Mansoor Hanif o Ofcom yn camu i lawr

21 Tachwedd 2019

Mae Ofcom wedi cyhoeddi heddiw bod Mansoor Hanif wedi gadael ei rôl fel Prif Swyddog Technoleg.

Ymunodd Mansoor ag Ofcom yn 2018 i oruchwylio gwaith y Grŵp Technoleg.

Bydd Yih-Choung Teh, y Cyfarwyddwr Grŵp Strategaeth ac Ymchwil, yn arwain Grŵp Technoleg Ofcom hyd nes y caiff Prif Swyddog Technoleg newydd ei recriwtio.

Bydd Mansoor yn cychwyn rôl newydd yn NEOM, dinas glyfar ecogyfeillgar newydd yn y Dwyrain Canol, y flwyddyn nesaf. Rydyn ni’n diolch i Mansoor am ei gyfraniad i Ofcom ac yn dymuno'r gorau iddo i'r dyfodol.