6 Hydref 2021

Nid yw digidol yn sector – pam mae'n rhaid i reoleiddwyr gydweithio dros fywyd mwy diogel ar-lein

Araith Melanie i Gynhadledd Flynyddol y Sefydliad Cyfathrebiadau Rhyngwladol, 6 Hydref 2021, 2pm.

Cyflwyniad

Diolch Monica – a helo, o Lundain, i'n holl ffrindiau a phartneriaid IIC.

Heddiw, rwyf am rannu persbectif Ofcom ar flwyddyn eithriadol; yr heriau sydd o'n blaenau; a sut rydym yn gobeithio cwrdd â nhw drwy weithio ar y cyd.

Gan fod ein gwledydd wedi ymgodymu ag effaith drasig y coronafeirws, n fu modd i filiynau o bobl ledled y byd deithio, gweld anwyliaid, gweithio na dysgu gyda'i gilydd.

Yn y cyfnod hwnnw, dysgom mai'r peth hollbwysig yw bod yn gysylltiedig. Ymunais ag Ofcom yn union wrth i ni fynd i grafanc y pandemig, a bu'n drawiadol gweld pa mor gyflym y newidiodd y ffordd y mae pobl yn cyfathrebu. I ni, mae hynny'n golygu'r holl sectorau y mae ein cylch gwaith cydgyfeiriedig eisoes yn eu cwmpasu, neu y byddant yn fuan:  Teledu, radio, telathrebu, post, sbectrwm di-wifr ac ar-lein.

Yn y DU, cyrhaeddodd amser ar-lein y lefelau uchaf erioed. Ar gyfartaledd, treuliodd fwy na chwarter eu diwrnod deffro yn gysylltiedig. Dyblodd maint y data band eang a ddefnyddiwn yn y DU. Felly hefyd yr amser a dreuliodd pobl yn gwylio gwasanaethau ffrydio.

Yn awr, wrth gwrs, nid yw ein diwydiannau erioed wedi bod yn ddieithriaid i newid. Drwy gydol 52 mlynedd yr IIC, maent wedi cael eu pweru gan arloesedd, technoleg a chyfle. Ond nid yw'r newid hwnnw erioed wedi bod mor gyflym; ac nid yw ychwaith wedi bod â goblygiadau mor arwyddocaol i'n cymdeithasau a'n democratiaethau.

Mae nifer y llwyfannau, dyfeisiau a rhwydweithiau sy'n gwasanaethu cynnwys yn parhau i dyfu. Felly y mae'r materion technolegol ac economaidd sy'n wynebu rheoleiddwyr. Yn achos Ofcom, mae'r rhain yn mynd yn ehangach na chyfryngau a thelathrebu traddodiadol. Maent yn cynnwys diogelwch rhwydweithiau, gwydnwch, cadwyni cyflenwi a chynnwys ar-lein.

Mae rhwydweithiau telathrebu yn mudo o galedwedd traddodiadol i wasanaethau cwmwl a gynigir gan Amazon, Microsoft a Google. Darperir gwasanaethau defnyddwyr fel WhatsApp neu Zoom gan weithredwyr telathrebu traddodiadol a chwmnïau ar y rhyngrwyd sy'n gweithio ar draws y gadwyn werth. Yn gynyddol mae'r rhwydweithiau hynny'n darparu cynnwys teledu a fideo ar-alw.

Mae cydgyfeirio fel hyn yn creu materion cymhleth sy'n gorgyffwrdd. Ni all unrhyw gorff, gwlad na hyd yn oed gyfandir unigol fynd i'r afael â nhw ar eu pennau eu hunain. Ni allwn ychwaith ymateb i unrhyw un o'r heriau mwyaf a wynebwn – boed hynny'n effaith Covid ar ein sector, neu gyflymder llethol y newid mewn technoleg a chymdeithas – os safwn ar wahân.

Felly, credaf yn angerddol na fu'r IIC, gyda chydweithio wrth ei wraidd, erioed yn bwysicach. A heddiw hoffwn dynnu sylw at ddau faes lle bydd partneriaethau'n hanfodol os ydym am gyflawni ein nodau a rennir.

Yn gyntaf, gweithio gyda'n partneriaid rhyngwladol  i helpu i greu bywyd mwy diogel ar-lein i'n pobl, ein teuluoedd a'n plant. Dyma flaenoriaeth gynyddol i lywodraethau ledled y byd.

Ac yn ail, ffordd newydd o rannu arbenigedd o fewn ein gwledydd ein hunain, fel y gallwn amgyffred a mynd i'r afael â chymhlethdodau'r byd digidol.

Bywyd mwy diogel ar-lein – gweithio'n fyd-eang

Gadewch i ni ddechrau gyda diogelwch ar-lein, lle mae awydd byd-eang am newid.

Mae economi'r rhyngrwyd wedi rhoi hwb i gynhyrchiant a helpu busnesau i gyrraedd marchnadoedd newydd. Mae wedi rhoi cyfleoedd newydd i ddefnyddwyr fynegi eu hunain, cyfathrebu'n fwy rhydd a chyrraedd cynulleidfa ehangach. Ond yn rhy aml mae cwmnïau wedi blaenoriaethu twf cyflym – gan gyrraedd ehangder a graddfa ddigynsail – dros ddiogelwch eu defnyddwyr.

Ledled Ewrop, mae rheoleiddwyr y cyfryngau – gan gynnwys Ofcom – bellach yn goruchwylio safleoedd ac apiau a ddefnyddir i rannu fideos.

Er nad yw'r DU bellach yn rhan o'r UE, mae Llywodraeth y DU wedi gweithredu'r cyfreithiau Ewropeaidd newydd hyn yma hefyd.

Maent yn mynnu bod 'llwyfannau rhannu fideos' yn cymryd camau i ddiogelu pobl dan 18 oed rhag deunydd niweidiol – ac i ddiogelu pawb rhag anogaeth i gasineb neu drais, a deunydd troseddol arall. I ni yn y DU, daw 18 o wasanaethau o fewn y cwmpas – o gyfryngau cymdeithasol proffil uchel fel Snapchat a TikTok, i wefannau gwasanaethau oedolion, teithio a hapchwarae.

Rydym eisoes yn gweithio gyda'r llwyfannau i'w helpu i ddeall y rheolau newydd. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar sut y dylent gydymffurfio.

Dros y flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu ffocysu eu sylw ar leihau'r risg o ddeunydd fel cam-drin plant yn rhywiol, casineb ar-lein a therfysgaeth. Byddwn hefyd yn chwilio am welliannau i'r ffordd y maent yn sicrhau bod cynnwys yn briodol i oedran eu defnyddwyr.

Gan edrych ymhellach ymlaen, rydym yn adeiladu ar ein profiad gyda gwefannau fideo drwy baratoi i reoleiddio diogelwch ar-lein. Mae hon yn dasg y bydd Llywodraeth y DU yn ei rhoi i Ofcom mewn deddfwriaeth newydd. Mae'r cylch gwaith hwnnw'n faes arall sydd heb ei brofi'n fyd-eang, felly roeddwn i'n meddwl y gallai fod o gymorth i esbonio'n gryno sut y byddwn yn mynd at y dasg.

Bydd y cyfreithiau newydd yn cyflwyno dyletswydd gofal, a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth ar-lein sy'n caniatáu i ddefnyddwyr gynhyrchu a rhannu cynnwys, neu ryngweithio â'i gilydd, ofalu am eu defnyddwyr. Bydd gwasanaethau chwilio hefyd yn atebol am eu diogelu rhag cynnwys anghyfreithlon.

Rhaid i bob cwmni sydd o fewn cwmpas fynd i'r afael â chynnwys anghyfreithlon a diogelu plant. Mae'n rhaid i wasanaethau mwy o ran maint a risg uchel ddiogelu defnyddwyr sy'n oedolion rhag cynnwys 'cyfreithiol ond niweidiol' hefyd.

Wrth gwrs, ni fydd modd byth atal pob achos o niwed rhag digwydd. Rydym i gyd yn gwybod bod y rhyngrwyd bron yn amgylchfyd di-ben-draw. Felly nid yw Senedd y DU yn gofyn i Ofcom reoleiddio cynnwys ar-lein.

Yn hytrach, bydd gofyn i ni ddal llwyfannau i gyfrif am asesu'r risgiau i'w defnyddwyr, a rhoi mesurau pendant ar waith i fynd i'r afael â nhw. Gan mwyaf, byddwn yn archwilio ac yn gorfodi yn erbyn eu systemau a'u prosesau, yn hytrach na'r cynnwys. Dyna gwahaniaeth pwysig i'r ffordd rydym yn rheoleiddio teledu a radio.

Mae hefyd yn faes eithaf blaengar. Mae'r rheolau hyn sydd ar ddod, a hyd yn oed y rhai presennol ar lwyfannau rhannu fideos, yn gymharol ddigynsail ar draws y byd. A dyna sy'n gwneud cydweithredu mor bwysig.

Mae llawer ohonoch chi'n ymdrin â'r un materion â ni: cynnwys anghyfreithlon, sicrwydd oedran, preifatrwydd ac amddiffyn plant. Mae ein dinasyddion yn gynyddol yn aelodau o'r un gynulleidfa – boed hynny i Facebook, YouTube, Amazon neu Netflix.

Mae'r cynnwys a wyliwn, a'r data a rannwn, yn dangos ychydig iawn o barch at ffiniau cenedlaethol. Maent yn teithio drwy'r awyr, o dan y môr a thros rwydweithiau byd-eang ar gyflymder golau.

Felly mae gennym gyfle ar y cyd i siapio'r byd ar-lein yn y dyfodol gyda'n gilydd – gan gyfuno ein sgiliau, rhannu ein canfyddiadau, cefnogi gorfodaeth a phennu safonau ar y cyd.

Ac yn union fel y mae cydweithredu'n bwysig rhwng ein gwledydd, mae hefyd yn bwysig ynddynt. Mae gan bob rheoleiddiwr gylch gwaith a sgiliau diffiniedig. Ond ni all yr un ohonom fynd i'r afael â chynnwys ar-lein heb ddealltwriaeth ehangach a rennir o farchnadoedd ar-lein: yr economeg y tu ôl i fusnesau'r llwyfannau; y berthynas rhwng pris, preifatrwydd a data; effeithiau pŵer y farchnad; rôl gynyddol AI; a datblygiad cyflym gwasanaethau ariannol digidol.

Mae arnom angen partneriaid sy'n arbenigo yn yr holl agweddau hyn ar y byd digidol. Oherwydd nad yw digidol yn sector o'r economi gydag un rheoleiddiwr unigol. Yn gynyddol, dyma'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau.

Esbonio'r Fforwm Cydweithredol ar Reoleiddio Digidol (DRCF)

Dyna pam, yn y DU, ein bod yn cydweithio mewn ail ffordd – drwy gorff newydd. Rydym wedi ffurfio rhywbeth o'r enw y Fforwm Cydweithredu ar Reoleiddio Digidol.

Mae Ofcom yn chwarae ei ran, o ystyried ein rôl VSP, ar-lein a rhwydweithiau. Ein cyd-aelodau yn y DU yw Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth– sy'n arwain ar ddiogelu data; yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol – sydd â rolau wrth gefnogi technoleg ariannol a bancio agored, a thaclo problem gynyddol sgamiau ariannol; a'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd – sydd, gyda'r risg o'ch llethu gydag enwau, hefyd yn arwain Uned Marchnadoedd Digidol ar wahân i oruchwylio rheolau cystadleuaeth ar gyfer y cwmnïau digidol mwyaf pwerus.

Nawr, nod y DRCF yw rheoleiddio clir, cyson a chydgysylltiedig. Rydym hefyd am greu darlun ar y cyd o dueddiadau ac arloesiadau pwysig yn y diwydiant. Gallwn gyfuno adnoddau ac osgoi dyblygu. A gallwn ymateb yn gyflym i newidiadau yn y farchnad.

Dyma un enghraifft. Mae Ofcom yn goruchwylio sut mae llwyfannau fideo yn gwirio oedran eu defnyddwyr. Mae yna hefyd ofyniad cyfreithiol ar wahân ar gyfer gwasanaethau ar-lein i ddiogelu data plant. Felly mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi datblygu cod iddynt ei ddilyn, ac mae angen i ni sicrhau bod ein rheolau priodol yn gydlynus.

Mewn rhai ffyrdd, mae'r fforwm digidol newydd yn arbrawf. Mae ein haelodau bob amser wedi gweithio gyda'i gilydd; ond mae hyn yn mynd ymhellach. Nid yw'n endid cyfreithiol. Nid ydym yn creu pwerau newydd i ni ein hunain. Yn hytrach, rydyn ni eisiau rhannu nodau a datrys problemau gyda'n gilydd, drwy gorff newydd.

Mae gan y fforwm gynllun gwaith eisoes. Yn fyr iawn, i roi blas i chi, dyma dri pheth rydyn ni'n eu gwneud gyda'n gilydd.

Yn gyntaf, rydym yn sefydlu prosiectau ar y cyd mewn meysydd fel algorithmau, amgryptio a hysbysebu – gan weithio gyda chorff DU arall, yr Awdurdod Safonau Hysbysebu.

Yn ail, rydym yn datblygu dulliau rheoleiddio ar y cyd, gan sicrhau bod y rheolau a'r codau presennol yn gyson.

Yn drydydd, rydym yn dod o hyd i ffyrdd ymarferol o rannu ein gwybodaeth, ein sgiliau a'n hadnoddau mewn meysydd fel AI, dadansoddi data a sgamiau niweidiol.

Mae ein fforwm newydd yn ein helpu i ystyried yr agweddau hyn yn gyffredinol, yn hytrach nag ar wahân. Ystyriwch breifatrwydd ac anhysbysrwydd. Rydyn ni'n gwybod y gall amgryptio roi cyfrinachedd i ddefnyddwyr. Mewn rhai gwledydd, efallai na fydd pobl hyd yn oed yn teimlo y gallant gymryd rhan mewn trafodaeth gyhoeddus heb gysgod anhysbysrwydd. Ond ar yr un pryd, os yw'r nodweddion hyn yn ei gwneud yn anodd i gwmnïau wybod beth sy'n digwydd ar eu llwyfan, gallai fod yn anoddach iddynt asesu risgiau i ddefnyddwyr eraill.

Felly nid cwestiynau deuaidd mo'r rhain; maent yn faterion cymhleth, sy'n cloi ar ei gilydd ac yn mynnu dull gweithredu soffistigedig a chydlynus.

Casgliad

Dyma rai enghreifftiau o sut rydym yn mynd at y materion hyn gyda'n gilydd yn y DU. Rydym eisoes wedi gweld bod ein fforwm ar y cyd yn hynod bwerus a chynhyrchiol. Gwn fod ein cydweithwyr yng Ngweriniaeth Iwerddon yn mabwysiadu dull tebyg, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at glywed amdano.

Oherwydd, er bod gan bob marchnad ei nodweddion a'i blaenoriaethau ei hun gyda fframweithiau cyfreithiol a hanesion rheoleiddio gwahanol, mae cynifer o'n heriau yr un fath.

Pan ymunais ag Ofcom y llynedd, roeddwn wrth fy modd â darganfod cryfder ein rhwydweithiau a'n cyfeillgarwch byd-eang. Nid oes unrhyw flaenoriaeth sydd gennym, nid oes unrhyw faes gwaith yr ydym yn ymwneud ag ef, na ellir ei wella a'i gyfeirio gan y safbwyntiau a ddaw yn eich sgil.

Mae hynny'n golygu nid yn unig diogelwch ar-lein, ond hefyd gyfryngau traddodiadol, telathrebu a sbectrwm. Nid rheoleiddio cynnwys yn unig, ond rhwydweithiau, cystadleuaeth ac economeg yn yr un modd.

Felly bydd Ofcom yn parhau i weithio ledled y byd, i ddysgu a rhannu syniadau a phrofiadau. Gobeithiwn glywed gan bob un ohonoch. A byddwn yn anelu at fod yn llais adeiladol, addysgiadol yn y sgwrs fyd-eang am ddyfodol cyfathrebu, wrth i bob un ohonom ystyried y ffordd orau o wasanaethu ein dinasyddion.

Diolch.

Related content