Datganiad: Adolygiad o'r farchnad mynediad band eang cyfanwerthol

  • Dechrau: 22 Mehefin 2017
  • Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
  • Diwedd: 14 Medi 2017

Drafft cyhoeddwyd 31 Gorffennaf 2018

Mae cystadleuaeth effeithiol mewn gwasanaethau band eang yn chwarae rhan allweddol o ran sicrhau bod defnyddwyr yn elwa ar brisiau is, rhagor o ddewis, gwasanaethau o ansawdd gwell ac arloesi. Y mae hefyd wedi annog nifer uchel o bobl i ymgymryd â'r ddarpariaeth, gydag 80% o gartrefi yn defnyddio band eang sefydlog i gael mynediad at y rhyngrwyd.

Mae'r ddogfen hon yn nodi asesiad Ofcom o gystadleuaeth yn y marchnadoedd mynediad band eang cyfanwerthol (ac eithrio ardal Hull). Mae'r gwasanaethau yn y marchnadoedd hyn yn cael eu prynu gan ddarparwyr telathrebu i gyflenwi gwasanaethau band eang manwerthu i ddefnyddwyr preswyl a busnesau. Rydym wedi cyhoeddi dogfen ar wahân heddiw yn nodi ein canfyddiadau a'n hatebion ar gyfer band eang yn ardal Hull.

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys ein dadansoddiad o gystadleuaeth yn y marchnadoedd hyn, gan ganolbwyntio ar benderfynu a yw unrhyw ddarparwr telathrebu mewn sefyllfa ddigon cryf i ddylanwadu ar ganlyniadau'r farchnad. Yna, rydym yn nodi'r offerynnau rheoleiddiol rydym yn eu cyflwyno i ddiogelu cystadleuaeth yn yr ardaloedd hynny lle nad yw cystadleuaeth gyfanwerthol yn effeithiol.


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
BT (PDF File, 1.2 MB) Sefydliad
Intelsat (PDF File, 529.4 KB) Sefydliad
TalkTalk (PDF File, 500.5 KB) Sefydliad
UKCTA (PDF File, 660.9 KB) Sefydliad
Verizon (PDF File, 232.0 KB) Sefydliad