Rhaid i’r rhai sy’n siopa am fand eang gael gwybod pa mor gyflym fydd eu gwasanaeth newydd, cyn iddyn nhw ymrwymo i gontract, dan fesurau gwarchod newydd Ofcom o yfory (1 Mawrth) ymlaen.
Mae’r Cod Ymarfer newydd yn rhan o waith Ofcom i hyrwyddo Tegwch i Gwsmeriaid, sy’n sicrhau bod pobl yn cael bargen deg ac yn cael eu trin yn dda gan eu darparwyr. Mae’r Cod yn golygu y bydd cwmnïau band eang yn gorfod rhoi gwarant o ran isafswm cyflymder i gwsmeriaid adeg prynu’r gwasanaeth bob amser.
Os bydd cyflymder band eang cwsmer yn gostwng wedyn dan y lefel a addawyd, bydd gan gwmnïau un mis i wella perfformiad, cyn y bydd yn rhaid iddynt adael i’r cwsmer adael - yn ddi-gosb. Mae’r yr hawl i adael hefyd yn berthnasol i becynnau ffôn a theledu a brynwyd ar yr un adeg â band eang.
Rhaid i ddarparwyr band eang hefyd fod yn onest gyda chwsmeriaid ynghylch pa gyflymder i’w ddisgwyl yn ystod y cyfnodau brig. Mae hyn oherwydd nad yw band eang fel arfer cyn gyflymed yn ystod amseroedd prysuraf y dydd – 8: 00pm – 10: 00pm ar gyfer pobl ar-lein gartref a 12:00pm – 2:00pm ar gyfer busnesau.[1]
Mae’r mesurau gwarchod newydd yn rhan o waith Tegwch i Gwsmeriaid Ofcom, ac yn berthnasol os yw pobl yn newid i ddarparwr newydd neu’n newid eu pecyn cyfredol.
Maent yn cwmpasu’r holl brif gwmnïau band eang sydd wedi ymrwymo i’r Cod newydd – BT, EE, Plusnet, Sky, TalkTalk a Virgin Media, sydd, gyda’i gilydd yn gwasanaethu oddeutu 95% o gwsmeriaid band eang yn y cartref.[2]
Dyma sut mae’r Cod newydd yn gweithio:
Dywedodd Lindsey Fussell, Cyfarwyddwr Grŵp Defnyddwyr Ofcom: “Pan fyddwch chi’n llofnodi contract, dylech gael eich trin yn deg a gwybod yn union beth yr ydych yn ei gael.
“Mae’r mesurau gwarchod hyn yn golygu y gall y rhai sy’n siopa am fand eang brynu gyda hyder. Cyn iddyn nhw ymrwymo, bydd cwsmeriaid yn cael gwybod beth yw eu hisafswm cyflymder o ran y rhyngrwyd. Ac os bydd cwmnïau’n torri’r addewid hwnnw, bydd yn rhaid iddynt ddatrys y sefyllfa’n gyflym, neu adael i’r cwsmer adael.”
Dengys data diweddaraf Ofcom mai dim ond tri o bob 20 o gwsmeriaid band eang a oedd wedi cysylltu â’u darparwr yn rhagweithiol ac wedi ail-negodi eu bargen y llynedd. [3] A gyda miliynau o gartrefi’n gallu uwchraddio i fand eang cyflymach am yr un faint o arian, neu lai, gallai pobl fod yn colli allan ar fargeinion gwell.
Dengys ein hymchwil hefyd bod pobl â chysylltiad band eang copr sylfaenol â llai o siawns nac un mewn pump o allu ffrydio Netflix mewn manylder tra uchel. Ond pe bydden nhw’n uwchraddio i lefel mynediad band eang cyflym iawn, byddent bron yn sicr yn gallu gwneud hynny.[4]
SFelly mae Ofcom yn helpu pobl sy'n awyddus i wella’u band eang, newid darparwr neu ail-negodi’r hyn y maent yn ei dalu. Gall pobl hefyd ganfod awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella cyflymder band eang ar ein gwefan.
Bydd Ofcom yn cadw llygad barcud ar gydymffurfiaeth cwmnïau â’r gofynion newydd hyn, a bydd yn adrodd ar eu perfformiad y flwyddyn nesaf.
Mae ein gwaith i sicrhau Tegwch i Gwsmeriaid hefyd yn cynnwys:
1. Mae’r mesurau gwarchod newydd yn berthnasol i bob math o becyn band eang, ni waeth a yw’r cysylltiad yn gopr, ffibr neu gebl.
2. Mae cwsmeriaid busnes yn cael sylw gan BT, Daisy, TalkTalk a Virgin Media. Mae KCOM ac XLN hefyd wedi ymrwymo mewn egwyddor, ac yn disgwyl bod yn cydymffurfio cyn bo hir.
3. Yn ogystal, fe wnaeth 1 o bob 25 o gwsmeriaid band eang ail-negodi gyda’u darparwr presennol mewn ymateb i'r cwmni'n cysylltu â nhw. Ffynhonnell: Data Traciwr Newid Ofcom.
4. Ar gysylltiad band eang copr sylfaenol, yr oedd modd darparu 18% o ffrydio Netflix yn ddibynadwy mewn manylder tra uchel yn ystod y cyfnod brig 8-10pm. Gyda’r pecyn nesaf i fyny – y cynnyrch ‘hyd at’ 38Mbit yr eiliad ffeibr-i'r-cabinet – mae hyn yn codi i 98% o ffrydio. Ffynhonnell: Data Perfformiad Band Eang yng Nghartrefi’r DU Ofcom.