Datganiad: Diweddaru canllawiau Ofcom ar ddiogelwch rhwydweithiau a gwasanaethau

  • Dechrau: 30 Mehefin 2017
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 07 Medi 2017

Datganiad 18 Rhagfyr 2017

Mae'r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i ddarparwyr telegyfathrebiadau yn ei gwneud yn ofynnol iddynt roi mesurau ar waith i ddiogelu cadernid a diogelwch eu rhwydweithiau a’u gwasanaethau. Mae gan Ofcom y pŵer i ymyrryd os nad yw darparwr, yn ein barn ni, yn rhoi'r mesurau priodol ar waith. Ym mis Mai 2011, cyhoeddom ganllawiau yn hysbysu’r darparwyr perthnasol am yr hyn rydym yn disgwyl iddynt ei wneud er mwyn cyflawni eu rhwymedigaethau. Fe wnaethom ddiweddau'r canllawiau yn 2014.

Ym mis Mehefin 2017, penderfynom ei bod yn briodol eu diweddaru ymhellach, ac fe gyhoeddwyd ymgynghoriad gennym yn nodi’r newidiadau roeddem yn eu cynnig.  Mae’r ddogfen hon yn crynhoi’r ymatebion a gawsom i’r ymgynghoriad, yn rhoi ein hymateb iddynt ac yn esbonio'r newidiadau rydym wedi penderfynu eu gwneud o ganlyniad i hynny.  Rydym hefyd yn cyhoeddi'r canllawiau diwygiedig, sef ‘Canllawiau Ofcom ar y gofynion diogelwch yn adran 105A i D o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003’, ar y cyd â'r ddogfen hon.

Anfonwyd y rhan fwyaf o’r ymatebion a ddaeth i law gan ddarparwyr telegyfathrebiadau, ond clywsom hefyd gan awdurdod hawliau gwybodaeth y DU.  Yn gryno, roedd y darparwyr yn poeni’n bennaf y byddai rhai agweddau ar y canllawiau diwygiedig yn cynyddu’r baich a wynebir ganddynt o safbwynt cydymffurfio.  Roedd y rhan fwyaf yn cytuno y byddai rhai diweddariadau yn fuddiol, ond nid oedd pawb yn gytûn fod unrhyw rai o’r awgrymiadau yn ein hymgynghoriad yn gywir, nac ychwaith yn anghywir.  At ei gilydd, rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen gyda’r newidiadau a gynigiwyd gennym, gydag esboniad ychwanegol neu fân addasiadau mewn rhai achosion.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BT (PDF File, 815.2 KB) Sefydliad
Colt (PDF File, 338.5 KB) Sefydliad
ICO (PDF File, 325.8 KB) Sefydliad
KCOM (PDF File, 317.5 KB) Sefydliad
Sky (PDF File, 200.2 KB) Sefydliad