Ymgynghoriad: Dyfarnu'r bandiau sbectrwm 700 MHz a 3.6-3.8 GHz – Cynigion diwygiedig ar ddyluniad yr arwerthiant

  • Dechrau: 28 Hydref 2019
  • Statws: Ar gau
  • Diwedd: 09 Rhagfyr 2019

Mae gwasanaethau symudol dibynadwy wedi dod yn hanfodol i’r ffordd y mae pobl yn byw ac yn gweithio ar draws y DU, a rhaid i rwydweithiau ffonau symudol gadw i fyny â’r angen cynyddol am gapasiti a darpariaeth. Mae Sicrhau bod gwasanaethau band eang a symudol gwell – lle bynnag fyddwch chi, felly yn un o brif flaenoriaethau Ofcom, fel y nodir yn ein cynllun blynyddol.

Mae Ofcom yn rheoli’r sbectrwm radio - sef y tonnau awyr y mae dyfeisiau di-wifr fel ffonau symudol yn eu defnyddio i gyfathrebu. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod y sbectrwm yn cael ei neilltuo ac yn cael ei ddefnyddio er budd dinasyddion a defnyddwyr y DU. Rydyn ni’n paratoi i ddyfarnu 200 MHz o sbectrwm mewn dau fand amledd y flwyddyn nesaf. Mae'r ddogfen hon yn nodi ein cynigion wedi'u diweddaru ar gyfer dyluniad yr arwerthiant.

Ymateb i'r ymgynghoriad hwn

Anfonwch eich ymatebion drwy ddefnyddio'r ffurflen ymateb i ymgynghoriadau (ODT, 60.4 KB).


Prif ddogfennau

Dogfennau cysylltiedig

loading icon

Ymatebion

Enw'r ymatebwr Math
Arqiva (PDF File, 365.5 KB) Sefydliad
Bentley, Mr D (PDF File, 84.2 KB) Ymateb
BT-EE (PDF File, 576.0 KB) Sefydliad
Communications Consumer Panel (PDF File, 81.4 KB) Sefydliad
Learmond-Criqui, Ms J (PDF File, 478.0 KB) Ymateb