Mae'n hanfodol bod pobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni teledu realiti a ffeithiol yn cael gofal sy'n ddigonol. Rydyn ni'n archwilio os gellid gwneud mwy i ddiogelu lles y bobl hyn, yn debyg i'r dyletswydd i ofalu sydd gennym yn y Cod Darlledu i amddiffyn y rhai hynny sydd o dan 18 oed.
Rhaid i unrhyw newidiadau fod yn helpgar ac yn effeithiol, felly byddwn ni'n siarad gyda chyfranogwyr rhaglenni, darlledwyr, cynhyrchwyr a seicolegwyr cyn cadarnhau unrhyw ganllawiau newydd.
Pwyntiau i'w nodi
- Mae gennym reolau yn barod yn gosod cyfrifoldebau ar ddarlledwyr am les y bobl sy'n cymryd rhan mewn rhaglenni. Mae gennym hefyd ganllawiau penodol am sut y dylid gweithredu'r rheolau hyn o ran pobl o dan 18 -cyn, yn ystod ac wedi i'r cynhyrchiad ddod i ben. Mae'r rhain wedi eu seilio ar ymgysylltu gyda darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu ac hefyd gweithiwyr iechyd proffesiynol ac arbenigwyr eraill. (Gweler rheolau 1.28, 2.3 a 7.3 yn y Cod Darlledu).
- Rydyn ni wedi edrych yn ofalus ar ymestyn y rheolau yn y maes hwn (Gwnaeth Bwrdd Cynnwys Ofcom, ein pwyllgor ymgynghori ar faterion golygyddol, drafod hwn yn ei gyfarfod ar yr 2 Ebrill). Byddwn yn gweithio gyda chyfranogwyr rhaglenni, darlledwyr, cynhyrchwyr a seicolegwyr arbenigol i ddeall eu safbwyntiau cyn penderfynu ar sut i weithredu. Byddwn yn disgwyl ymgynghori ar unrhyw newidiadau erbyn yr haf.