Ydy rhifau ffôn yn dal yn bwysig?

05 Ionawr 2019

Mae pobl Prydain wedi haneru’r amser maen nhw’n ei dreulio ar eu ffonau llinell dir - ond yn defnyddio deg gwaith yn fwy o ddata symudol nag oedden nhw chwe blynedd yn ôl, wrth i ymchwil newydd ddangos y newid mewn agweddau tuag at y rhif ffôn traddodiadol.

Gyda’r nifer sy’n berchen ar ffôn clyfar ar gynnydd, a’r defnydd o linellau tir yn dal i ostwng, mae ymchwil diweddaraf Ofcom yn awgrymu bod cofio rhifau ffôn - neu hyd yn oed yr angen i’w deialu - yn gynyddol yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.

Edrychwch pwy sy'n siarad

Nifer galwadau ffôn yn erbyn defnydd o ddata symudolDros y blynyddoedd diwethaf, mae faint o amser rydyn ni’n ei dreulio yn siarad ar ffôn llinell dir wedi haneru bron, tra bo faint o ddata symudol rydyn ni’n ei ddefnyddio wedi cynyddu bron i ddeg gwaith.[1]

Yn 2012, gwnaeth pobl yn y DU gyfanswm o 103 biliwn munud o alwadau ar linellau tir, ond yn 2017 disgynnodd hynny i ddim ond 54 biliwn.

Dros yr un cyfnod, mae’r munudau o alwadau symudol wedi cynyddu’n gyson o 132.1 biliwn i 148.6 biliwn, ac mae defnydd misol person arferol o ddata symudol wedi cynyddu’n enfawr o 0.2 gigabeit i 1.9 gigabeit.

Gan adlewyrchu'r tueddiadau hyn, mae astudiaeth newydd gan Ofcom[2] yn cadarnhau bod yn llawer gwell gan bob iau ddefnyddio gwasanaethau negeseuon, fel WhatsApp, yn hytrach na defnyddio’r ffôn i siarad. Fel y dywedodd un unigolyn 18 oed o Aberdeen wrthym: “Mae ffonio rhywun yn ddigon i godi ofn arna i. Mae'n gyflymach ac yn llawer iawn haws anfon neges WhatsApp at fy ffrindiau. Os bydd angen ffonio cwmni, byddaf bob amser yn ceisio cynnal sgwrs ar y we os oes modd.”

Mewn cyferbyniad, mae’n dal yn well gan bobl hŷn gael sgwrs. Dywedodd unigolyn 68 oed o Belfast: “Mae'n well gen i siarad â rhywun. Rydych chi’n cael gwell dealltwriaeth.”

Pan fyddan nhw’n ffonio ffrindiau a theulu, mae pobl erbyn hyn yn dibynnu ar y rhifau cyswllt sydd wedi’u storio ar eu ffonau. Cyfaddefodd unigolyn 22 oed o Belfast: “Does dim angen i mi gofio rhifau.” Bellach mae’n fwy arferol o glicio ar enw neu gyswllt i wefan ar eich ffon symudol i alw rhywun nag ydyw i ddeialu gyda’ch bysedd.

Yn yr ardal

Mae’r astudiaeth hefyd yn datgelu gwahaniaeth mawr rhwng cenedlaethau hŷn ac iau o ran dealltwriaeth o godau ardal - er enghraifft, gwybod, os oes rhywun yn eich ffonio o rif sy’n dechrau gyda ‘01782’, ei fod yn ffonio o Stoke-on-Trent.

Yn gyffredinol, nid yw pobl iau yn teimlo'n gryf p’un a yw codau ardal yn cynrychioli lleoliad penodol ai peidio. Yn wir, nid yw llawer ohonyn nhw hyd yn oed yn gwybod bod arwyddocâd daearyddol yn perthyn i godau ardal, ac maen nhw’n aml yn eu camgymryd am rifau eraill ac yn eu cysylltu â galwadau niwsans neu ganolfannau galwadau.

Ar y llaw arall, mae'r rhan fwyaf o bobl hŷn yn gwybod beth yw codau ardal ac yn ymddiried mewn codau sy'n lleol iddyn nhw. Cânt eu gweld fel rhywbeth sydd o gymorth ac sy’n rhoi tawelwch meddwl wrth chwilio am fusnesau lleol, ac wrth wneud a derbyn galwadau. Dywedodd unigolyn 67 oed o Wrecsam: “Mae'n ddefnyddiol gwybod ble mae pethau.”

Beth nesaf felly i alwadau ffôn?

Gallai newidiadau mewn technoleg weddnewid y ffordd mae rhifau ffôn yn cael eu defnyddio. Yn y blynyddoedd nesaf, fe ddaw’n fwy cyffredin i alwadau gael eu gwneud dros fand eang, yn hytrach na llinellau ffôn traddodiadol. Does dim angen codau ardal ar dechnoleg galwadau seiliedig ar fand eang i ddweud wrthi i ble i anfon galwad, fel sy’n digwydd gyda’r rhwydwaith ffonau traddodiadol.

Fel rhan o'r ymchwil, gofynnwyd i bobl sut bydden nhw’n teimlo pe byddai codau ardal yn colli eu hystyr daearyddol. Roedd rhai pobl iau yn hoffi'r syniad o gael mwy o ryddid i fod yn berchen ar rif ‘am oes’, ac yn ystyried bod rhif yn rhan o hunaniaeth unigolyn. Ond mae pobl hŷn yn gryf yn erbyn unrhyw gamau a fyddai’n golygu bod codau ardal yn colli eu hystyr daearyddol.

Dywedodd Liz Greenberg, Pennaeth Rhifau Ofcom: “Mae rhai ohonom yn gallu cofio adeg pan oedden ni’n cadw rhifau ffôn yn ein pen yn hytrach nag ar ein ffôn symudol. Ond mae'r ffordd rydym yn defnyddio ac yn teimlo am rifau ffôn yn newid.”

“Yn y dyfodol, wrth i fwy a mwy o alwadau gael eu gwneud dros fand eang, ni fydd angen cysylltu codau deialu â rhan benodol o'r wlad. Felly, y cwestiwn yw - a allai codau ardal droi’n rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol?

Mae Ofcom wedi dechrau ystyried sut y gallai rhifau ffôn llinellau tir y DU gael eu rheoli’n fwy effeithiol yn y dyfodol, yn cynnwys y potensial i ddefnyddio technoleg cadwyn atal . Gallai hyn wneud y broses o newid darparwyr yn haws ac yn gyflymach i gwsmeriaid llinellau tir a chaniatáu iddynt gadw eu rhif, ac o bosibl leihau galwadau niwsans.

Sut y cafodd codau ardal eu sefydlu?

Mae 1.3 biliwn o rifau ffôn llinellau tir yn y DU, ac mae 400 miliwn ohonynt wedi’u dyrannu i weithredwyr telegyfathrebu. Ofcom sy’n dyrannu rhifau ffôn, ac yn cadw llygad ar y ffordd maen nhw’n cael eu defnyddio.

Roedd codau ardal cynnar yn cyfateb i ddwy lythyren gyntaf y lleoliadPan gafodd codau ardal eu creu gyntaf yn y 1950au, roedd iddynt arwyddocâd arbennig ar ddeial y ffôn. Roedd y rhifau’n cyfateb i ddynodwyr dwy lythyren, er enghraifft AB (22) am Aberdeen,  Heddiw, felly, cod ardal Aberdeen yw ‘01224’ (01AB4).

Mae 610 o godau ardal yn y DU. Oherwydd y cynnydd yn y galw am rifau, mae’r system rifo wedi newid sawl gwaith dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, mae cliwiau i’w gweld o hyd ar fysellbad ffonau modern sy’n awgrymu sut y cafodd rhai codau ardal eu sefydlu.

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Ofcom, Adroddiad ar y Farchnad Gyfathrebu, Awst 2018, Pennod 4.

2. Roedd yr ymchwil yn astudiaeth ansoddol ar ffurf 14 grŵp ffocws ac 8 cyfweliad manwl ymhlith croestoriad o ddefnyddwyr a busnesau ar hyd a lled pob un o bedair gwlad y DU, gan gynnwys lleoliadau trefol, maestrefol a gwledig.

CYSWLLT

Harry Rippon
harry.rippon@ofcom.org.uk
0300 123 1795