Gweithdrefnau newydd ar gyfer delio â chwynion am safonau cynnwys, ymchwiliadau a sancsiynau ar gyfer rhaglenni’r BBC
- Dechrau: 01 Rhagfyr 2016
- Statws: Datganiad a gyhoeddwyd
- Diwedd: 28 Chwefror 2017
Dan Gytundeb a Siarter newydd y BBC, rhaid i wasanaethau darlledu a rhaglenni ar alwad y BBC yn y DU[1] gydymffurfio â Chod Darlledu Ofcom (“y Cod”) a rhaid i Ofcom sicrhau safonau cynnwys ar gyfer y BBC.
Pan fydd Ofcom yn cael cwyn neu’n penderfynu ymchwilio i weld a yw’r BBC wedi torri'r Cod, byddwn yn dilyn ein gweithdrefnau cyhoeddedig. Ar ôl ymgynghori, mae’r ddogfen hon yn nodi’r gweithdrefnau terfynol y bydd Ofcom fel arfer yn eu dilyn ar gyfer gwasanaethau darlledu a rhaglenni ar alwad y BBC yn y DU a ariennir gan ffi'r drwydded wrth:
- ystyried ac ymchwilio i faterion sy’n ymwneud â safonau cynnwys o dan y Cod;
- ystyried a dyfarnu ynghylch cwynion am Degwch a Phreifatrwydd o dan y Cod; ac
- ystyried rhoi sancsiynau am dorri’r Cod.
Bydd y gweithdrefnau hyn yn dod i rym pan fydd Ofcom yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb dros reoleiddio’r BBC ar y Dyddiad Dod i Rym sy’n cael ei nodi yn y Siarter, sef 3 Ebrill 2017.
1) Fel BBC iPlayer ac iPlayer Kids (rhaglenni clyweledol a sain).
Prif ddogfennau
Dogfennau cysylltiedig
Ymatebion
Enw'r ymatebwr | Math |
---|---|
ATT Global Network Services UK BV (PDF File, 387.5 KB) | Sefydliad |
BT (PDF File, 1.1 MB) | Sefydliad |
Colt (PDF File, 663.4 KB) | Sefydliad |
KCOM (PDF File, 327.9 KB) | Sefydliad |
Magrathea (first response) (PDF File, 161.3 KB) | Sefydliad |