Datganiad: Rheoleiddio hysbysebu ar lwyfannau rhannu fideos

  • Dechrau: 26 Mai 2021
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 28 Gorffennaf 2021

Datganiad wedi'i gyhoeddi 7 Rhagfyr 2021

Ers 1 Tachwedd 2020, mae rheolau newydd ynghylch diogelu defnyddwyr rhag cynnwys niweidiol, gan gynnwys safonau o gwmpas hysbysebu, wedi bod yn berthnasol i lwyfannau rhannu fideos (VSP) a sefydlir yn y DU.

Mae'r fframwaith statudol ar gyfer hysbysebu ar VSP yn gwahaniaethu rhwng hysbysebu sy'n cael ei farchnata, ei werthu neu ei drefnu gan y darparwr VSP a hysbysebu nad yw'n cael ei farchnata, ei werthu neu ei drefnu ganddo. Rhwng 26 Mai 2021 a 28 Gorffennaf 2021, ymgynghorodd Ofcom ar ddull rheoleiddio a fyddai'n adlewyrchu'r gwahaniaeth hwn ac a ddyluniwyd i fod mor syml a niwtral o ran technoleg â phosib. Gwnaethom ymgynghori hefyd ar gynigion i ddynodi'r Awdurdod Safonau Hysbysebu i weinyddu rheoleiddio hysbysebu a reolir gan VSP ar sail bob dydd - gydag Ofcom fel rheoleiddiwr statudol wrth gefn - ac arweiniad drafft a ddyluniwyd i helpu VSP i ddeall a chydymffurfio â''u rhwymedigaethau o ran hysbysebu. Rydym wedi ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i'n hymgynghoriad ac mae'r datganiad hwn yn nodi ein penderfyniad ar reoleiddio hysbysebu ar VSPs.

Rydym wedi cyhoeddi ein dynodiad o'r ASA a'n harweiniad terfynol ochr yn ochr â'r datganiad hwn.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
5Rights Foundation (PDF File, 178.8 KB) Sefydliad
Age Verification Providers Association (PDF File, 185.4 KB) Sefydliad
Alcohol Focus Scotland (PDF File, 223.7 KB) Sefydliad
Antisemitism Policy Trust (PDF File, 81.4 KB) Sefydliad
Channel 4 (PDF File, 170.2 KB) Sefydliad