Datganiad: Rhifau gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn (118)

  • Dechrau: 13 Mehefin 2018
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 22 Awst 2018

Mae’r datganiad hwn yn ymwneud â defnydd a rheoleiddio rhifau 118. Dyma rifau ffôn sy’n cael eu defnyddio yn unig ar gyfer gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn.

Mae prisiau gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn wedi codi’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd ddiwethaf. Ym Mai 2017, agorodd Ofcom adolygiad Costau Galwadau i archwilio’r cynnydd yng nghostau gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn i sicrhau bod prisiau yn deg a thryloyw ar gyfer defnyddwyr.

Yn y datganiad hwn, rydym yn nodi’r penderfyniadau wnaethon ni i amddiffyn defnyddwyr o’r niwed rydym wedi ei ddarganfod.

Yr hyn rydyn ni wedi’i benderfynu – yn gryno

Mae prisiau rhai gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn yn uchel ac wedi codi'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Y gwasanaeth ymholiadau rhifau ffôn mwyaf adnabyddus ydy 118 118 ac mae’r prisiau bedair gwaith yn fwy ar gyfer galwad munud o hyd ers Ch4 2012. Mae hi nawr yn costio £8.98 am unrhyw alwad hyd at funud o hyd, a £13.47 am alwad dau funud o hyd. Mae rhai darparwyr eraill yn codi mwy na £20 am alwad dau funud o hyd.

Dydy defnyddwyr ddim yn gwybod faint mae’r galwadau’n ei gostio ac yn dweud nad oes ganddyn nhw ddewis arall. Canfu Ofcom bod 65% o ddefnyddwyr yn dweud nad oeddent yn gwybod beth oedd cost ffonio gwasanaeth ymholiadau rhifau ffôn y tro diwethaf iddyn nhw eu ffonio a dywed 40% o ddefnyddwyr yn dweud eu bod yn talu mwy na’r disgwyl. Mae prisiau uchel yn golygu bod rhai defnyddwyr yn cael trafferth i dalu eu biliau.

Mae'r cyfuniad o brisiau uchel a thryloywder gwael ynghylch prisiau yn golygu y codir mwy ar ddefnyddwyr nag y maen nhw’n disgwyl ei dalu. Mae ein hymchwil yn dangos bod bron i 40% o ddefnyddwyr gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn (sy’n gyfystyr â 450,000 o unigolion) yn dweud eu bod wedi talu mwy na’r disgwyl. Mae prisiau uchel yn golygu bod rhai defnyddwyr yn ei chael hi'n anodd talu eu biliau.

Rydym wedi penderfynu gosod cap prisiau ar faint caiff darparwyr gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn ei godi sef £3.65 (yn cynnwys TAW) fesul 90 eiliad. Bydd gosod cap ar y lefel hon yn dod â phrisiau yn nes at beth mae defnyddwyr yn disgwyl ei dalu. Bydd yn diogelu defnyddwyr drwy leihau sioc biliau ac yn gwella fforddiadwyedd gwasanaethau ymholiadau rhifau ffôn.

Mae’r trosolwg hwn yn grynodeb lefel uwch sydd wedi ei symleiddio yn unig. Mae ein penderfyniadau a’n rhesymau drostynt yn cael eu hegluro yn y ddogfen lawn.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Age UK (PDF File, 78.8 KB) Sefydliad
Best Number (PDF File, 150.5 KB) Sefydliad
BT (PDF File, 720.3 KB) Sefydliad
Campaign to Retain Payphones (PDF File, 96.0 KB) Sefydliad
Carter, Mr G. (PDF File, 138.1 KB) Ymateb