Datganiad: Darparu'r Gwasanaeth Cyffredinol Band Eang
- Dechrau: 05 Rhagfyr 2018
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 13 Chwefror 2019
Rydym ni eisiau i bobl ledled y Deyrnas Unedig gael mynediad at wasanaethau band eang a symudol gwell, fel bod pawb yn elwa o'r gwasanaethau y maen nhw'n eu cynnig. Mae hynny'n golygu hybu buddsoddiad mewn rhwydweithiau gwell a gwneud yn siŵr bod darpariaeth rhwydweithiau'n ymestyn cyn belled â phosib - hyd yn oed i'r ardaloedd anodd eu cyrraedd.
Ym mis Mawrth 2018, cyflwynodd y Llywodraeth ddeddfwriaeth ar 'rwymedigaeth gwasanaeth cyffredinol' (USO) band eang sy'n rhoi hawl i gartrefi a busnesau ofyn am gysylltiad band eang teilwng a fforddiadwy. Rydym ni’n croesawu'r USO band eang, rhan bwysig o'r gwaith o wella mynediad at wasanaethau band eang ledled y Deyrnas Unedig. Rydym ni wedi gweithio'n gyflym i'w roi ar waith, fel bod pobl yn gallu gofyn am gysylltiad ac yn gallu derbyn y gwasanaethau hyn cyn gynted â phosib.
Ar hyn o bryd rydym yn penodi BT a KCOM yn Ddarparwyr Gwasanaeth Cyffredinol ac yn gosod yr amodau perthnasol wrth iddyn nhw ddarparu'r cysylltiadau a'r gwasanaethau USO.
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
Adam, Mr G. (PDF File, 71.8 KB) | Ymateb |
BT (PDF File, 871.4 KB) | Sefydliad |
CISAS (PDF File, 91.7 KB) | Sefydliad |
CityFibre (PDF File, 246.8 KB) | Sefydliad |
Communications Consumer Panel (CCP) (PDF File, 299.6 KB) | Sefydliad |