Cynnwys neu wasanaethau a ddarperir gan TV-Novosti neu Rossiya Segodnya

Fel rhan o fesurau newydd Llywodraeth y DU gan ddilyn ymosodiad Rwsia ar Wcráin, penodwyd Ofcom yn awdurdod gorfodi i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau sy'n pennu sancsiynau mewn perthynas â gwasanaethau rhyngrwyd penodol yn y DU.

Ein gwaith ni yw sicrhau:

  1. bod darparwyr gwasanaethau mynediad i'r rhyngrwyd yn cymryd camau rhesymol i atal defnyddwyr rhag hygyrchu unrhyw wasanaeth rhyngrwyd a ddarperir gan TV-Novosti neu Rossiya Segodnya;
  2. bod darparwyr gwasanaethau cyfryngau cymdeithasol yn cymryd camau rhesymol i atal cynnwys sy'n cael ei gynhyrchu'n uniongyrchol ar eu gwasanaeth, neu ei uwchlwytho i'w gwasanaeth neu ei rannu arni, gan tv-Novosti neu Rossiya Segodnya rhag cael eu gweld gan ddefnyddiwr yn y DU; a
  3. bod darparwyr storfeydd apiau y gellir lawrlwytho ap ar gyfer gwasanaeth rhyngrwyd trwyddynt neu y gellir eu cyrchu fel arall yn cymryd camau rhesymol i atal defnyddwyr rhag lawrlwytho neu gael mynediad fel arall, drwy gyfrwng y gwasanaeth hwnnw, i unrhyw wasanaeth rhyngrwyd a ddarperir gan TV-Novosti neu Rossiya Segodnya.

At y dibenion hyn, mae gwasanaethau rhyngrwyd a ddarparwyd gan TV-Novosti yn cynnwys rt.com; mae gwasanaethau rhyngrwyd a ddarparwyd gan Rossiya Segodnya yn cynnwys sputniknews.com.

Os yw eich cwyn yn ymwneud â gwasanaeth a ddarperir – neu gynnwys a gynhyrchir, a uwchlwythir neu a rennir – gan TV-Novosti neu Rossiya Segodnya, dylech roi gwybod amdano i'r gwasanaeth mynediad i'r rhyngrwyd, y gwasanaeth cyfryngau cymdeithasol neu'r storfa apiau y cafodd ei gyrchu ohoni. Dylai manylion ar sut i wneud hyn fod ar gael ar wefan y gwasanaeth neu storfa apiau. Gallwch roi gwybod i ni hefyd drwy ein hebostio ar: russiasanctions@ofcom.org.uk.

Er nad ydym yn ymateb i gwynion unigol, bydd yr wybodaeth rydych yn ei darparu'n helpu Ofcom i fonitro a yw'r cwmnïau hyn yn cymryd camau digonol i gydymffurfio â chyfundrefn sancsiynau Llywodraeth y DU  a bydd yn helpu ni i benderfynu a yw'n briodol i ni gymryd camau rheoleiddio.

Rhoi barn am y dudalen hon

Oedd y dudalen hon yn ddefnyddiol?