Mae podlediadau'n ffynnu yn y Deyrnas Unedig, gyda bron i 6 miliwn o oedolion bellach yn gwrando bob wythnos, fel y canfu Ofcom ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Podlediadau ddydd Sul.
Mae nifer y gwrandawyr ar bodlediadau wythnosol bron wedi dyblu mewn pum mlynedd - o 3.2 miliwn (7% o oedolion dros 15 oed) yn 2013 i 5.9 miliwn (11%) yn 2018.
Mae'r cynnydd ar draws pob grŵp oedran, ond mae’r cynnydd mwyaf trawiadol ymysg pobl ifanc rhwng 15 a 24 oed - gyda thua un o bob pump (18.7%) bellach yn gwrando ar bodlediadau bob wythnos.[1]
Casglodd Ofcom ddata o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys Rajar, ACast a TouchPoints, i archwilio'r cynnydd mewn gwrando ar bodlediadau. Mae canfyddiadau’n cynnwys:
Mae ymchwil Ofcom yn dangos bodgwrandawyr yn y Deyrnas Unedig yn defnyddio podlediadau o amrywiaeth o ffynonellau. Ymhlith y rhai a ddefnyddir yn fwyaf cyffredin roedd gwefan ac app y BBC (a ddefnyddiwyd gan 36% o wrandawyr podlediadau), YouTube (26%) ac iTunes (25%). Roedd ffynonellau eraill yn cynnwys gwasanaethau ffrydio fel Spotify, a gwefannau neu apiau papurau newydd.[6]
Dywedodd Ian Macrae, Cyfarwyddwr Gwybodaeth am y Farchnad yn Ofcom: "Mae podlediadau'n ffynnu yn y Deyrnas Unedig, ac yn ehangu arferion gwrando pobl. Mae pob grŵp oedran yn rhan o'r cynnydd, ond mae'r twf mwyaf syfrdanol ymysg oedolion iau.
"Mae pobl yn defnyddio podlediadau i ategu radio traddodiadol, ac mae'n galonogol gweld darlledwyr yn croesawu'r cyfrwng ac yn ei ystyried fel cyfle i dyfu.”
Y DIWEDD
NODIADAU I OLYGYDDION