Darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn dal mor boblogaidd ag erioed

11 July 2016

11 July 2016

  • Mwy na hanner o'r holl wylio teledu yn digwydd ar y pum prif sianel gwasanaeth cyhoeddus
  • Tua thri gwyliwr o bob pedwar yn fodlon ar raglenni'r sianeli hyn
  • Mwy o wario ar raglenni ffeithiol a drama newydd yn y DU, ond llai ar raglenni plant, y celfyddydau, cerddoriaeth glasurol a chrefydd

Mae Ofcom wedi canfod bod darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn dal i gyfrif am dros hanner o'r gwylio teledu sy'n cael ei ddarlledu, ac mae tua thri gwyliwr o bob pedwar yn fodlon ar eu gwasanaethau.

Mae buddsoddiad darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus mewn rhaglenni ar eu sianeli gwasanaeth cyhoeddus i weld yn sefydlogi ar ôl disgyn am sawl blwyddyn, ac mae gwariant ar ddramâu gwreiddiol a rhaglenni ffeithiol newydd wedi cynyddu. Serch hynny, mae'r gwariant ar raglenni plant, y celfyddydau, cerddoriaeth glasurol a chrefydd wedi parhau i ddisgyn.

Daw'r canfyddiadau o Adroddiad Ymchwil Blynyddol Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus Ofcom, a gyhoeddwyd heddiw, sy'n edrych ar ba mor dda aeth y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus - BBC, ITV, STV yn yr Alban, UTV yng Ngogledd Iwerddon, Channel 4, S4C yng Nghymru a Channel 5 - ati i gyflawni eu cylchoedd gwaith gwasanaeth cyhoeddus yn ystod 2015.

Yn 2015, cyrhaeddodd y pum prif sianel gwasanaeth cyhoeddus a ddarperir gan ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus1 84% o'r boblogaeth mewn wythnos arferol, ac roeddent yn cyfrif am 51% o gyfanswm y gwylio teledu a ddarlledwyd. Mae'r gyfran hon yn debyg i'r tair blynedd ddiwethaf, ond mae'n llai na deng mlynedd yn ôl pan oedd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn cyfrif am 70% o gyfanswm y gwylio teledu. Wrth gynnwys sianeli ‘portffolio' darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, megis BBC Four, ITV2 neu E4, roedd eu cyfran o'r gwylio yn 71% yn 2015.

Ar y cyfan, mae gwylio teledu wedi disgyn yn y blynyddoedd diwethaf, gyda gwylwyr nawr yn gwylio 26 munud yn llai bob dydd o'i gymharu â 2010. Ac er bod y person cyffredin wedi gwylio 3 awr a 36 munud o deledu bob dydd yn 2015, mae'r bwlch oedran rhwng cynulleidfaoedd iau a hŷn, a'u harferion gwylio, yn ehangu.

Mae pobl 25 oed neu iau yn gwylio tua chwarter yn llai o deledu wedi'i ddarlledu o'i gymharu â 2010, ond dim ond 5% yn llai o wylio ar gyfartaledd mae pobl rhwng 55 a 64 oed wedi'i wneud.

Mae ymchwil diweddaraf Ofcom2 wedi dangos bod pobl rhwng 16 a 24 oed, wedi croesawu gwasanaethau ar-alwad yn frwd iawn, ac yn treulio tua thraean o'u hamser gwylio bob dydd yn gwylio gwasanaethau ar-alwad di-dâl (e.e. BBC iPlayer, All 4 neu ITV Player) yn ogystal â gwasanaethau ar-alwad mae'n rhaid talu amdanynt (e.e. Netflix ac Amazon Video). Mae teledu byw yn cyfrif am 36% o gyfanswm amser gwylio'r grŵp oedran hwn, gostyngiad o 14 pwynt canran mewn dwy flynedd.

Gwariant ac allbwn

Gwariodd ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus £2.50bn ar raglenni newydd yn y DU3 ar eu sianeli gwasanaeth cyhoeddus yn 2015, cynnydd o 2% ers 2013; sef y flwyddyn ddiweddaraf y gellir ei chymharu oherwydd nad oedd digwyddiadau chwaraeon mawr y flwyddyn honno44.

Bu cynnydd o 8% yng ngwariant darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus ar raglenni ffeithiol newydd yn y DU, gan godi i £522m, mwy nag unrhyw genre arall. Dyma'r buddsoddiad uchaf yn y math hwn o raglen ers 2008. Gwarion nhw fwy yn 2015 ar ddramâu gwreiddiol yn y DU hefyd (12% o gynnydd i £311m), a dangos mwy ohonynt - 416 awr, i fyny o 371 awr.

Fodd bynnag, disgynnodd yr oriau o raglenni plant gwreiddiol yn y DU yn 2015 i 580, o'i gymharu â 672 yn 2014. Dyma'r tro cyntaf ers 1998 i lai na 600 awr o raglenni plant gwreiddiol yn y DU gael eu darlledu. Gwariwyd £77m ar y genre hwn, 13% yn llai nag yn 2014.

Gwariodd y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus lai ar raglenni ar y celfyddydau a cherddoriaeth glasurol newydd yn y DU yn 2015 hefyd - £36m, sef 14% yn llai nag yn 2014 - yn ogystal â chrefydd a moeseg (6% yn llai, i lawr i £12m). Disgynnodd y gwariant ar gomedi gwreiddiol yn y DU hefyd (4% yn llai, i lawr i £99m).

Agweddau'r gynulleidfa

Mae cynulleidfaoedd yn dal i werthfawrogi rhaglenni gan y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus: dywedodd 73% o wylwyr eu bod yn fodlon ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus ar y cyfan, gyda 7% ddim yn fodlon.

Nododd bron i naw allan o bob deg (86%) gwyliwr sianeli gwasanaethau cyhoeddus bod rhaglenni newyddion dibynadwy, a dangos rhaglenni o ansawdd uchel, yn bwrpas pwysig darlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Hwn oedd y pwrpas a nodwyd amlaf, gyda rhaglenni sy'n helpu gwylwyr i ddeall yr hyn sy'n digwydd o amgylch y byd yn ail iddo.

Y gwledydd a'r rhanbarthau

At ei gilydd, gwariodd y BBC, ITV, STV ac UTV (deiliaid trwydded ‘Sianel 3') £270m ar raglenni wedi'u hanelu'n benodol at wylwyr yng ngwledydd a rhanbarthau penodol y DU yn 2015.

Mae o leiaf saith gwyliwr o bob deg yn fodlon ar safon rhaglenni newyddion y gwledydd a'r rhanbarthau ar BBC One a Sianel 3.

Gwariodd S4C £63m ar raglenni Cymraeg gwreiddiol yn y flwyddyn ariannol 2015/16, cynnydd bach ers y flwyddyn flaenorol.

Dywedodd Jane Rumble, Cyfarwyddwr Gwybodaeth am y Farchnad yn Ofcom: “Mae ein hymchwil yn dangos bod cynulleidfaoedd yn y DU yn dal i wylio a gwerthfawrogi darlledu gwasanaeth cyhoeddus. Ond mae yna wahaniaeth sylweddol rhwng arferion gwylio cynulleidfaoedd iau a hŷn.

“Wrth i'r cyfryngau a thechnoleg barhau i esblygu, mae'n bwysig bod darlledwyr yn ymateb i'r newidiadau hyn ac yn parhau i fodloni anghenion a disgwyliadau gwylwyr.”

DIWEDD

 

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Y pum prif sianel darlledu gwasanaeth cyhoeddus yw BBC One, BBC Two, gwasanaethau Sianel 3 (ITV, STV, UTV), Channel 4 a Channel 5.
2. Daw'r data hwn o ymchwil Diwrnod Digidol Ofcom 2016. Ar hyn o bryd, does dim un mesuriad diwydiant cyfan er mwyn deall y gyfran gwylio ar gyfer pob dull gwylio ar draws pob sgrin. Rydym felly wedi defnyddio ein hymchwil Diwrnod Digidol i ddarparu trosolwg o'r gwylio ar draws teledu byw traddodiadol; rhaglenni wedi'u recordio; gwasanaethau dal i fyny a gwasanaethau ar-alwad eraill; fideos byr a DVDs.
3. Y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus dynodedig yn 2015 oedd y BBC, Channel 4 Corporation (C4C), Channel 5, deiliaid trwydded Sianel 3 (ITV, STV, UTV) ac S4C. Prynwyd UTV gan ITV plc ym mis Chwefror 2016, ar ôl i'n cyfnod ymchwil ni ddod i ben. Er bod pob sianel y BBC yn sianeli gwasanaeth cyhoeddus, dim ond prif sianeli'r darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus eraill sydd â statws darlledu gwasanaeth cyhoeddus.
4. Fel arfer, mae sianeli gwasanaeth cyhoeddus yn gwario mwy mewn blynyddoedd eilrif (2014), gan eu bod yn cynnwys digwyddiadau chwaraeon mawr, megis Cwpanau Byd, Pencampwriaethau Ewrop, Gemau Olympaidd neu Baralympaidd. Gwariant ar raglenni rhwydwaith newydd yn y DU sydd wedi'i gynnwys yma, ac mae'n eithrio cynnwys y gwledydd a'r rhanbarthau
5. Hwn yw'r Adroddiad Blynyddol cyntaf ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus ers trydydd adolygiad Ofcom o ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015.
6. Ofcom yw rheoleiddiwr annibynnol ac awdurdod cystadleuaeth diwydiannau cyfathrebu'r DU. Mae gennym gyfrifoldebau ar draws teledu, radio, fideo ar-alwad, telegyfathrebiadau, cyfathrebiadau di-wifr a gwasanaethau post. Mae datganiadau newyddion ac adnoddau eraill i newyddiadurwyr ar gael yn media.ofcom.org.uk