Heddiw mae EE wedi cael dirwy o £2,700,000 gan Ofcom am godi gormod o arian ar ddegau ar filoedd o’i gwsmeriaid
Mae’r gosb yn ganlyniad ymchwiliad i’r darparwr ffonau symudol, a ganfu bod y cwmni wedi torri rheol filio sylfaenol ar ddau achlysur gwahanol.1
I ddechrau, cafodd cwsmeriaid EE a ffoniodd rif gwasanaethau cwsmeriaid ‘150’ y cwmni wrth grwydro yn yr UE eu bilio’n anghywir am hynny, fel pe baent wedi galw o’r Unol Daleithiau.
Oherwydd y camgymeriad hwn, talodd y cwsmeriaid £1.20 y funud yn lle 19c y funud. O ganlyniad, codwyd gormod o arian ar bron i 32,145 o gwsmeriaid, cyfanswm o tua £245,700 i gyd.2
Canfu ymchwiliad Ofcom fod diofalwch neu esgeulustod EE wedi cyfrannu at y gwallau bilio hyn.(3) Yn ogystal, er nad oedd yn bwriadu elwa’n ariannol o’i gamgymeriad bilio, penderfynodd EE nad oedd yn mynd i ad-dalu’r rhan fwyaf o’r cwsmeriaid yr effeithiwyd arnynt hyd nes i Ofcom ymyrryd. Penderfynodd EE yn anghywir na allai nodi’r bobl y codwyd gormod arnynt ac roedd yn cynnig rhoi eu harian nhw i elusen a fyddai’n golygu y byddent ar eu colled.
Yn ail, er gwaetha’r ffaith bod posib ffonio neu decstio’r rhif ‘150’ am ddim o’r tu mewn i’r UE o 18 Tachwedd 2015 ymlaen, parhaodd EE i filio 7,674 o gwsmeriaid hyd at 11 Ionawr 2016. Fel cyfanswm, gordalodd y cwsmeriaid hyn £2,203.33, ond er hynny, gweithredodd EE ar frys ar yr achlysur hwn a rhoi ad-daliadau llawn iddynt.
Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Ni chymerodd EE ddigon o ofal i sicrhau bod ei gwsmeriaid yn cael eu bilio’n fanwl gywir. Canlyniad hyn oedd cost o filoedd o bunnoedd i gwsmeriaid, sy’n gwbl annerbyniol.
“Rydyn ni’n monitro sut mae cwmnïau ffôn yn bilio eu cwsmeriaid ac ni fyddwn yn goddef camgymeriadau diofal. Dylai unrhyw gwmni sy’n torri rheolau Ofcom ddisgwyl canlyniadau tebyg.”
O ganlyniad i’r methiannau hyn, mae Ofcom heddiw wedi gorfodi cosb o £2,700,000 ar EE. Bydd y ddirwy, y mae'n rhaid ei thalu i Ofcom o fewn 20 diwrnod gwaith, yn cael ei throsglwyddo i Drysorlys Ei Mawrhydi.
Mae'r gosb yn ymgorffori gostyngiad o 10% i adlewyrchu cytundeb EE i gytuno ar setliad ffurfiol, a fydd yn arbed arian ac adnoddau cyhoeddus. Fel rhan o’r cytundeb hwn, mae EE yn cyfaddef ac yn ysgwyddo cyfrifoldeb llawn am dorri rheolau.
Mae Ofcom yn cydnabod bod mwyafrif y cwsmeriaid wedi cael ad-daliad nawr. Fodd bynnag, ni lwyddodd EE i ganfod pwy oedd o leiaf 6,905 o’r cwsmeriaid, a oedd fwy na £60,000 ar eu colled i gyd.
Mae EE wedi cyfrannu ychydig o dan £62,000 at elusen yn lle’r taliadau sy’n ddyledus i’r cwsmeriaid hyn. Fodd bynnag, yn ychwanegol at y ddirwy heddiw, mae Ofcom yn gofyn i EE ymgeisio ymhellach i ddod o hyd i bob cwsmer a dalodd ormod, ac ad-dalu'r swm iddynt.
DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION
CYSWLLT
Elinor Williams
Ofcom, Cymru
07881987188
elinor.williams@ofcom.org.uk