfodydd rhithiol – ac y dylai’r isafswm hwn gynyddu dros amser.

• Gwella llinellau busnes. Rydym wedi cyflwyno rheolau newydd sy’n mynnu bod BT yn rhoi mynediad i’w gystadleuwyr at ei rwydwaith ffibr o linellau busnes cyflym iawn.

• Neges destun i optio allan o alwadau niwsans. Mae Ofcom a’r Telephone Preference Service wedi lansio gwasanaeth ‘neges destun i gofrestru’, sy’n galluogi defnyddwyr ffonau symudol i ychwanegu eu rhif ffôn at gronfa ddata swyddogol ‘dim ffonio” y DU.

Dros y misoedd nesaf, bydd Ofcom yn gwneud gwaith pellach ar y canlynol:

• Gwneud yn haws i newid gwasanaethau teledu-drwy-dalu a bwndeli. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi cynlluniau i’w gwneud yn haws i newid darparwyr llinell sefydlog, band eang a gwasanaethau teledu-drwy-dalu.

• Rheolau perfformiad llym i Openreach. Yn nes ymlaen eleni, byddwn yn amlinellu gofynion sylfaenol mwy llym ar Openreach i drwsio namau gwasanaeth ac i osod llinellau newydd yn gynt.

• Tablau perfformiad. O’r flwyddyn nesaf ymlaen, byddwn yn cyhoeddi tablau ar ansawdd gwasanaeth y darparwyr gwasanaethau cyfathrebu, gan dynnu sylw at y perfformwyr gorau a’r gwaethaf ar amrywiol fesurau fel bod cwsmeriaid yn gallu siopa am wasanaethau’n hyderus.

• Gwirio darpariaeth yn ôl cyfeiriad. Rydym yn bwriadu diweddaru ein mapiau rhyngweithiol i gynnig gwybodaeth hyd oed mwy cynhwysfawr ar ddarpariaeth symudol a band eang, yn seiliedig ar gyfeiriadau unigol, ac nid cod post yn unig.

Meddai Sharon White, Prif Weithredwr Ofcom: “Rydyn ni’n bwrw ymlaen â’r newidiadau mwyaf o wasanaethau telecom mewn degawd, er mwyn sicrhau bod y farchnad yn darparu’r gwasanaethau gorau posib ar gyfer pobl a busnesau ledled y DU.