Tonnau awyr wedi cael eu rhyddhau i gefnogi’r chwyldro di-wifr

30 Gorffennaf 2019

  • Busnesau newydd a busnesau bach yn cael mynediad mwy rhwydd at donnau awyr ar gyfer gwasanaethau di-wifr newydd
  • Mae ffermio a ffatrïoedd ymysg y sectorau sy’n debygol o elwa o arloesi

Mae ffermwyr, ffatrïoedd a pharciau busnes yn rhai o’r grwpiau a allai elwa o chwyldro mewn technoleg ddi-wifr, yn dilyn penderfyniad Ofcom heddiw i ryddhau tonnau awyr er mwyn cefnogi arloesedd a galluogi gwasanaethau newydd.

Ofcom sy’n rheoli tonnau awyr – neu sbectrwm – y DU, sy’n hanfodol er mwyn rhoi pŵer i wasanaethau fel ffonau symudol, band eang di-wifr a dyfeisiau wedi’u cysylltu.

Er mwyn helpu i hybu arloesi di-wifr ledled economi’r DU, rydyn ni heddiw wedi penderfynu rhyddhau tonnau awyr a oedd, yn y gorffennol, ar gael i bartïon penodol yn unig. Rydyn ni hefyd yn caniatáu i wahanol grwpiau gael mynediad at donnau awyr sydd wedi’u trwyddedu i gwmnïau symudol, ond nad ydynt yn cael eu defnyddio ganddynt.

O dan y fframwaith rhannu newydd, bydd y tonnau awyr hyn ar gael i’w defnyddio’n lleol gan ystod o bartïon eraill – fel busnesau bach neu gwmnïau newydd arloesol. Mae Ofcom yn ychwanegu mesurau diogelwch i sicrhau nad yw’r defnyddwyr hyn yn amharu ar ddefnyddwyr presennol.

Cefnogi arloesedd

Gallai’r dull newydd fraenaru'r tir ar gyfer nifer o wasanaethau newydd. Er enghraifft:

  • Gallai gweithgynhyrchwyr sefydlu ffatrïoedd wedi’u cysylltu – gan ddefnyddio rhwydweithiau di-wifr dibynadwy a chyflym iawn i gysylltu, rheoli a monitro peiriannau.
  • Gallai ffermwyr hefyd sefydlu eu rhwydwaith lleol eu hunain, gan wella cyfathrebu rhwng pobl a dyfeisiau amaethyddol wedi’u cysylltu, fel monitro anifeiliaid a chnydau, systemau dyfrio a thractorau clyfar.
  • Gallai parciau busnes sefydlu eu rhwydweithiau cyfathrebu pwrpasol a diogel eu hunain – heb fod angen dibynnu ar ddarpariaeth symudol a band eang.
  • Gallai parciau gwyliau helpu eu hymwelwyr i gael cysylltiad yn ystod eu hymweliad, drwy sefydlu rhwydweithiau band eang lleol.

Gallai canolfannau siopa, canolfannau trafnidiaeth fel porthladdoedd, a chwmnïau yn y diwydiant logisteg hefyd fod yn awyddus i sefydlu eu rhwydweithiau lleol eu hunain, gan ddefnyddio'r sbectrwm rydym yn ei ryddhau.

Gwell cysylltiadau ar gyfer cymunedau gwledig

Yn ogystal â helpu diwydiannau i arloesi, gallai'r dull rhannu helpu cymunedau bach nad yw rhwydweithiau symudol wedi’u cyrraedd eto – mewn ardaloedd gwledig yn bennaf.

O dan y rheolau newydd, gall pentrefi, grwpiau busnes bach a chymunedau eraill wneud cais i gael mynediad at donnau awyr sydd wedi’u trwyddedu i'r prif gwmnïau symudol ond nad ydynt yn cael eu defnyddio ganddynt yn lleol ar hyn o bryd. Byddai modd defnyddio’r rhain i gefnogi rhwydweithiau band eang di-wifr neu symudol lleol, gan wella darpariaeth yn yr ardal.

Dywedodd Philip Marnick, Cyfarwyddwr Grŵp Sbectrwm yn Ofcom: “Mae sbectrwm di-wifr yn adnodd gwerthfawr a chyfyngedig, felly mae’n hanfodol ein bod yn ei ddefnyddio’n effeithlon.

“Bydd ein dull rhannu newydd yn helpu mwy o bobl i gael mynediad at donnau awyr er mwyn creu rhwydweithiau lleol ledled y DU. Gallai’r buddion ymestyn ar draws ein heconomi, o ffermydd i ffatrïoedd, yn ogystal â chefnogi cwmnïau technoleg newydd.”

Y tonnau awyr rydyn ni’n eu rhyddhau

Rydyn ni’n rhyddhau tonnau awyr mewn pedwar ‘band amledd’ ar sail a rennir:

  • y bandiau sbectrwm 1800 MHz a 2300 MHz a rennir, sy’n cael eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau symudol ar hyn o bryd;
  • y band 3.8-4.2 GHz, sy’n cefnogi'r dechnoleg 5G ddiweddaraf;
  • y band 26 GHz, sydd hefyd wedi cael ei bennu’n un o'r prif fandiau ar gyfer 5G yn y dyfodol. Rydyn ni wedi ychwanegu'r band yma ers cynnig ein dull rhannu sbectrwm am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2018.

Rhannu sbectrwm – sut mae’n gweithio

Trwyddedau mynediad a rennir: i wneud cais am fynediad i'r tonnau awyr hyn, bydd rhaid i bartïon sydd â diddordeb ddarparu manylion y band sbectrwm maen nhw’n dymuno cael mynediad ato i Ofcom, yn ogystal â faint o'r sbectrwm maen nhw’n dymuno ei ddefnyddio, a ble yn y wlad maen nhw’n bwriadu ei ddefnyddio.

Pan fyddwn yn cael ceisiadau, byddwn yn cydlynu mynediad i’r sbectrwm a rennir ar sail y cyntaf i'r felin ar gyfer pob lleoliad. Ar gyfer pob cais, byddwn yn asesu sut mae’r tonnau awyr hyn yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, er mwyn sicrhau nad yw’n amharu ar ddefnyddwyr cyfagos.

Byddwn yn ystyried ceisiadau ar gyfer mynediad a rennir i'r pedwar prif fand amledd erbyn diwedd 2019.

    Figure 1.2: This flowchart broadly outlines the application process for the Shared Access licence.  It reads "User applies for band, location, bandwidth and power required", then "Ofcom assesses interference to/from other users," then "User pays licence fee (per channel and per area/base station)", then finally "Ofcom grants per area/per base station licence".

    Trwyddedau mynediad lleol: gall partïon sy’n dymuno defnyddio sbectrwm sydd wedi'i drwyddedu i gwmnïau symudol ond nad yw’n cael ei ddefnyddio ganddyn nhw mewn ardal leol, anfon cais at Ofcom o heddiw ymlaen. Bydd defnyddwyr yn talu £950 am bob trwydded, sy’n caniatáu iddyn nhw ddefnyddio'r sbectrwm am hyd at dair blynedd – neu fwy os bydd y cwmni symudol perthnasol yn cytuno i hynny.

    Rydyn ni wedi cyhoeddi canllawiau ar y trwyddedau hyn a sut maen nhw’n gweithio.

    DIWEDD

    NODIADAU I OLYGYDDION

    1. Ym mis Rhagfyr, fe wnaethom ymgynghori ynghylch agor y bandiau sbectrwm i gael eu rhannu: sef y bandiau 1800 MHz, 2300 MHz a 3.8-4.2 GHz. Rydym ni erbyn hyn wedi ychwanegu'r band 26GHz is at ein fframwaith rhannu sbectrwm.