Adolygiad o'r Cod Darlledu

  • Dechrau: 15 Rhagfyr 2016
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 09 Chwefror 2017

Mae'r ddogfen hon yn nodi diwygiadau Ofcom i'r Cod Darlledu ("y Cod") fel ei fod yn berthnasol i'r BBC. Mae hefyd yn cynnwys diwygiadau eraill i sicrhau bod y Cod yn aros yn glir ac yn berthnasol i'r holl ddarlledwyr a darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alwad yr ydym yn eu rheoleiddio.

Mae Siarter a Chytundeb newydd y BBC yn mynnu bod yn rhaid i Wasanaethau Darlledu a Rhaglenni Ar-alwad y BBC yn y DU[1] gydymffurfio â'r Cod, a bod yn rhaid i Ofcom sicrhau safonau cynnwys ar gyfer y BBC. Ym mis Rhagfyr 2016, cyhoeddodd Ofcom ymgynghoriad ar y newidiadau arfaethedig i'r Cod i adlewyrchu'r gofynion hyn.

Mae Ofcom wedi ystyried yn ofalus yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad ac mae'r datganiad hwn yn cwblhau'r adolygiad.  Bydd y Cod Darlledu diwygiedig yn dod i rym pan fydd Ofcom yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoleiddio’r BBC ar y Dyddiad Dod i Rym sy’n cael ei nodi yn y Siarter, sef 3 Ebrill 2017[2].

[1] Fel BBC iPlayer ac iPlayer Kids (rhaglenni clyweledol a sain).

[2] Mae Ofcom eisoes wedi cyhoeddi'r fersiynau diwygiedig o Adran Pump, Adran Chwech a rheolau Ofcom ar Ddarllediadau Gwleidyddol a Refferenda ar wefan Ofcom (https://www.ofcom.org.uk/cymru/consultations-and-statements/category-2/broadcast-impartiality-accuracy-and-elections-rules-review). Daeth y rheolau hyn i rym ar 22 Mawrth 2017, pan ddechreuom reoleiddio'r BBC yn y meysydd hyn, a phan ddechreuodd cyfnod yr etholiad ar gyfer etholiadau Mai 2017.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BBC (PDF File, 201.4 KB) Sefydliad
ITV (PDF File, 302.8 KB) Sefydliad
Radio Centre (PDF File, 242.5 KB) Sefydliad
UK Lawyers for Israel (PDF File, 94.7 KB) Sefydliad
Voice of the Listener & Viewer (PDF File, 445.7 KB) Sefydliad